Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal am nad oedd yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd John Roberts yn
dilyn salwch diweddar. Hefyd, estynnwyd cydymdeimlad i’r Cynghorydd John
Roberts a’i deulu ar golli ei wyres. ii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Natalie Bowen, Swyddog Gwasanaethau
Parcio ar gael ei gwobrwyo’n swyddogol gyda chap rhyngwladol yn ddiweddar yn
dilyn ei rhan mewn gêm rygbi rhwng Cymru
a Chanada yn 2007. iii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Sioned Harries yn dilyn ei
hymddangosiad yn yr WXV1 gyda thîm rygbi merched Cymru a gynhaliwyd yn
Awstralia. iv.
Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Glybiau Ffermwyr Ifanc
Ceredigion ar gynnal Eisteddfod lwyddiannus yn ddiweddar. Estynnwyd
llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach ar
ennill yr Eisteddfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: ii.
Datganodd
y Cynghorwyr Keith Henson a Chris James fuddiant personol mewn perthynas ag eitem
101. iii.
Datganodd
Neris Morgans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd fuddiant personol mewn perthynas ag eitem
101, yn unol â'r Cod
Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2023 yn
gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda a.
Argymhelliad gan y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar y Cynigion a’r Cyfleoedd ar gyfer
Parcio Cofnodion: a. Argymhelliad gan y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar y Cynigion a’r Cyfleoedd ar
gyfer Parcio. Nodwyd
yr adroddiad. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi cynnwys yr Adroddiad – ‘ADOLYGU’R DDARPARIAETH ÔL-16
YNG NGHEREDIGION’. 2.
Cynnal Astudiaeth Ddichonolrwydd er mwyn rhoi ystyriaeth
fanwl i Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yn yr Adolygiad. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm dros y
penderfyniad: 1.
Cabinet i nodi cynnwys yr Adroddiad. 2.
Ystyried ymhellach manteision ac anfanteision Opsiwn 2 ag
Opsiwn 4 yng nghyd-destun y chwech egwyddor. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r
Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff
Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r cynnig i fwrw ymlaen â chwblhau astudiaeth
ddichonoldeb i archwilio’r opsiynau ar gyfer ailddatblygu Cartref Gofal Preswyl
Yr Hafod, Aberteifi yn unol â’r Strategaeth Llesiant Gydol Oes. 2.
Cyflwyno canfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r
cynllun arfaethedig i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach cyn dod
yn ôl gerbron y Cabinet. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
galluogi i’r Awdurdod fwrw ymlaen gyda’r gwaith o ailddatblygu Cartref Gofal
Preswyl Yr Hafod yn unol â’r Strategaeth Llesiant Gydol Oes. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo fod
ffordd y stâd Maes yr Halen, Cross Inn, Ceinewydd fel y nodwyd ar y cynllun yn Atodiad A
yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu fel priffordd caiff ei chynnal a’i chadw ar
gost y cyhoedd o dan ddeddfwriaeth Adran 38 ac Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980. Y rheswm dros y
penderfyniad: Caniatáu i’r
ffordd gael ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd a sicrhau llesiant i’r
dyfodol i’r cyhoedd fydd yn defnyddio’r ffordd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo fod
ffordd y stâd Cae Bach y Rhiw, Rhydyfelin fel
y nodwyd ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu fel
priffordd caiff ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd o dan ddeddfwriaeth
Adran 38 ac Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980. Y rheswm dros y
penderfyniad: Caniatáu i’r
ffordd gael ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd a sicrhau llesiant i’r
dyfodol i’r cyhoedd fydd yn defnyddio’r ffordd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Argymell bod y
Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2022/23 gan gynnwys y Adolygiad
Blynyddol o’r Amcanion Perfformiad a Llesiant. 2. Argymell bod y Cyngor
yn cymeradwyo y bydd yr Amcanion Llesiant Corfforaethol yn parhau heb eu newid
ar gyfer y flwyddyn nesaf. 3. Cymeradwyo
cynnal Panel Asesu Perfformiad cyntaf y Cyngor yn gynnar yn 2024/25. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau y
cydymffurfir â Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 /
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |