Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Catrin M S. Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol
yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd croeso cynnes
i Ricky Cooper i’w gyfarfod Cabinet cyntaf yn dilyn ei benodiad yn Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal. ii.
Llongyfarchwyd pawb a fu
ynghlwm â chynnal Rali Ceredigion 2023 a gynhaliwyd yn ddiweddar. Diolchwyd i
staff a phartneriaid am eu gwaith i sicrhau llwyddiant y digwyddiad, a oedd
wedi cael effaith gadarnhaol ar Geredigion gyfan. iii. Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd Sir Meurig James,
a fu farw’n ddiweddar. iv.
Cydymdeimlwyd hefyd â
theulu Steffan Rees o Benparcau, Aberystwyth, a fu
farw’n ddiweddar. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: ii. Datganodd y Cynghorydd Matthew Vaux
fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 72. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y
Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2023 yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion
yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: a)
Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Ffyniannus ar y Cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim cyn 11am ym Meysydd Parcio
Talu ac Arddangos y Cyngor. Nododd y Cabinet yr
adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus roi
ystyriaeth bellach i’r argymhellion a gynigiwyd (gan
gynnwys ystyried y cynlluniau peilot i roi parcio am ddim yn Nhregaron a Llandysul) cyn proses pennu cyllideb 2024-2025. b)
Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach ar Heriau Recriwtio yn y Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes. Nododd y Cabinet yr
adroddiad a’r heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes a chytunwyd
â’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan nodi y byddai
hefyd yn ceisio parhau i gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant. c)
Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
sy’n Dysgu mewn perthynas ag ‘Y Dyfodol’, Cellan. Nododd y Cabinet yr adroddiad a’r
angen i archwilio opsiynau ar gyfer darpariaeth feithrin yn ardal Llanbedr Pont
Steffan; fodd bynnag, nid oedd y cynnig gan y Pwyllgor yn opsiwn ymarferol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Mabwysiadu gweithio
hybrid fel opsiwn parhaol i weithwyr sy’n gallu gweithio yr un mor effeithiol o
bell ag y gallant yn y swyddfa. ii.
Datblygu Polisi Gweithio
Hybrid i ddisodli’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro presennol. iii. Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y
rheswm dros y penderfyniad: Cefnogi parhad y
ffyrdd hybrid o weithio. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo’r Polisi Menopos (Atodiad A). ii.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a chadarnhau y byddai Hyrwyddwr y Menopos
yn cael ei benodi, y byddai’r Cyngor yn hyrwyddo Diwrnod Menopos
y Byd ac y bydd Gweithdy Aelodau yn cael ei gynnal i godi ymwybyddiaeth. Y
rheswm dros y penderfyniad: Cefnogi gweithwyr sy’n profi symptomau’r menopos a’u rheolwyr i fynd i’r afael ag agweddau
galwedigaethol y broses naturiol hon. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo Cynllun y Gweithlu 2023-2028. ii.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cefnogi mabwysiadu Cynllun y Gweithlu newydd i
sicrhau bod y gweithlu yn
bodloni ei anghenion o ran darparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol
a chyhoeddi Hysbysiad o fwriad yn y wasg wedi hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad: I sicrhau mynediad o Stryd y Santes Fair
i gyfleuster carthffosiaeth newydd i leddfu llifogydd. Hefyd, er mwyn gwella’r
mynediad i gerddwyr o Stryd Morgan i Stryd y Santes Fair. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Argymell i’r Cyngor y dylai’r Gorchmynion Diogelu Mannau
Agored Cyhoeddus ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag
Alcohol gael eu hymestyn am 3 blynedd arall, yn weithredol rhwng 20 Hydref 2023
a 19 Hydref 2026. Y
rheswm dros y penderfyniad: Daw’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
presennol i ben ar 19 Hydref 2023. Mae angen hwyluso parhad mesurau drwy barhau
i ddarparu Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn y tair canol tref a
nodwyd. Mae angen gwneud hyn er mwyn mynd i’r afael ag achosion o ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, troseddau a achosir gan
unigolion meddw, ac aflonyddu a chodi ofn ar aelodau’r cyhoedd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno i argymell i'r Cyngor y dylid ymestyn y Gorchymyn
Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i wahardd cŵn mewn ardal ddynodedig o
draeth y Borth a’i gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn mewn
ardal ddynodedig ar bromenâd y Borth am 3 blynedd arall o 19.10.2023 tan
18.10.2026 yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona
2014. Y
rheswm dros y penderfyniad: • Daw'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cyfredol i ben ar 19 Hydref
2023. • Mae angen hwyluso parhad mesurau trwy barhau â
darpariaeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn y Borth. Mae angen
hyn er mwyn mynd i'r afael ag achosion o faw cŵn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol cysylltiedig megis methu â chadw cŵn dan reolaeth. • Er mwyn cydymffurfio â gofynion statudol a sicrhau bod y
ddeddfwriaeth yn cael ei gorfodi'n briodol ac yn effeithiol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo bod
yr adolygiad gorfodol o ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio yn dechrau
ar ddydd Llun, 2 Hydref 2023. 2. Cymeradwyo'r
amserlen amlinellol a’r broses ar gyfer yr adolygiad. Y rheswm dros y penderfyniad: I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cadarnhau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a
ddiweddarwyd. 2. Argymell i’r
Cyngor Llawn ar 21/09/23 bod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a
ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo. 3. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi’r sefyllfa Refeniw gyffredinol a amlinellir yn yr
adroddiad, gan gynnwys y mesurau lliniaru a ddefnyddir i reoli sefyllfa
ariannol heriol yn ystod y flwyddyn. 2.
Cymeradwyo symudiadau’r Gyllideb sydd eu hangen o
ganlyniad i gysoni’r Cyllidebau â Strwythur diweddaraf y Cyngor fel y’i
crynhoir yn Adran 2. Y rheswm dros y penderfyniad: Cydnabod y
sefyllfa ariannol a sicrhau bod y mesurau cywir yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau
bod y Cyngor yn cyflawni sefyllfa ariannol fantoledig
ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cytuno i ddechrau Ymgynghoriad Cyhoeddus ffurfiol
ynghylch lefelau Premiymau Treth y Cyngor yn y dyfodol ar gyfer Eiddo Gwag
Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. 2. Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Cyllid a Chaffael a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a
Diogelu’r Cyhoedd i baratoi a lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus. 3. Cytuno i sefydlu Gweithgor Trawsbleidiol o blith yr
Aelodau i ystyried Premiymau Treth y Cyngor. 4. Nodi y bydd angen i’r Cyngor Llawn ddod i unrhyw
benderfyniad ar newid lefel bresennol Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer naill ai
Eiddo Gwag Hirdymor neu Ail Gartrefi yng Ngheredigion. Y rheswm dros y
penderfyniad: I gymryd y camau cyntaf angenrheidiol fel bod modd
ystyried maes o law lefel Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor
ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |