Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 6ed Medi, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Davies am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

46.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Cydymdeimlwyd â'r Cynghorydd Gwyn Wigley Evans a'i deulu ar golli eu mab.

ii.     Llongyfarchwyd pawb a fu'n ymwneud â chynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gynhaliwyd yn y sir ym mis Awst. Diolchodd yr Arweinydd yn bersonol i bawb a fu’n ymwneud â Phentre’ Ceredigion a sicrhaodd fod yr ŵyl yn llwyddiant.

iii.    Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd Mark Strong, sydd wedi dychwelyd adref yn ddiweddar ac sy'n gwella.

iv.   Llongyfarchwyd pawb a gynrychiolodd Ceredigion a Chymru yn ddiweddar yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham. Llongyfarchwyd Anwen Butten o Lanbedr Pont Steffan ar gael ei henwi’n Gapten Tîm Cymru.

v.     Llongyfarchwyd y seiclwr Josh Tarling hefyd ar gael ei arwyddo gan Ineos Grenadiers.

vi.   Diolchwyd i’r staff am eu holl waith ac am gydweithio â phartneriaid eraill i sicrhau llwyddiant Rali Ceredigion 2022.

 

47.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 53.

48.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

49.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

50.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

51.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

52.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad ar y ffioedd arfaethedig ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r strwythur ffioedd sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad     (tudalen 2).

ii.     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi’r broses o drwyddedu safleoedd yn ôl gofynion y ddeddfwriaeth newydd.

 

53.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ceredigion ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Fersiwn ddrafft y Strategaeth a’r        Cynllun Gweithredu (Atodiad 1).

ii.     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhoi cefnogaeth i sicrhau bod ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau carbon y sector trafnidiaeth a theithio yn cael ei gyflawni’n effeithiol, fel y’i cyflwynir yn y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Sero Net Corfforaethol.

 

54.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.    Cymeradwyo’r Cynllun y Rhaglen Cymorth Tai (Atodiad 1).

ii.   Cymeradwyo’r Datganiad o Anghenion (Atodiad 2).

iii.  Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cydymffurfio â phroses ddemocrataidd yr Awdurdod a galluogi i Gynllun y Rhaglen Cymorth Tai gael ei gyhoeddi. Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac amodau’r grant wrth dderbyn refeniw grant y Grant Cymorth Tai.

 

55.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy 2022/23 - Perfformiad Ariannol pdf eicon PDF 443 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r newid arfaethedig yn y tybiaethau a geir yn y Gyllideb o ran y defnydd a wneir o’r cyllid gwreiddiol o £1m a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru fel yr amlinellir yn Adran 2i) a ii) yr adroddiad.

2.    Nodi y bydd angen rhoi ystyriaeth bellach i effaith ariannol y Dyfarniadau Cyflog yn ystod y flwyddyn.

3.    Nodi’r angen i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei lobïo’n weithredol a’i bod yn gwbl ymwybodol o’r heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.

4.    Nodi’r sefyllfa refeniw gyffredinol a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor sefyllfa ariannol fantoledig ym mlwyddyn ariannol 2022/23.

 

56.

Nodi adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 1 pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

57.

Nodi adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad Y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021/22 pdf eicon PDF 998 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

58.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Caffael Gwasanaethau Byw â Chymorth pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i ddyfarnu lleoedd ar y System Brynu Ddeinamig i’r darparwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus, yn amodol ar gyfnod segur statudol o 10 diwrnod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod gwasanaethau byw â chymorth yn eu lle i ddiwallu anghenion gofal a chymorth a aseswyd, yn unol â rhwymedigaethau statudol y Cyngor.

 

59.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad A) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

 

 

Cofnodion:

Nid yw’r adroddiad ar eitem 59 ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a phwyso o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus

 

60.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.