Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod oddi
wrth y Cynghorydd Keith Evans. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Mynegwyd
cydymdeimlad â’r Cynghorydd Catherine Hughes yn dilyn marwolaeth ei thad dros
yr haf. ii.
Mynegwyd
cydymdeimlad hefyd â’r Cynghorydd Ifan Davies yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei
fam. iii.
Mynegwyd
cydymdeimlad hefyd â theulu Eleri Ebenezer, Cadeirydd hen Ymddiriedolaeth GIG
Ceredigion a Chanolbarth Cymru. iv.
Mynegwyd
cydymdeimlad hefyd â theulu John Davies o ‘T.J.Davies a’i fab’, a fu farw’n
ddiweddar. v.
Mynegwyd
cydymdeimlad â theulu Richard Jones o ‘Ail Symudiad’ a fu farw’n ddiweddar. Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof amdanynt. vi.
Talwyd teyrngedau i'r aelod o'r cyhoedd a seiniodd rybudd
mewn ymateb i'r tân diweddar yn y Borth ac i waith rhagorol y Gwasanaeth Tân,
Gwasanaeth yr Heddlu ac i Staff Cyngor Sir Ceredigion wrth drefnu cau ffyrdd,
dargyfeiriadau a chyfleusterau amgen ar gyfer yr aelodau o'r cyhoedd yr
effeithiwyd arnynt. vii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Dion a Cara ar drefnu
digwyddiad codi arian llwyddiannus i godi arian ar gyfer y Ward Canser yng
Nglangwili. viii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Lleucu Roberts ar ennill
Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. ix.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Gwenallt Llwyd Ifan ar
ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. x.
Estynnwyd llongyfarchiadau i'r beiciwr ifanc Joshua
Tarling ar ennill aur yn y ras cwrso tîm a’r ‘omnium’ unigol ym Mhencampwriaethau Trac Iau a Dan 23 Ewrop a
gynhaliwyd yn Apeldoorn yn yr Iseldiroedd ddiwedd mis Awst. xi.
Mynegwyd dymuniadau gorau i gystadleuwyr a threfnwyr y
‘Tour of Britain’ a fyddai’n ymweld â Cheredigion ddydd Mercher yr wythnos hon.
xii.
Yn ystod y cyfarfod, hysbyswyd y Cabinet am farwolaeth
William Edwards, cyn Gynghorydd, a mynegwyd cydymdeimlad â’i deulu. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar parthed
COVID-19. Nododd fod nifer yr achosion positif yn cynyddu yn y Sir a ledled
Cymru. Roedd 123 o
achosion ychwanegol yng Ngheredigion ddoe (adrodd 2 ddiwrnod o achosion) gyda
63 achos arall y bore yma, sy'n rhoi cyfanswm o 3,138 o achosion yn y Sir ers
dechrau'r pandemig. Ar hyn o bryd, cyfradd yr achosion fesul 100,000 o'r
boblogaeth yw 364.5. Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion bellach yn arwain at
fwy o bobl yn mynd i’r ysbyty ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno'r brechlyn yn y canolfannau brechu yn Hen
Ysgol Trewen yn y de, a Llanbadarn yng ngogledd y Sir. Mae'r broses gyflwyno
bellach yn cynnwys pobl ifanc 16 – 18 oed. Rhoddodd yr
Arweinydd ddiweddariad ar wasanaethau'r Cyngor gan nodi bod wyth cartref gofal
yn y categori coch oherwydd bod staff wedi’u heintio, fodd bynnag roedd dau
gartref gofal wedi symud i'r categori gwyrdd ddoe. Nododd fod effaith y
pandemig i’w gweld ar staff ym mhob maes gwasanaeth. Mae pob ysgol wedi ailagor
ond adroddwyd am nifer o achosion dros y penwythnos. Mae’r gwaith pwysig a
wneir gan y Tîm 'Tracio, Olrhain ac Atal' yn parhau i fod yn hanfodol i leihau
trosglwyddiad y feirws yn y gymuned. Mae faniau llyfrgell yn parhau i weithredu
ar sail 'clicio a chasglu' ac mae llyfrgelloedd tref yn parhau i gynnig system
apwyntiadau. O ran gofal i'r
rhai ag Anableddau Dysgu, mae Canolfan Steffan bellach ar agor ac mae angen
gwaith sylweddol i wella'r ddarpariaeth yng Nghanolfan Padarn. Yn y cyfamser,
mae Canolfan Meugan yn cael ei defnyddio gan staff yng Nghartref Gofal Preswyl
Yr Hafod ac mae gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau megis
Theatr Mwldan. Mae gwyliau
blynyddol, yr angen i hunanynysu, ac effaith y prinder cenedlaethol o yrwyr
Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) wedi effeithio ar Wasanaethau Gwastraff.
Ymddiheurodd yr Arweinydd am yr amhariad gan nodi y dylai’r sefyllfa sefydlogi
erbyn hyn. Mae unedau trin aer wedi cael eu harchebu ar gyfer pyllau nofio
Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, a fydd yn ailagor ar ôl i'r gwaith gosod
gael ei gwblhau. Diolchodd i Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod
Dewi Sant, campws Llambed, am ddarparu eu cyfleusterau er mwyn i’r gymuned eu
defnyddio yn y cyfamser. Mae Canolfan Hamdden Aberteifi wedi'i dychwelyd i'r
Cyngor ac mae gwaith yn mynd rhagddo i'w defnyddio unwaith eto. Bydd angen
gwneud rhagor o waith ar y llawr yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, a bydd
Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn cael ei haddasu i gynnwys canolfan
les a fydd yn cyfuno Hamdden a chymorth arall. Nodwyd bod cyfleusterau hamdden
hefyd yn Ysgol Penglais ac Ysgol Bro Pedr.
Nododd yr Arweinydd fod y trefniant o gau ffyrdd ar gyfer y Parthau Diogel bellach wedi dod i ben, ac eithrio Pen Cei yn Aberaeron, sydd wedi cael ei gynnal mewn ymateb i gais gan yr Aelod lleol a Chyngor y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 66. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod
cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2021 yn gywir, yn
amodol ar ddiwygio fersiwn Gymraeg cofnod 58b) i adlewyrchu teitl cywir yr
Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a
Diwylliant. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd Cofnodion: Dim |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Adleoli o leiaf dau deulu o Affganistan o dan y
Cynllun Staff a Gyflogwyd yn Lleol yn Affganistan. Y rheswm dros y penderfyniad: Er
mwyn ymateb i’r argyfwng dyngarol yn Affganistan wrth i’r Taliban
gipio grym yn gyflym wlad. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r ymrwymiad £250,000 o'r Gronfa Gyfalaf
fel arian cyfatebol tuag at brosiect Perthyn. Y rheswm dros y
penderfyniad: Diogelu casgliad
yr Amgueddfa ar gyfer y dyfodol a rhoi cyfleoedd pellach ar gyfer ymgysylltu
â'r gymuned |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i.
Cymeradwyo’r trosglwyddiadau (virements) angenrheidiol yn y gyllideb er mwyn cyflawni’r Cynilion
Corfforaethol fel y’u hamlinellir yn Adran 2 yr adroddiad – cyfanswm o £2.137m. ii.
Nodi’r adroddiad gan gynnwys y trosglwyddiadau (transfers) yn y gyllideb fel y’u
hamlinellir yn Adran 2 – cyfanswm o £1.395m. Y rheswm dros y
penderfyniad:- Cyrraedd
y targed cynilo Corfforaethol a osodwyd fel rhan o broses Pennu’r Gyllideb
2021/22 |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Strategaeth Iechyd a Lles Gweithwyr Y rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn cefnogi a
gwella iechyd a lles hirdymor gweithwyr |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo bod yr Awdurdod Lleol yn derbyn rôl y Bancer Lleol mewn
perthynas ag ymdrin â’r Cyllid Cyfalaf sy'n ymwneud â'r safle yn 25 Rhodfa’r
Gogledd, Aberystwyth, ac yn derbyn y grant, os rhoddir ef. Y rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn cefnogi’r
gwaith o ddarparu Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn Aberystwyth. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Cod
Ymarfer ar gyfer Archwiliadau Diogelwch ar Ffyrdd Sirol a’r Ymateb 2021 Y rheswm dros y
penderfyniad:- Newid
ffocws ein hadnoddau, cryfhau ein gwaith cynnal a chadw, a gwella ein gallu i
gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol statudol fel yr amlinellir yn Adran
41 Deddf Priffyrdd 1980 a darparu amddiffyniad yn rhinwedd Adran 58 Deddf
Priffyrdd 1980 trwy ddull unedig Cymru gyfan, a chydymffurfio â chanllawiau
cenedlaethol, sef ‘Cod Ymarfer Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda 2016’ |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo
hysbysebu'r cynnig i'r cyhoedd ac os na ddaw gwrthwynebiadau i law, gwneud y
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol a chyhoeddi Hysbysiad o Wneud yn y
wasg i'r perwyl hwn. Y rheswm dros y
penderfyniad:- I
sicrhau bod modd gweld yn briodol wrth fynedfa newydd a adeiladir ar y safle a
thrwy hynny cyflawni Amod Cynllunio |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r
bwriad i fabwysiadu Cambrian Way drwy broses Adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980
a’i chynnal ar gost y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad:- I alluogi’r ffordd i gael ei chynnal ar gost y
cyhoedd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r
bwriad i fabwysiadu Cam 1 a cham 2, Cwrt Dolffin, Ceinewydd drwy broses Adran
38 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad:- I alluogi’r ffordd i gael ei chynnal ar gost y
cyhoedd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo'r
bwriad i fabwysiadu’r Ffordd Fynediad i Barc Busnes Horeb drwy broses Adran 38
o Ddeddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad:- I alluogi’r ffordd i gael ei chynnal ar gost y
cyhoedd. |
|
Cofnodion: Nodi’r adroddiad a’r perfformiad ariannol llwyddiannus |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim |