Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: ii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol
yn y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: i.
Llongyfarchwyd
y Cynghorydd Ceris Jones ar enedigaeth ei mab. ii.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor am godi ei lais yn erbyn y
Cynghorydd Gwyn Wigley Evans a’r cyhoedd yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 3 Medi 2024. iii.
Diolchwyd
i’r cyfieithwyr am eu gwaith yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Medi
2024, gan mai drwy gyfrwng y Gymraeg y cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod
cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Medi 2024 yn gywir. Materion yn codi:
Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cadarnhau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a
ddiweddarwyd. 2.
Argymell i’r Cyngor Llawn ar 24/10/24 bod y
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: Nodi’r strategaeth a’r fframwaith y bydd yn y broses o bennu cyllideb yn
parhau i’w dilyn. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo adleoli llyfrgell Aberaeron i Benmorfa. 2.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol, fodd bynnag, nid oedd y Cabinet yn cefnogi'r argymhelliad i
ohirio'r penderfyniad. Y rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod arbedion i’r gyllideb yn cael eu cyflawni a bod gwell
gwasanaeth llyfrgell yn cael ei ddarparu'n gynaliadwy ar gyfer ardal Aberaeron. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Derbyn a
chymeradwyo Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2023-24. 2. Nodi adborth y
Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu a chytuno y dylid darparu hyfforddiant
pellach ar Gydraddoldeb a Thuedd Ddiarwybod i Gynghorwyr a Staff. Y rheswm dros y penderfyniad: Mae'n ofynnol i’r Cyngor o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector
Cyhoeddus: • gynhyrchu
Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) ar gyfer
2023/24, ac • yn ei gyhoeddi
ar wefan allanol y Cyngor erbyn 31/03/25. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Nodi cynnwys y
Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi
Cyhoeddus, ac i fabwysiadu’r siarter ar ran y Cyngor. 2. Nodi adborth y
Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Y rheswm dros y penderfyniad: Bydd mabwysiadu'r Siarter hon ac anrhydeddu ei hegwyddorion yn darparu
cydweithio a chydraddoldeb gyda fframwaith cenedlaethol i gefnogi teuluoedd
mewn profedigaeth a'r gymuned yn sgil digwyddiad mawr. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r
Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo safle Pwll Coffa Aberteifi/ Maes Parcio
Cae Ffair fel y safle a ffafrir ar gyfer datblygu’r Ganolfan Lles, ar yr amod
bod nifer y mannau parcio a gollir yn cael ei leihau gymaint ag a ellir. 2.
Cymeradwyo mai adeiladu o’r newydd ar safle Pwll
Coffa Aberteifi/ Maes Parcio Cae Ffair yw’r opsiwn a ffafrir. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach. Y rheswm dros y penderfyniad: Galluogi’r swyddogion i ddatblygu’r Model Pum Achos ar gyfer Canolfan
Lles Aberteifi, fel bod modd gwneud cais i dîm Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac
Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Llywodraeth Cymru. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Polisi Dyrannu Cyffredinol
drafft (Atodiad A). Y rheswm dros y penderfyniad: • Galluogi'r
Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol i sicrhau bod tai cymdeithasol yn
cael eu dyrannu i'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai. • Sicrhau bod
Polisi Dyrannu Cyffredin y Cyngor yn addas. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |