Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 11eg Ionawr, 2022 10.00 am

Eitemau
Rhif Eitem

145.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

(i)            Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

146.

Materion Personol

Cofnodion:

i.               Estynnwyd cydymdeimlad â’r Cynghorydd Euros Davies a’i deulu ar golli ei dad.

ii.              Estynnwyd cydymdeimlad â Non Davies, Rheolwr Corfforaethol Diwylliant ar golli ei thad.

iii.             Estynnwyd cydymdeimlad â Helen Harries, Swyddog Prosiectau Gofal Cymdeithasol - Trawsnewid Gofal Cymdeithasol ar farwolaeth ei gŵr.

 

Cafwyd munud o dawelwch er cof amdanynt.

 

iv.            Estynnwyd croeso cynnes i James Starbuck i’w gyfarfod Cabinet cyntaf yn dilyn ei benodiad yn Gyfarwyddwr Corfforaethol.

v.              Llongyfarchwyd Nicola Davies, Cyfieithydd ar ei phenodiad yn Gadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

vi.            Dymunwyd yn dda i’r staff a ganlyn yn eu hymddeoliad a diolchwyd iddynt am y nifer o flynyddoedd o wasanaeth a roesant i’r Cyngor:

·       Ann Eleri Thomas, Rheolwr Twristiaeth a Marchnata

·       Margaret James, Uwch Beiriannydd, Datblygu Priffyrdd

·       Beth Davies, HCT

vii.           Estynnwyd llongyfarchiadau i Poppy Evans, Ysgol Gyfun Aberaeron ar gael ei hethol i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU ac i Lloyd Warbuton, Ysgol Penglais ar gael ei ethol i gynrychioli Ceredigion ar Senedd Ieuenctid Cymru.

 

147.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

(i)            Datgelodd y Cynghorwr Rhodri Evans diddordeb personol yn item 153.

148.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Covid-19.

Mae’n bosib bod y ffigurau diweddaraf, er yn dangos gwelliant, wedi’u hystumio oherwydd problem yn y labordai profi dros y diwrnodau diwethaf. Mae’r ffigurau diweddaraf fel a ganlyn:

Adrodd ar 34 achos heddiw gan ddod â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 10,134, sy’n cyfateb i 1159.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth. Mae’r gyfradd bositifedd yn y Sir yn 41.7% ar hyn o bryd.

Nodwyd bod nifer yr achosion fesul 100k o’r boblogaeth i bob Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOA) o’r 5ed Ionawr 2022 fel a ganlyn:

Aberteifi & Aberporth                               1205.2

Beulah, Troedyraur & Llandysul              1393.8

Ceinewydd & Penybryn                           1080.2

Llambed & Llanfihangel Ystrad               1091.8

Aberaeron & Llanrhystud                         1409

Rheidol, Ystwyth & Caron                       1437.7

De Aberystwyth                                       1613.6

Gogledd Aberystwyth                             1222.4

Borth & Bontgoch                                    1787.6

 

Ar hyn o bryd, mae 57 aelod staff yn bositif â COVID-19 sy’n cynnwys 28 aelod staff mewn ysgolion ac maent yn hunanynysu yn awr.

Mae 6 chartref gofal yn y parth coch a 4 yn y parth oren. Mae’r achosion positif yn y cartrefi gofal ymysg aelodau staff.

Mae 18 claf o Geredigion, a brofodd yn bositif, yn Ysbyty Bronglais ar hyn o bryd.

Mae tarfu wedi bod ar wasanaeth Casglu Gwastraff y Cyngor yn yr wythnosau diweddar oherwydd canlyniadau positif ymysg aelodau staff; fodd bynnag, mae’r gwasanaeth llawn wedi ailddechrau yr wythnos hon.

 

Mae’r ymateb i neges at aelodau staff (yn enwedig y rhai sy’n meddu ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) yn gofyn am wirfoddolwyr i helpu a chynorthwyo drwy wneud ymweliadau lles â phobl fregus, wedi bod yn gadarnhaol iawn, a thros 300 aelod staff yn cynnig gwirfoddoli, a bod eisiau. Diolchodd yr Arweinydd i bob un, a nododd ei gobaith y byddai pethau’n gwella’n fuan.

149.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny. pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

(i)            Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr  2021 yn gywir.

 

Materion yn codi:

Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion

150.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd

Cofnodion:

(i)             Ni dderbyniwyd unrhyw ddeiseb.

151.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

(i)             Dim

152.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

(i)            Dim.

153.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ar Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethol pdf eicon PDF 362 KB

Cofnodion:

(i)             Cadarnhau enwebiad y sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu’r ysgolion perthnasol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu.

 

154.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ar Addysg yn y Chweched Dosbarth pdf eicon PDF 692 KB

Cofnodion:

(i)             Sefydlu briff a chynnal adolygiad o addysg ôl-16 i’w gyflwyno

i’r Cabinet.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Cael dadansoddiad ac arfarniad diweddar o'r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir

155.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ar Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i) Powys a Cheredigion yn parhau i gydweithio yn Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru

(ii) Swyddogion ledled Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru yn cydweithio ar nifer o flaenoriaethau lleol a chenedlaethol y cytunwyd arnynt

(iii) Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru yn cael ei chynrychioli ar ystod lawn y gweithgorau trawsranbarthol er mwyn sicrhau darpariaeth deg i ysgolion Powys a Cheredigion.

(iv) Cyngor Sir Ceredigion yn llunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Sir Powys.

(v) Deiliaid portffolio addysg Cabinet Ceredigion a Phowys i gyfarfod o leiaf un waith y tymor gyda swyddogion arweiniol addysg y ddau awdurdod er mwyn trafod adroddiad cynnydd y Bartneriaeth Addysg.

(vi) Adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Addysg i’w gyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu sy’n gyfrifol am Addysg yn Cynghorau Sir Ceredigion and Phowys.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod y Cyngor yn rhan o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol, ar y cyd â Chyngor Sir Powys.

156.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ar Tyfu Canolbarth Cymru – Cytundeb Rhyngawdurdod sy’n ymwneud â chyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 1022 KB

Cofnodion:

(i)             Cymeradwyo Cytundeb Rhyngawdurod (CRh3) sy’n ymwneud â chyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru (Atodiad 1 yr adroddiad).

(ii)            Rhoi pwerau dirprwyedig i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu i wneud mân newidiadau i’r CRh3, ar y cyd â Chyngor Sir Powys. Newidiadau mwy sylweddol i’w hawdurdodi gan y Cabinet.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith er mwyn sicrhau bod Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei chyflwyno.

157.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan) (Gorchymyn Diwygio Rhif 6) 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

(i)                 Cymeradwyo hysbysebu’r cynigion i’r cyhoedd, ac os na ddaw gwrthwynebiadau i law, y gwneir y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol ac y cyhoeddir Hysbysiad o Wneud yn y wasg i’r perwyl hwn.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod digon o fynediad i fasnachwyr fel rhan o’r Cynllun Seilwaith Gwyrdd.

158.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar Cadw elfennau o'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro mewn trefi yng Ngheredigion pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)            Gohirio ystyried yr adroddiad tan gyfarfod i’r dyfodol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn gwneud mân newidiadau i’r adroddiad.

159.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiiol Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad ac Amddiffyn y Cyhoedd ar Adolygiad o'r Datganiad Statudol o'r Polisi Gamblo pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

(i)             Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig fel y Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer Ceredigion am y cyfnod 2022-2025.

(ii)            Argymell bod y Cyngor yn penderfynu cadwPenderfyniad Dim Casinos” yr Awdurdod a bod y penderfyniad yn cael ei gofnodi a’i ychwanegu at y polisi terfynol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Cyflawni gofynion statudol i adolygu a chyhoeddi Datganiad o Bolisi Gamblo yn unol â gofynion Adran 349 Deddf Gamblo 2005 a gwella diogelwch y cyhoedd ac eglurder ar gyfer y fasnach drwyddedig yng Ngheredigion.

160.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal ar Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1, 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

(i)             Nodwyd yr adroddiad.

161.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cymorth Cynnar ar Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (22.10.21) pdf eicon PDF 949 KB

Cofnodion:

(i)       Nodwyd yr adroddiad a bod y cofnodion yn cael eu gyflwyno i Cabinet bob tymor.

162.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Gofal ar Rhaglen Ddatblygu'r Grant Tai Cymdeithasol. pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

(i)       Nodwyd yr adroddiad.

163.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.