Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: ii.
Datganodd
y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 207 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod
cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025 yn gywir. Materion yn codi:
Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1)
Cytuno
ar y strategaethau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Asedau’r Priffyrdd
2025-2030 (Atodiad 1). 2)
Cymeradwyo
Cynllun Rheoli Asedau’r Priffyrdd 2025-2030 (Atodiad 1). 3)
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y penderfyniad: •
Er
mwyn sicrhau bod Cynllun Rheoli Asedau’r Priffyrdd yn parhau’n addas at y
diben. •
Sicrhau
bod lefel bresennol o fuddsoddiad ariannol yn seilwaith priffyrdd y Sir yn
parhau ac yn cael ei gefnogi. •
Darparu
fframwaith rheoli effeithiol. •
I
hyrwyddo gwelliant a darparu gwell gwerth am arian drwy gynnal a monitro
cofrestr o welliannau o ran effeithlonrwydd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo'r
bwriad i fabwysiadu'r Gwaith Priffyrdd trwy broses Deddf Priffyrdd 1980: Adran
38 a chynnal ar draul y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y penderfyniad: Galluogi'r ffordd
i gael ei chynnal ar draul y cyhoedd yn unol â'r Cytundeb Adran 38 ar gyfer y
safle. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r buddsoddiad o hyd at £1.5m
mewn ystod o ddigwyddiadau dros y tair blynedd nesaf, sy’n bodloni’r meini
prawf a nodir yn yr adroddiad, i’w hariannu o gronfa wrth gefn yr Economi. 2. Darparu awdurdod dirprwyedig i’r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol ar gyfer yr Economi ac Adfywio, i ddyrannu cyllid yn
unol ag asesiad sy’n sicrhau bod dyfarniadau’n cael eu gwneud yn unol â’r
egwyddorion a nodir yn y papur hwn. Y rheswm dros y penderfyniad: Galluogi
datblygiad rhaglen ddigwyddiadau fywiog yng Ngheredigion sy’n cyfrannu at
gyflawni’r Strategaeth Economaidd, sy’n cyd-fynd â’r brif flaenoriaeth
Gorfforaethol o Hybu’r Economi. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r Ymateb i Asesiad Perfformiad
y Panel. 2. Ystyried a derbyn yr argymhellion gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer diwygiadau i’r Ymateb i Asesiad
Perfformiad y Panel. 3. Bod unrhyw ddiwygiadau y cytunwyd arnynt a
wnaed gan y Cabinet i’r ‘Ymateb’ yn cael eu dirprwyo i’r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd i’w gwneud i’r
ymateb terfynol, cyn cyhoeddi’r ymateb ar wefan y Cyngor a’i anfon ymlaen at y
derbynwyr statudol. Y rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau
cydymffurfiaeth â Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: •
Cymeradwyo'r
Polisi Urddas yn y Gwaith. •
Cymeradwyo'r
Polisi Cwynion Cyflogaeth. •
Cymeradwyo'r
Polisi Iechyd a Diogelwch. •
Cymeradwyo'r
Polisi Recriwtio a Dewis. •
Cymeradwyo'r
Polisi Gallu. •
Cymeradwyo’r
Polisi Menopos (ar gyfer ysgolion) a’i gyflwyno i
Gyrff Llywodraethol i’w fabwysiadu yn ysgolion Ceredigion. •
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: •
Sicrhau
cydymffurfiaeth â deddfwriaeth newydd. •
Cynorthwyo
gweithgarwch recriwtio a chadw, iechyd a llesiant gweithwyr, ac effeithiolrwydd
gweithredol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r
Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Ceredigion 2025. 2.
Mabwysiadu’r
Uchelgais a’r Amcanion ar gyfer Chwarae yng Ngheredigion a Chynllun Gweithredu
Chwarae arfaethedig Ceredigion 2025-28. 3.
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y penderfyniad: Galluogi'r
awdurdod lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan adran 11(1) o Fesur Plant a
Theuluoedd Cymru 2010 mewn perthynas â Chyfleoedd Chwarae. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: a.
Cymeradwyo’r
Polisi Cwynion Enghreifftiol diwygiedig ar gyfer ysgolion (Atodiad 1). b.
Cymeradwyo’r
Polisi ar Weithredoedd Annerbyniol (ar gyfer ysgolion) (Atodiad 2). c.
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm dros y penderfyniad: •
Sicrhau
bod y Polisi Cwynion ar gyfer Ysgolion yn addas i'r diben, ac yn cydymffurfio â
deddfwriaeth. •
Cynorthwyo
ysgolion i ddelio â'r achosion cynyddol o reoli camau annerbyniol, a dileu'r
angen i ddefnyddio gweithdrefn gorfforaethol y Cyngor. •
Diweddariad
cenedlaethol o gwynion a’r ystyriaeth o’r angen gydag ymddygiad lleiafrif o
unigolion o fewn ysgolion ar gyfer y polisi gweithredoedd annerbyniol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |