Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 4ydd Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Henson y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

62.

Materion Personol

Cofnodion:

i.        Llongyfarchwyd Josh Tarling ar ennill aur yn nhreialon amser iau’r dynion ym Mhencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd UCI 2022 yn Wollongong. 

ii.       Llongyfarchwyd Sioned Harries ar gynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd i Ferched yn Seland Newydd y mis hwn. 

iii.     Dymunwyd yn dda i Sian Howys, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal ar ei hymddeoliad ar ddiwedd y mis. Diolchwyd iddi am ei holl waith rhagorol dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddi i’r dyfodol.

63.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol / buddiannau sy’n

rhagfarnu.

64.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

65.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

66.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

67.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

68.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi - 'Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda'n Gilydd' gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 927 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.        Cymeradwyo’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi – ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’ yn amodol ar gynnwys sicrhau yr ymgysylltir â Chynghorau Cymuned (Atodiad A).

ii.       Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae ein Polisi Ymgysylltu Cymunedol presennol yn dyddio o 2012 ac mae angen ei adolygu er mwyn ystyried dulliau newydd o ymgysylltu a deddfwriaeth a chanllawiau diweddar.

69.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Protocol Interim ar y cyd – Cyfraddau y Filltir pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo gweithredu’r Protocol Interim ar y cyd – Cyfraddau y Filltir mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd sy’n wynebu gweithwyr sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain i deithio ar fusnes fel rhan o’u dyletswyddau. </AI8>

70.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Asesiad o Boblogaeth Gorllewin Cymru pdf eicon PDF 9 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (Atodiad 1).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn ddogfen derfynol a gymeradwywyd drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

71.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngorllewin Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (Atodiad 1).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn ddogfen derfynol a gymeradwywyd drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.</AI9>

72.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Cartrefi i Wcreiniaid: Canolfan Groeso pdf eicon PDF 331 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

73.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2021-22 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

74.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.