Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Kay Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod oddi wrth y Cynghorydd Rhodri Evans ac Eifion Evans, Prif Weithredwr. |
|
Materion Personol Cofnodion: i. Mynegwyd cydymdeimlad â Wyn a
Mary John a’u teulu yn dilyn marwolaeth
drasig eu mab. ii. Mynegwyd cydymdeimlad â Bronwen Morgan (cyn Brif Weithredwr) a’i theulu yn
dilyn marwolaeth ddiweddar ei mam. iii. Llongyfarchwyd y Gwasanaeth Tai ar ennill Gwobr Caffael
Aur am eu cynllun 'Cartrefi Cynnes'. iv. Dathlodd Gynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion lwyddiannau
yng ngwobrau Cymraeg Gwaith Cymru. Enillodd Mariolina Lai, sy’n Gynorthwyydd Gofal Dydd ym Min-y-Môr,
y wobr am y ‘Dysgwr sydd wedi gwneud
y cynnydd gorau ar lefelau Sylfaen+’. Daeth Alison Newby, sy’n Diwtor Rhifyddeg, Llythrennedd a Threfniadaeth Busnes, yn ail am y wobr ‘Dysgwr lefel
Sylfaen+ sy'n gwneud y Defnydd Gorau o'r
Gymraeg at bwrpas Gwaith’. Daeth Dewi Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith y Cyngor, yn ail am y wobr ‘Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn’. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r tri. v. Dywedodd y Cynghorydd Lynford Thomas ei fod, yng nghyfarfod arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2021, wedi cyfeirio'n anfwriadol at wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys mewn adroddiad eithriedig nad oedd ar gael i’r cyhoedd. Ymddiheurodd yn ddiffuant am y diofalwch a oedd wedi mynd yn groes i God Ymddygiad yr Aelodau. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Datgelwyd buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu yn eitem 13 isod gan y Cynghorwyr Catherine Hughes a Ceredig Davies a gadawsant y cyfarfod pan drafodwyd y mater hwnnw. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd
y Cyngor, Ellen ap
Gwynn, ddiweddariad ar lafar mewn perthynas
â COVID-19. Dywedodd fod y ffigurau'n parhau i fod yn isel
yn y sir ond mae angen
i bawb barhau i fod yn wyliadwrus.
Mae'r rhaglen frechu yn parhau'n
effeithiol ledled y sir ac mae’n debygol y bydd y brechiadau cyntaf yn cael
eu cwblhau yn gynt na’r
disgwyl. Disgwylir i'r ail frechiadau gael eu cwblhau erbyn mis
Medi. Gall lleoliadau lletygarwch nawr agor yn llawn
a gall hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd rannu bwrdd y tu mewn.
Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn
gweithgareddau dan do wedi'u trefnu a gall hyd at 50 o bobl gymryd rhan mewn
gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu. Mae profion yn
parhau ar gyfer staff ysgolion a disgyblion ysgolion uwchradd drwy Brofion
Llif Unffordd ddwywaith yr wythnos.
Mae Profion Llif Unffordd bellach ar gael
i ofalwyr di-dâl hefyd. Mae ysgolion wedi agor yn
llawn ac mae
disgyblion blynyddoedd 11,
12 a 13 yn cwblhau eu hasesiadau ar
hyn o bryd. Bydd caeau
chwarae ysgolion yn ailagor ac ar
gael i'r
gymuned eu defnyddio ar ôl
gwyliau’r hanner tymor a bydd Canolfannau
Hamdden Aberaeron a
Llanbedr Pont Steffan ynghyd
â phwll nofio Llanbedr Pont
Steffan yn agor ar 7 Mehefin
2021. Mae angen gwaith adfer sylweddol ym Mhlascrug a gwnaed trefniadau amgen ar gyfer
defnyddio Neuadd Chwaraeon Penglais. Disgwylir i wersi
cerddoriaeth wyneb yn wyneb mewn
ysgolion ailgychwyn ddiwedd mis Mehefin. Mae’r parthau
diogel wedi'u haddasu a byddant yn cael eu
defnyddio dros wyliau’r hanner tymor ac yn ystod
6 wythnos o wyliau haf yr ysgolion.
Mae ymweliadau dan do mewn Cartrefi Gofal bellach ar gael drwy drefnu ymlaen llaw, a bydd ymweliadau dan do ar gael lle bo angen. Mae ymweliadau yn y podiau a ddarperir yn y Cartrefi Gofal yn parhau a byddant ar gael ar gyfer ymweliadau hirach yn fuan. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 yn
rhai cywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30
Mawrth, 2021 yn rhai cywir. Materion yn
codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd: Deiseb ynghylch diogelwch ar ffordd y B4340 PDF 842 KB Cofnodion: Nodwyd bod y deisebau uchod wedi dod i law ac yr ymdrinnid â hwy yn unol â chanllawiau’r Protocol Deisebau |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Gweler penderfyniad 14. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Cymeradwyo’r
cynnig i ddileu’r ddarpariaeth sedd wag ac i gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 ii. Cymeradwyo’r
broses apeliadau ddiwygiedig
i adlewyrchu gofynion Cyfansoddiad yr Awdurdod Lleol iii. Cymeradwyo’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol diwygiedig fel y’i cyflwynwyd. Rheswm dros y
penderfyniad:- 1. Cydymffurfio
â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 2. Cydymffurfio
â Rhan 7 Cyfansoddiad yr Awdurdod Lleol
o ran aelodaeth o’r Panel Apeliadau Cludiant Addysg |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau enwebu’r
sawl a enwir yn yr adroddiad
yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol
ar Gyrff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol. Rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol
ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Cymeradwyo canllawiau ar gyfer Polisi Gwrth-fwlio Ceredigion Hawliau, Parch a Chydraddoldeb 2019; a ii. Argymell bod Cyrff Llywodraethol Ysgolion Ceredigion yn mabwysiadu'r Polisi. Rheswm dros y penderfyniad:- Diweddaru a rhannu gwybodaeth
gyda’r Cabinet ar y Dogfennau Canllawiau diweddaraf ar Wrth-fwlio yn Ysgolion
Ceredigion. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig - Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021-22 Llywodraeth Cymru fel Rhyddhad Ardrethi Annomestig Dewisol o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn cefnogi busnesau lleol gan ddefnyddio’r
cyllid grant sydd ar gael. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Argymell cymeradwyo’r Polisi Gofalwyr gan gynnwys yr
ychwanegiadau canlynol fel yr argymhellwyd
gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol: a. Cynnwys rhif ffôn
yr Uned Gofalwyr
ym Mharagraff 11.2 b. Cynnwys manylion cyswllt yr Uned
Gofalwyr yn Adran 6 c. Cynnwys rhifau ffôn Galw Iechyd
Cymru yn Adran 6 d. Ychwanegu’r paragraff canlynol at Adran 9.1: ‘Yn ystod
argyfyngau, megis pandemig Covid-19, roedd gorfod gweithio gartref yn rhoi
cyfle i rai gofalwyr gydbwyso eu gwaith
a’u cyfrifoldebau gofalu. Roedd y profiad yn caniatáu
gwell dealltwriaeth o'r hyblygrwydd sydd ar gael
mewn unrhyw rôl benodol i'r
gweithiwr a'r rheolwr llinell.’ ii. Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn cydnabod a chefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol ochr yn ochr â’u
cyflogaeth â thâl. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Awdurdodi codi
Hysbysiad Adran 228, ac ii. Os na ddaw gwrthwynebiadau, yn bwrw ymlaen â’r broses fabwysiadu. Rheswm dros y
penderfyniad:- I sicrhau
y cynhelir llesiant y trigolion drwy gydol y gwaith parhaus o arolygu a chynnal heol yr
ystâd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Cytuno i ddyfarnu’r contract i’r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd, yn amodol ar gyfnod segur statudol o 10 niwrnod. Rheswm dros y
penderfyniad:- Galluogi cludo, didoli ac ailgylchu deunydd eildro sych cymysg a gesglir
o ddrws i ddrws. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch: Caffael Contract Cludo, didoli ac ailgylchu Deunydd Eildro Sych Cymysg Nid yw’r papur yma ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitemau yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Peidio â gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod oherwydd ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. ii. Nodi’r wybodaeth o fewn yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |