Agenda a chofnodion drafft

Cabinet - Dydd Mawrth, 11eg Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

175.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones, Cadeirydd ac Amanda Edwards, Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol; Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu; Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal ac Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

176.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Keith Henson am ei ymroddiad a'i waith fel Aelod Cabinet ers cael ei ethol ym mis Mai 2022. Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd Shelley Childs wrth iddo ymgymryd â rôl Aelod Cabinet o fis Ebrill 2025 ymlaen. Adleisiwyd hyn gan yr Aelodau Etholedig eraill a oedd yn bresennol.

177.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 185 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater yn cael ei drafod a buddiant personol mewn perthynas ag eitem 192.

ii.     Datganodd y Cynghorydd Keith Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 182, gan gadarnhau ei bod wedi cael gollyngiad i siarad a phleidleisio ar y mater hwn gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.

178.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

179.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

180.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

181.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

182.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Dyfarnu Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru i Calon Tysul pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cytuno bod y Cyngor yn gweithredu mewn rôl gyfryngol fel banciwr ar gyfer Grant Chwaraeon Cymru o £128,750 mewn perthynas â Calon Tysul.

2.    Cytuno bod y cynllun yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2025/26.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I alluogi buddsoddiad cyfalaf gwerth £128,750 yng Nghalon Tysul.

183.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Datganiad Polisi Hapchwarae 2025-2028 a chynigion ar gyfer casinos pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Argymell i’r Cyngor:

1.    ystyried a phenderfynu a ddylid cadw “Penderfyniad Dim Casinos” yr Awdurdod, a chofnodi’r penderfyniad a’i ychwanegu at y polisi terfynol.

2.    gymeradwyo Datganiad diwygiedig y Polisi Hapchwarae a mabwysiadu’r polisi diwygiedig.

3.    gymeradwyo'r argymhelliad gan y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025 bod taflen yn cael ei hanfon at wahanol Glybiau Chwaraeon yng Ngheredigion, yn tynnu sylw at y materion sy'n codi o ran Gamblo, i'w dosbarthu i'w defnyddwyr.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gyflawni’r gofynion statudol i adolygu a chyhoeddi Datganiad o Bolisi Hapchwarae yn unol â gofynion Adran 349 o Ddeddf Hapchwarae 2005, ac i wella diogelwch y cyhoedd a rhoi eglurder i’r sector trwyddedig yng Ngheredigion.

184.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Polisi Diwygio Cerbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr 2025 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r Polisi diwygiedig ar Gerbydau Hacni (Tacsis) a Cherbydau Hurio Preifat a’u Gyrwyr, a’i fabwysiadu wedi hynny.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bydd y Polisi Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat diwygiedig yn darparu polisi priodol yn unol â safonau Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth ac yn galluogi cydymffurfiaeth â gofynion statudol ac i sicrhau gorfodi’r ddeddfwriaeth yn briodol ac yn effeithiol.

185.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Gosod Ffioedd 2025/26 ar gyfer Pobl Hyn - Ffioedd yr Awdurdod Lleol a’r Sector Annibynnol pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer Cartrefi Gofal preifat yng Ngheredigion ar gyfer 2025/26 ar y lefelau wythnosol canlynol, a fydd yn dod i rym o 07/04/25:

 

Preswyl

£957

EMI Preswyl

£1,023

Nyrsio

£1,111

EMI Nyrsio

£1,111

 

2.    Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor yng Ngheredigion ar gyfer 2025/26 yn unol â’r lefelau wythnosol canlynol, a fydd yn dod i rym o 07/04/25:

 

Preswyl

£957

EMI Preswyl

£1,023

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cytuno ar a gosod ffioedd i Bobl Hŷn ar gyfer 2025/26.

186.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Tendr Yswiriant y Cyngor pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo dyfarnu’r contract Cytundeb Tymor Hir Yswiriant newydd, a fydd yn rhedeg am gyfnod o 3 blynedd (gydag opsiwn i ymestyn 1 flwyddyn ac yna opsiwn pellach i ymestyn 1 flwyddyn arall) fel a ganlyn:

 

Lot

Pwrpas

Cyflenwr

4

Peirianneg

Tendrwr 5

6

Pob lot arall ac eithrio lot 4

Tendrwr 5

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

       Sicrhau bod gan y cyngor drefniadau yswiriant priodol ar waith.

       Mae proses dendro agored sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus wedi'i chynnal ac mae pob cais a dderbynnir yn cael ei werthuso mewn modd teg a thryloyw.

187.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 186 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau wrth ddelio â'r eitem, ystyried a ddylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio ac a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Ar ôl ystyried prawf budd y cyhoedd, y dylai'r eitem barhau i fod wedi'i heithrio.

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

188.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllid Refeniw Rheoledig 24/25 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 3 pdf eicon PDF 569 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

189.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 3 pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

190.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Perfformiad Chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2024/25 pdf eicon PDF 348 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

191.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Ymgynghori ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 170 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

192.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am y Grant Cymorth Tai - Cynllun y Rhaglen gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

193.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.