Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: Cydymdeimlwyd
â theulu Dr Jeff Jones, cyn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ceredigion sydd
wedi marw’n ddiweddar. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 150. ii.
Datganodd
y Cynghorydd Gareth Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 151. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda PDF 232 KB Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r Ffioedd a’r
Costau i fod mewn grym o 01/04/23 (ac eithrio Prydau Ysgol), fel yr amlinellir
yn: a) Atodiad 1 b) Atodiad 2 c) Atodiad 3 (ac eithrio’r tâl mynediad arfaethedig o dan Ffioedd a
Chostau’r Gwasanaeth Amgueddfeydd, a dynnwyd yn ôl) d)
Atodiad 4 ac eithrio’r eitem ganlynol
ymhellach: · Bod Ffioedd a Chostau arfaethedig y Meysydd Parcio yn Nhregaron a Llandysul yn cael eu dileu o Atodiad 3, fel na
fyddai dim costau am Barcio Ceir yn y trefi hynny am gyfnod pellach o 12 mis yn
ystod 2023/24. 2.
Cymeradwyo’r newid o ran
Ffioedd a Chostau Prydau Ysgol, fel yr amlinellir yn Atodiad 2, i fod mewn grym
o 01/09/23. 3.
Dirprwyo awdurdod i’r
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a
Sgiliau, i gynyddu pris Prydau Ysgol i gyd-fynd ag unrhyw gynnydd a wneir yn
dilyn yr adolygiad o gyfradd Llywodraeth Cymru fesul uned, gan gyflwyno unrhyw
newid ar ôl i’r cynnig o ran Prydau Ysgol am ddim gael ei ymestyn yn llawn i
bob blwyddyn Ysgol Gynradd. 4.
Dirprwyo awdurdod yn barhaus
i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, mewn ymgynghoriad ag
Aelod y Cabinet â chyfrifoldeb am y Canolfannau Hamdden a Llesiant, i amrywio’r
Ffioedd a Chostau ar gyfer y Canolfannau Llesiant i redeg cynigion hyrwyddo
tymor byr/â chyfyngiad amser. 5.
Nodi’r
Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb a chytuno ar y newidiadau a argymhellir gan y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau Ffyniannus ynglŷn â Ffioedd a Chostau. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn ystyried y Ffioedd a’r Costau yn rhan o broses y
Cyngor ar gyfer pennu’r gyllideb. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Argymell i’r Cyngor Llawn yn dilyn ystyried argymhelliad
y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ynghylch parhau i Barcio
Ceir am Ddim yn Llandysul a Thregaron, y dylai'r gost
bosibl o £40k sy'n gysylltiedig â hyn gael ei hariannu o'r Ddarpariaeth o £400k
a neilltuwyd ar gyfer risgiau o ran Chwyddiant Cyflogau ac Ynni ac mai dim ond
o dan opsiwn Treth y Cyngor nad yw'n is na 7.3% y mae'r dull hwn o weithredu yn
bosibl. 2. Argymell i’r Cyngor Llawn mai Gofyniad Cyllideb 23/24 yw
£180.101m a chynnydd o 7.3% yw lefel Treth y Cyngor a gynigir ar gyfer 23/24 at
ddibenion y Cyngor Sir (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd yn Ardoll yr
Awdurdod Tân). 3. Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb; a nodi bod pob un o'r Pwyllgorau
thematig wedi argymell cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â chynnydd Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
Cyllideb 23/24 o £180.101m. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn galluogi paratoadau Cyllideb 2023/24 i barhau,
fel bod modd paratoi papurau Cyllideb a chyfrifiadau Treth y Cyngor ar gyfer
cyfarfod llawn y Cyngor ar 02/03/23. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: a)
Cymeradwyo Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys fel y’i hamlinellir yn yr adroddiadau ar gyfer Benthyca a
Buddsoddi. b)
Cymeradwyo’r Atodlen
Buddsoddi fel y’i nodir yn Atodiad B. c)
Cymeradwyo’r Polisi
Isafswm Darpariaeth Refeniw fel y’i nodir yn Atodiad C. d)
Dirprwyo awdurdod i’r
Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau
Cyllid a Chaffael i newid Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Atodlen Buddsoddi
yn ystod y flwyddyn. Hefyd, argymell bod y Cyngor Llawn yn: e)
cymeradwyo Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddi 2023/24; a f)
cymeradwyo Polisi
Isafswm Darpariaeth Refeniw 2023/24. Y rheswm dros y
penderfyniad: Gosod Strategaeth Rheoli Trysorlys a Pholisi Isafswm
Refeniw ar gyfer 2023/24. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r trefniadau a gynigir ar gyfer gweithredu a
chyflawni’r Gronfa, fel y nodir yn yr adroddiad. 2.
Cymeradwyo mewn egwyddor fod
y Cyngor yn ymrwymo i Gytundeb Rhyng-Awdurdod gyda
Chyngor Sir Gwynedd. Y rheswm dros y
penderfyniad: Fel bod Cyngor Sir Ceredigion yn gallu mynd yn ei flaen
gyda Chyngor Sir Gwynedd i dderbyn Cyllid Arfor a bod
y swyddogion yn gallu sefydlu trefniadau gweithredu cyn gynted â phosib. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cyfraniad ychwanegol o £100,000 i
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi ac adolygu’r cytundeb ariannu
presennol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn galluogi’r prosiect i gael ei gwblhau a chyflawni
nodau ac amcanion gwreiddiol y cynigion ailddatblygu. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r cyfraddau tâl canlynol a fydd mewn grym oddi
ar y 1af o Ebrill 2023 hyd at yr 31ain o Fawrth 2024: 1)
Uwch Grwner rhan-amser: i.
Cyflog Cadw o £21,120 y
flwyddyn i’w gadw a sicrhau bod gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael. ii.
Defnyddio’r gyfradd ddyddiol
o £465 a gytunwyd i dalu cyflog blynyddol o £11,625 i’r Crwner gan gynnwys
diwrnodau hyfforddiant. Cyfanswm: £32,745 y flwyddyn
(ynghyd ag argostau). iii.
Treuliau swyddfa/lwfans
cymorth busnes – £5,000 y flwyddyn o’r 1af o Ebrill 2023 hyd at yr 31ain o
Fawrth 2024. 2)
Crwner Cynorthwyol: Dyma’r cyfraddau dyddiol: • £397 am ddiwrnod llawn; a •
£199 am hanner diwrnod. Y rheswm dros y
penderfyniad: I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a
Chylchlythyron y JNC; lleihau heriau a diogelu’r pwrs cyhoeddus. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion. 2.
Bod adroddiad blynyddol ar y
cynnydd a wneir gyda Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion yn cael ei
gyflwyno i’r ysgolion a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm dros y
penderfyniad: I sicrhau bod gan ysgolion strategaeth briodol - sydd
wedi'i seilio ar dystiolaeth - i gefnogi disgyblion difreintiedig. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo atebion y Swyddogion i’r ymatebion i'r
ymgynghoriad a’i fod yn cymeradwyo hysbysebu’r cynigion i’r cyhoedd, ac yn
awdurdodi, os na ddaw gwrthwynebiadau i law, y gwneir y Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig angenrheidiol ac y cyhoeddir Hysbysiad o Wneud yn y wasg i’r perwyl
hwn. Y rheswm dros y
penderfyniad: Mae’r newidiadau arfaethedig yn y trefniadau o ran
terfynau cyflymder yn seiliedig ar y rhesymau cyffredinol a roddwyd gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun cenedlaethol hwn sef sicrhau diogelwch ar y
ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Theithio
Cynaliadwy. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |