Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd a
Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal am nad
oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd
Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r
Cyhoedd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd
ymrwymiadau eraill y Cyngor. |
|||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: i.
Dymunwyd yn dda i Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn salwch diweddar. ii. Cydymdeimlwyd â Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth a'r teulu ar golli ei dad. iii.
Llongyfarchwyd Dafydd Llywelyn ar gael ei ail-ethol yn
Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ardal Heddlu Dyfed-Powys. |
|||||||||||||
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datganodd y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol
mewn perthynas â Deiseb A (Rydym ni sydd wedi llofnodi
isod yn dymuno gwrthwynebu cynllun yr Awdurdod Lleol i newid cyfrwng y dysgu
i’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Plascrug
erbyn Medi 2024. Hoffem i’r ysgol gadw ei pholisi presennol o ddysgu’n
ddwyieithog ym mhob oed ac ar draws y grwpiau blwyddyn.) yn eitem 204. ii.
Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 212 a gadawodd y cyfarfod pan
oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. |
|||||||||||||
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|||||||||||||
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd PDF 1 MB a.
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn dymuno gwrthwynebu
cynllun yr Awdurdod Lleol i newid cyfrwng y dysgu i’r Gymraeg yn y Cyfnod
Sylfaen yn Ysgol Plascrug erbyn Medi 2024. Hoffem i’r
ysgol gadw ei pholisi presennol o ddysgu’n ddwyieithog ym mhob oed ac ar draws
y grwpiau blwyddyn. b.
“Gwrthod y Newidiadau Arfaethedig yn Aberystwyth” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a.
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn dymuno gwrthwynebu
cynllun yr Awdurdod Lleol i newid cyfrwng y dysgu i’r Gymraeg yn y Cyfnod
Sylfaen yn Ysgol Plascrug erbyn Medi 2024. Hoffem i’r
ysgol gadw ei pholisi presennol o ddysgu’n ddwyieithog ym mhob oed ac ar draws
y grwpiau blwyddyn. b.
“Gwrthod y Newidiadau Arfaethedig yn Aberystwyth” |
|||||||||||||
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r Cynllun Ynni Ardal Leol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Mae
diweddariadau cynnydd rheolaidd yn rhan annatod o fonitro ein taith Sero Net ac
mae cymeradwyo Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Ynni yn rhoi cyfeiriad i waith
lleol a rhanbarthol ar ynni. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo: 1)
gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol, 2)
cyhoeddi Hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl
hwn, a 3)
yr ymateb a awgrymir i wrthwynebwyr (Atodiad 3). Y rheswm dros y
penderfyniad: Awdurdodi
gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig uchod, a chyhoeddi hysbysiad yn y wasg
leol i'r perwyl hwnnw. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo'r Rhaglen Amlinellol Strategol a
gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau cyllid
grant drwy Raglen dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r Polisi Derbyn Disgyblion 2025/2026. Y rheswm dros y penderfyniad: I gael polisi mewn lle ar gyfer 2025/2026. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau
enwebu’r sawl a enwebwyd yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar
Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff
Llywodraethol. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer Cartrefi Gofal preifat yng
Ngheredigion ar gyfer 2024/25 ar y lefelau wythnosol canlynol, a fydd yn dod i
rym o 08/04/2024:
2.
Cynnig ffi am ystafelloedd sydd ag ystafell ymolchi yn
gysylltiedig am swm ychwanegol o £25 yr wythnos am ystafelloedd perthnasol, a
fydd yn dod i rym o 08/04/2024. 3.
Cymeradwyo’r ffioedd
ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor yng Ngheredigion ar gyfer 2024/25 yn unol â’r lefelau wythnosol
canlynol, a fydd yn dod i rym o 08/04/2024:
4.
Nodi bod nifer fach o
gontractau preifat wedi cael eu hetifeddu ar ôl trosglwyddo Hafan y Waun i’r
Cyngor ac y bydd y ffioedd ar gyfer y lleoliadau hyn yn parhau yn unol â’r
contractau hynny. 5.
Nodi bod y cylch er
mwyn cynnal adolygiad manwl arall o’r Ffioedd yn golygu y dylid cynnal hwn ar
gyfer y broses o osod ffioedd ar gyfer 25/26 neu 26/27. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cytuno ar a gosod ffioedd i Bobl Hŷn ar gyfer 2024/25. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|||||||||||||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |