Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Gareth Davies y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar. ii.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Elaine Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. iii.
Ymddiheurodd
James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Porth Gofal am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd cydymdeimlad i deulu'r Cynghorydd Paul Hinge a
fu farw'n ddiweddar. Talwyd teyrnged i'r Cynghorydd Paul Hinge am ei gyfraniad
helaeth i wleidyddiaeth yng Ngheredigion. Estynnwyd cydymdeimlad diffuant i'w
deulu. ii.
Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Rhian Thomas,
cyn-gyfrifydd Grŵp yn y Gwasanaeth Cyllid sydd wedi marw yn ddiweddar. Cafwyd munud o
dawelwch i gofio amdanynt. iii.
Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i deulu Margaret Jones,
artist nodedig sydd wedi marw yn ddiweddar. iv.
Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o gynnal
Rali Ceredigion lwyddiannus. Nodwyd bod y digwyddiad diweddar wedi cyfrannu'n
helaeth at yr economi leol. v.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Wasanaethau Addysg yr
awdurdod lleol am adroddiad rhagorol yn dilyn arolygiad cynhwysfawr gan Estyn,
corff arolygu addysg genedlaethol. vi.
Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Gartref Gofal Preswyl
Hafan y Waun a phawb a gymerodd ran wrth dderbyn adroddiad cadarnhaol yn dilyn
yr arolygiad cyntaf gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ers newid perchnogaeth. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 55 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod. ii.
Datganodd
y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 56 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod. iii.
Datganodd
y Cynghorydd Carl Worrall fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 55. iv.
Datganodd
Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
mewn perthynas ag eitem 56, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr
Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf
2024 yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r
cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben
â’r ddarpariaeth yn Ysgol Craig yr Wylfa o 31 Awst 2025. Y rheswm dros y penderfyniad: Cymeradwyo
dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol
Craig yr Wylfa. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r
cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben
â’r ddarpariaeth yn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn o 31 Awst 2025. Y rheswm dros y penderfyniad: Cymeradwyo
dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol
Llanfihangel y Creuddyn. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er
mwyn dod i ben â’r ddarpariaeth yn Ysgol Llangwyryfon o 31 Awst 2025. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cymeradwyo
dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol
Llangwyryfon. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r
cynnig i ddechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn dod i ben
â’r ddarpariaeth yn Ysgol Syr John Rhys o 31 Awst 2025. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cymeradwyo
dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar y ddarpariaeth yn Ysgol
Syr John Rhys. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: • Cymeradwyo’r
Polisi Recriwtio Diogel. • Cymeradwyo’r
Cynllun Prynu Gwyliau Ychwanegol. • Cymeradwyo’r
Canllaw Teithio, Cynhaliaeth a Llety. • Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Y rheswm dros y
penderfyniad: • Er mwyn sicrhau
cydymffurfiaeth â deddfwriaeth. • Er mwyn
cynorthwyo gweithgarwch recriwtio a chadw, iechyd a lles cyflogeion, ac
effeithiolrwydd gweithredo. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi'r cefndir a'r rhesymeg dros ystyried trosglwyddo
preswylwyr ac uno timau staff rhwng Cartref Tregerddan
i Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun. 2.
Nodi canlyniadau proses yr ymgynghoriad a gynhaliwyd
rhwng 22ain Ebrill 2024 a 15fed Gorffennaf 2024. 3.
Cymeradwyo trosglwyddo preswylwyr ac uno timau staff
rhwng Cartref Tregerddan gyda Chartref Gofal Preswyl
Hafan y Waun. 4.
Awdurdodi'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Gofal
i: i.
Sicrhau bod amserlen yn cael ei llunio ar gyfer
trosglwyddiadau’r preswylwyr rhwng cartrefi, mewn ffordd sydd a.
yn cydbwyso'r angen i bob unigolyn a'i deulu gael amser
priodol i wneud penderfyniadau yn erbyn yr angen cyffredinol am y broses gau, b.
i'w rheoli o fewn amserlen sy'n lleihau ansicrwydd i’r
preswylwyr, teuluoedd a staff. 5.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Gwneud y mwyaf
o’r cyfleoedd o fewn Hafan y Waun gan gynnwys yr amgylchedd, y lleoliad ac i
nodi cyfleoedd yn y dyfodol i reoli heriau'r gyllideb yn effeithiol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno: a)
bod swyddogion yn mynd ati i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y cynigion a gyflwynwyd gan y swyddogion i’r Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar 11 Gorffennaf 2024, ond bod y cynnig i godi tâl
ar ddeiliaid Bathodynnau Glas yn cael ei adael allan a bod y cynnig i godi tâl
a geir yn Atodiad B yn cael ei fewnosod yn lle’r Tabl 2 a gyflwynwyd; a hefyd b)
bod adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus yn
cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus cyn
i’r Cabinet ystyried y cynigion a chytuno arnynt yn derfynol. c)
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y
penderfyniad: I sicrhau bod y
disgwyliad o ran incwm - a gytunwyd gan y Cyngor fel rhan o’r broses o osod
cyllideb 24/25 - yn cael ei gyflawni, gan symleiddio’r taliadau a’r trefniadau
presennol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cefnogi cynnal proses ymgynghori ffurfiol o dan Reoliadau
Gorchmynion Traffig (Gweithdrefn)(Cymru a Lloegr) 1996 (diwygiedig) ynglŷn
â’r cynigion a gyflwynwyd ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn
Aberystwyth. ii.
Bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei adrodd gerbron y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a’r Cabinet cyn y gwneir
unrhyw benderfyniad ynghylch gweithredu’r cynnig. iii.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y
penderfyniad: Fel y gall y
Cyngor reoli’n well y ddarpariaeth barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth
gyda’r bwriad o gynyddu nifer y llefydd parcio sydd ar gael a sicrhau bod mwy o
gerbydau yn mynd a dod. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo'r matrics asesu diwygiedig (Atodiad B). ii.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn sicrhau
bod yr Awdurdod yn parhau i fodloni ei ofynion mewn perthynas â hyd y llwybrau
cynnal a chadw cyn-drin yn y gaeaf yn dilyn meini prawf uchder. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo
gwneud y Gorchymyn a chyhoeddi’r Hysbysiad priodol yn y wasg i’r perwyl hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau diogelwch y ffyrdd ar bwys y mynediad i’r
ysgol newydd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno i gynnal
gwaith priffyrdd Cae’r Henwas fel y manylir yn Atodiad A ar draul y cyhoedd a'i
fabwysiadu gan y Cyngor. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
galluogi'r briffordd newydd i gael ei chynnal ar draul y cyhoedd er budd y
cyhoedd/cymuned gyffredinol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo: a)
bod Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn codi ffi o
£500; a hefyd b)
bod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn codi ffi o £471; am amser y
swyddogion mewn perthynas â chyflwyno trwyddedau Bargodi o dan adran 177 o
Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn grym o 1/9/24 ymlaen. Y rheswm dros y
penderfyniad: Adennill costau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo'r Polisi a’r Cynllun Llety â Chymorth. 2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal
Cymdeithasol Statudol weithredu polisi ac adolygu yn flynyddol. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: I gyd-fynd â'r
“Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015". |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |