Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Marc Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Ffyniannus y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar. ii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol
yn y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Estynnwyd cydymdeimlad i deulu’r Athro Geraint Jenkins sydd wedi marw yn
ddiweddar. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 146 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod. ii.
Datganodd
y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 147. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod
cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2025 yn gywir. Materion yn codi:
Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi y bydd cynnydd arfaethedig cyllideb
Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn creu pwysau costau o £301k ar
Gyllideb 25/26 y Cyngor (sy'n cyfateb i gynnydd o oddeutu 0.6% yn Nhreth y
Cyngor ar gyfer trigolion Ceredigion). 2. Argymell bod y Pwyllgorau Trosolwg a
Chraffu’r Gyllideb yn ystyried yr opsiynau canlynol at ddibenion y Cyngor Sir
ynghylch Gofyniad drafft ar Gyllideb 25/26 ac o ganlyniad y cynnydd arfaethedig
yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26: a)
Gofyniad
drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.109m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor
(ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £13.94 y mis ar gyfer eiddo Band D
(9.7%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £230k yn y
Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu
Gwastraff. b)
Gofyniad
drafft ar Gyllideb 25/26 o £209.234m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor
(ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o £14.24 y mis ar gyfer eiddo Band D
(9.9%), a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer buddsoddiad o £346k yn y
Gwasanaeth Gorfodaeth Cynllunio a buddsoddiad o £481k yn y Gwasanaeth Casglu
Gwastraff. 3. Argymell pan gyhoeddir setliad terfynol
Llywodraeth Cymru ar gyfer 25/26: a)
Bod
gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw
yn cael eu cyfeirio i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, lle bo hynny'n briodol. b)
Y
dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r Gwasanaeth(au)
sy’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, pan fo hynny'n briodol. c)
Y
byddai unrhyw fudd o Gyllido Gwaelodol yn y Setliad Terfynol yn cael ei
ddefnyddio i leihau'r cynnydd i Dreth y Cyngor dangosol. d)
Bod
unrhyw newid(newidiadau) eraill i'r AEF yn cael eu trin drwy wneud addasiad i
gyllideb y Grŵp Arweiniol. 4. Nodi y bydd y Strategaeth Ariannol Tymor
Canolig yn cael ei diweddaru ar ôl Datganiad Ariannol nesaf y Canghellor (a
ddisgwylir ar 26/03/25). 5. Nodi rhaglen arfaethedig y Ffioedd a
Thaliadau drafft a nodir yn Atodiad 8, ac y bydd y rhain yn cael eu hystyried
yn ffurfiol gan y Cabinet ar 18/02/25. 6.
Nodi’r
Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn sydd yn Atodiad 10. 7.
Nodi’r
Strategaeth Gyfalaf sydd yn Atodiad 11. 8.
Nodi
y dylid ystyried unrhyw opsiynau newydd neu amgen ar gyfer Cyllideb ddrafft
25/26 yn ystod y cyfarfodydd i Graffu'r Gyllideb ac y byddai angen digon o
amser ymlaen llaw ar y swyddog Adran 151 i fodelu’n llawn unrhyw effeithiau
posibl ac i roi barn ar gadernid unrhyw gynnig (gynigion). 9.
Cyfeirio'r
adroddiad Cabinet hwn at sylw’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y Gyllideb,
fel y gall y Cabinet ystyried eu hadborth ffurfiol ar 18/02/25, er mwyn i'r
Cabinet wedyn wneud eu hargymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn ar 03/03/25 ar y
Gofyniad ar Gyllideb 25/26 a maint y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 25/26. 10.
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus mewn perthynas â
Gorfodaeth Cynllunio. Y rheswm dros y penderfyniad: Fel bod y gwaith o baratoi Cyllideb 2025/26 yn gallu mynd rhagddo. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1)
Nodi’r
ymatebion a awgrymir i wrthwynebwyr (a ddiwygiwyd yn unol ag unrhyw
benderfyniadau a wnaed gan y Cabinet). 2)
Cymeradwyo
gweithredu’r Strwythur Codi Tâl Oddi ar y Stryd arfaethedig fel yr amlinellir
yn yr adroddiad. 3)
Cymeradwyo
gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol, heblaw am bod diffiniad
Maes Parcio Gloster Row/Red
Lion yn aros fel Maes Parcio Talu ac Arddangos fel y
mae ar hyn o bryd. 4)
Cymeradwyo
cyhoeddi Hysbysiad o Wneud yn y wasg i'r perwyl hwn. 5)
Nodi
y bydd Strwythur Codi Tâl Oddi ar y Stryd yn dod i rym cyn gynted ag y bo modd
ymarferol wneud hynny. 6)
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y penderfyniad: Symleiddio a
rhesymoli taliadau a threfniadau cyfredol a helpu i sicrhau bod y Cyngor yn
cyflawni ei ddyletswydd i baratoi cyllideb gytbwys yn unol â'r disgwyliad incwm
y cytunwyd arno gan y Cyngor fel rhan o'r broses Gosod Cyllideb ar gyfer 24/25
yn cael ei wireddu. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1)
Nodi’r
ymatebion a awgrymir i wrthwynebwyr (wedi'u diwygio yn unol ag unrhyw
benderfyniadau a wneir gan y Cabinet); 2)
Cymeradwyo’r
gwaith o gyflwyno’r Model Codi Tâl arfaethedig ar gyfer Promenâd Aberystwyth
fel y nodir yn yr adroddiad; 3)
Cymeradwyo
Creu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol. 4)
Cymeradwyo
Cyhoeddi hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwn. 5)
Nodi
y Codir Tâl am Barcio cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol wedi hynny. 6)
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y penderfyniad: Cyflwyno taliadau
am barcio ar hyd y rhan o Bromenâd Aberystwyth sy’n mynd o Drwyn y Castell i
Graig Glais, fel bod mwy o leoedd parcio ar gael ar lan y môr yn sgil cynyddu
trosiant y cerbydau fydd yn parcio. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: I awdurdodi
swyddogion i wneud y gwaith angenrheidiol i gwblhau ffordd y stad yn Nant
Seilo. Y rheswm dros y penderfyniad: •
Gwella diogelwch y ffordd a lles y trigolion. •
Fel y gall yr Awdurdod Priffyrdd Lleol ei mabwysiadu
gan ddefnyddio’r Côd ar gyfer Gwaith Stryd Preifat. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r
gwelliannau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel y dangosir yn Atodiad 1. 2. Nodi adborth y
Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Y rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod y Polisi Chwythu’r Chwiban yn gyfredol ac yn parhau i fod yn
addas i’r diben. |
|
Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Cylch Caron Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo bod y
Cyngor yn symud ymlaen â’r broses gaffael Deialog Cystadleuol ar gyfer Cynllun
Cylch Caron yn lle’r tendr agored. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn hwyluso
penderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen â phrosiect Cylch Caron. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r
Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Enwebu
cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad cadarnhaol a phrif gasgliad y Panel sef ‘Gan ystyried y galwadau
uchel presennol ar wasanaethau a'r pwysau ariannol heriol iawn, mae Cyngor Sir
Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n cael ei redeg yn dda”. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |