Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

i.        Estynnwyd cydymdeimlad â theulu’r Cynghorydd Hag Harris a fu farw’n ddiweddar. Talwyd teyrngedau i’r Cynghorydd Hag Harris am ei gyfraniad helaeth i wleidyddiaeth yng Ngheredigion. Estynnwyd cydymdeimlad diffuant â’i bartner a’i deulu.

Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof amdano.

ii.       Llongyfarchwyd yr Athro Robert Glyn Hewinson CBE o Aberystwyth a gafodd ei anrhydeddu am ei wasanaethau i Iechyd a Lles Anifeiliaid yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

iii.     Llongyfarchwyd Owen Evans CBE, cyn Brif Weithredwr S4C, sydd bellach yn Brif Arolygydd Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a gafodd ei anrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

iv.     Llongyfarchwyd Brynmor Williams MBE, yn wreiddiol o Geredigion, a gafodd ei anrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

v.       Llongyfarchwyd Pam Kelly, cyn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, sydd bellach yn Brif Gwnstabl gyda Heddlu Gwent, a enillodd Fedal Heddlu’r Frenhines.

vi.     Llongyfarchwyd CFfI Felinfach ar ennill rali’r sir, CFfI Penparc a ddaeth yn ail, ac CFfI Llanwenog ar gynnal digwyddiad llwyddiannus. Dymunwyd y gorau i’r holl aelodau a fydd yn cystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru.

vii.   Llongyfarchwyd plant, pobl ifanc ac athrawon Ceredigion ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn sir Ddinbych yn ddiweddar.

viii.  Llongyfarchwyd Helen Medi Williams a Lona Phillips, sylfaenwyr ac arweinwyr Adran Aberystwyth, a enillodd Wobr Goffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

ix.     Llongyfarchwyd Twm Ebbsworth o Lanwnnen ar ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Elain Roberts o Geinewydd ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth. Llongyfarchwyd Catrin Jones o Lanwnnen hefyd ar ennill Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc.

x.       Dymunwyd yn dda i Drizzle Joe Thomas o Aberystwyth, a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd o’r ysbyty ym Manceinion wrth dderbyn triniaeth.

xi.     Estynnwyd cydymdeimlad â theulu Mark Purslow, cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron, a fu farw’n ddiweddar.

xii.   Llongyfarchwyd Rhys Norrington-Davies o Dalybont a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar ennill lle yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.

 

3.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Matthew Vaux fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 8.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 400 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

 

5.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: 'Talu'r taliad costau byw'

Cofnodion:

Nodwyd bod y ddeiseb uchod wedi dod i law ac y byddai’n cael ei thrin yn unol â’r canllawiau yn y Protocol Deisebau.

 

6.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

 

7.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

 

8.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch y Polisi Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 573 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r Polisi diwygiedig ynghylch Cyfyngiadau Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol (Atodiad 1).

ii.     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn monitro dyletswyddau deddfwriaethol y Cyngor o ran swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol/ swyddi sy’n wleidyddol sensitif, gan gynnwys y gwaith o gadw Cofrestr y Cyngor.

 

9.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Polisi Derbyn Ysgolion 2023/2024 pdf eicon PDF 988 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau’r Polisi Derbyn Disgyblion 2023/2024.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gael polisi mewn lle ar gyfer 2023/2024.

 

10.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Tendr ar gyfer Gwaith Adnewyddu ac Ymestyn Ysgol Gynradd Aberteifi pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyaeth i benodi’r cynigydd llwyddiannus, er mwyn galluogi’r gwaith adnewyddu ac ymestyn yn Ysgol Gynradd Aberteifi i ddechrau yn ystod gwyliau’r haf.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cyflenwi prosiect Ysgol Gynradd Aberteifi, sydd wedi ei gynnwys o fewn Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 2 a chydymffurfio â rheolau caffael sydd wedi’u cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

11.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.