Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 3ydd Mehefin, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol ac Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Estynnwyd llongyfarchiadau i blant, pobl ifanc ac athrawon Ceredigion ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, Powys.

ii.     Estynnwyd llongyfarchiadau i Alaw Fflur Jones o Felinfach ar ddod yn drydydd yn y Fedal Ddrama ac i Heledd Haf Evans o Lwyndafydd ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Rhiannon Taylor ar ennill gwobr Tiwtor Cymraeg y Flwyddyn.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Penparc ar ennill rali’r sir ac i Glwb Ffermwyr Ifanc Tregaron ar gynnal y digwyddiad llwyddiannus.

iv.   Hefyd estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm wrth gynnal digwyddiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sef ‘Glaswellt a Thail Cynaliadwy’ a gynhaliwyd yn ddiweddar ar fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed.

3.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 12.

ii.     Datganodd y Cynghorydd Matthew Vaux fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 13 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. 

iii.    Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 17 parthed Cynghorau Tref a Chymuned.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

5.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: "Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried symud ein llyfrgell o ganol a chalon y dref i'r Ganolfan Les. Helpiwch ni I rwystro'r cynnig hwn. Bydd Ymgynghoriad Cyhoeddus yn digwydd tua mis Mehefin ac mae'n bwysig i ni gyd ei lenwi." pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

6.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

7.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

8.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a'r Ysgolion 2024-27 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 923 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a’r Ysgolion ar gyfer 2024- 27.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cael cymeradwyaeth Corff Llywodraethol bob ysgol o 1 Medi 2024 ymlaen.

9.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch y cynnig i ddiwygio Cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaenol a derbyn disgyblion 3 mlwydd oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Comins-coch pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd a chymeradwyo'r adroddiad cryno drafft o wrthwynebiadau.

2.    Cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y dysgu sylfaenol a derbyn disgyblion 3 mlwydd oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Comins-coch yn unol â’r Hysbysiad Statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhaid i'r cynnig gael penderfyniad terfynol o fewn 16 wythnos i'r cyfnod gwrthwynebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion - 011/2018.

10.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch y cynnig i ddiwygio Cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaenol a derbyn disgyblion 3 mlwydd oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd a chymeradwyo'r adroddiad cryno drafft o wrthwynebiadau.

2.    Cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y dysgu sylfaenol a derbyn disgyblion 3 mlwydd oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant yn unol â’r Hysbysiad Statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhaid i'r cynnig gael penderfyniad terfynol o fewn 16 wythnos i'r cyfnod gwrthwynebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion - 011/2018.

11.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch y cynnig i ddiwygio Cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaenol yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd a chymeradwyo'r adroddiad cryno drafft o wrthwynebiadau.

2.    Cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y dysgu sylfaenol yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos yn unol â’r Hysbysiad Statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhaid i'r cynnig gael penderfyniad terfynol o fewn 16 wythnos i'r cyfnod gwrthwynebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion - 011/2018.

12.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch y cynnig i ddiwygio Cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaenol yn Ysgol Gynradd Plascrug pdf eicon PDF 18 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd a chymeradwyo'r adroddiad cryno drafft o wrthwynebiadau.

2.    Cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y dysgu sylfaenol yn Ysgol Gynradd Plascrug yn unol â’r Hysbysiad Statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhaid i'r cynnig gael penderfyniad terfynol o fewn 16 wythnos i'r cyfnod gwrthwynebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion - 011/2018.

13.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch y cynnig i ddiwygio Cyfrwng Iaith y Dysgu Sylfaenol yn Ysgol Gynradd Cei Newydd pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y dysgu sylfaenol yn Ysgol Gynradd Cei Newydd yn unol â’r Hysbysiad Statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Rhaid i'r cynnig gael penderfyniad terfynol o fewn 16 wythnos i'r cyfnod gwrthwynebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion - 011/2018.

14.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

15.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Polisïau Newydd Adnoddau Dynol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

·       Cymeradwyo'r Polisi Absenoldeb a Chymorth Teuluol.

·       Cymeradwyo'r Polisi Gweithio’n Hyblyg.

·       Cymeradwyo’ Polisi Atal a Rheoli Straen.

·       Cymeradwyo’r diwygiadau i'r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor.

·       Cymeradwyo'r Polisi Gwyliau ac Absenoldeb.

·       Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a chytuno i gynnwys yn y Polisi Gwyliau ac Absenoldebau fod gan Oedolion sy’n Gwirfoddoli gyda’r Cadetiaid yr hawl i gael hyd at bum diwrnod o wyliau blynyddol gyda thâl. Bydd hyn yn galluogi’r Awdurdod i wneud cais am Wobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (gwobr Arian wedi’i chyflawni ar hyn o bryd).

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

·       Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth newydd.

·       Cefnogi recriwtio a chadw, iechyd a lles gweithwyr, ac effeithiolrwydd gweithredol.

16.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Mabwysiadu Llwybr Troed Lôn Ty Llwyd, Llanfarian pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo:

1.    i osod Hysbysiadau Adran 228 Bwriad i Fabwysiadu ar y safle.

2.    os na dderbynnir gwrthwynebiadau, bod y darn o Lôn Tŷ Llwyd, fel y nodir yn Atodiad A yn cael ei gynnal ar gost y cyhoedd a’i fabwysiadu gan y Cyngor.

3.    i hysbysu’r cyhoedd bod y darn o Lôn Tŷ Llwyd, fel y nodir yn Atodiad A yn cael ei gynnal ar gost y cyhoedd a’i fabwysiadu gan y Cyngor.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I alluogi cynnal llwybr troed/ffordd ar gost cyhoeddus er budd y cyhoedd/y gymuned.

17.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 766 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r Cynllun Grant Cymunedol wedi'i ddiweddaru sydd ynghlwm fel Atodiad 2.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fodd bynnag, ni wnaeth y Cabinet gefnogi’r argymhelliad i gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned yn y cynllun.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn diweddaru'r Cynllun Grant Cymunedol i sicrhau bod yr arbedion cyfalaf a chyllideb refeniw a gymeradwywyd fel rhan o'r cyllidebau ar gyfer 2024/25 yn cael eu cyflawni yn ymarferol.

18.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Blynyddol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogiad 2023-2024 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 590 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

19.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.