Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 20fed Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

152.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

iii.    Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

153.

Materion Personol

Cofnodion:

Cydymdeimlwyd â theulu Gwilym Tudur, sylfaenydd Siop y Pethe, Aberystwyth a fu farw yn ddiweddar.

154.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 163 (atodiad 5, eitem 63) a buddiant personol mewn perthynas ag eitem 170.

ii.     Datganodd y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 167.

iii.    Datganodd y Cynghorydd Endaf Edwards fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 170 ac mewn materion yn ymwneud â chyflogeion y Cyngor.  

155.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

156.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

157.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

158.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

159.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Adolygu Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a'r adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

2.    Cymeradwyo Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion (Atodiad A), yn amodol ar y newidiadau canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad:

 

Tudalen 7:

“6.2 Nid yw’r ddau fath o angorfeydd Masnachol, ar ôl eu dyrannu, yn drosglwyddadwy i drydydd parti heb gydsyniad ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw. Bydd unrhyw drosglwyddiadau yn unol â 18.2 y polisi hwn.”

 

Tudalen 14:

“Trosglwyddo Angorfeydd a Chyfleusterau

18.1 Nid oes dim hawliau trosglwyddo mewn perthynas ag Angorfeydd neu gyfleusterau Hamdden o fewn Harbyrau a reolir gan Geredigion.

 

18.2 Mae trosglwyddiadau sy’n ymwneud ag angorfeydd Masnachol yn amodol ar gydsyniad ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw, ni ddylid gwrthod cydsyniad o'r fath yn afresymol. Bydd unrhyw gydsyniad a roddir yn amodol ar y cwch a neilltuwyd ar hyn o bryd i'r angorfa yn aros ar yr angorfa ar ôl cwblhau'r trosglwyddiad.

 

Lle rhoddir cydsyniad, bydd y Cyngor yn codi ffi trosglwyddo angorfa ar yr ymgeisydd sy’n cymryd yr angorfa (gweler ‘Ffioedd a Chostau’ cyfredol). Yn ogystal â’r ffi trosglwyddo, bydd y ffioedd angori llawn sy’n berthnasol i’r cwch am y tymor hefyd yn berthnasol (gweler ‘Ffioedd a Chostau’ cyfredol). Dim ond ar ôl cael taliad llawn o'r ffioedd hyn y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau.”

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mabwysiadu a gweithredu Polisi Rheoli Harbyrau sy’n cefnogi ac yn hwyluso’r gwaith o reoli’r harbyrau yn deg, yn gyson ac yn dryloyw er budd holl ddefnyddwyr yr harbyrau.

160.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Caffael Contract Trin Gwastraff Gweddilliol pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i ddyfarnu'r contract i'r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd, yn amodol ar gyfnod segur statudol o 10 diwrnod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod gwastraff gweddilliol y sir yn cael ei waredu yn barhaus yn unol â rhwymedigaethau statudol y Cyngor.

161.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiadau (Atodiadau A a B) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 160 ar yr agenda, Atodiad A a B, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Y dylai'r eitem barhau i fod yn eithriedig.

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

162.

Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb.

163.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw 24/25 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi mai Ardoll Tân 24/25 cymeradwy Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion yw £5.440m, sef cynnydd o £584k (12%). Ar ôl darparu ar gyfer cyllid costau Pensiwn tybiedig gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 1.1% yn Nhreth y Cyngor i drigolion Ceredigion.

2.    Cymeradwyo'r rhestr o Ffioedd a Chostau i fod yn effeithiol o 01/04/24 fel yr amlinellir yn:

         a)    Atodiad 1

         b)    Atodiad 2

          c)    Atodiad 3

         d)    Atodiad 4

3.    I argymell i'r Cyngor Llawn, mewn perthynas â Phremiymau Treth y Cyngor o 01/04/24:

        a)     01/04/24, dylai 25% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net o ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) gael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol, ar yr amod drwy’r amser na fydd cyfanswm y cyllid a ddelir yn y Cynllun Tai Cymunedol yn fwy na £2.0m ac y bydd unrhyw gyllid y tu hwnt i'r lefel hon mewn unrhyw flwyddyn benodol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi sefyllfa'r gyllideb gyffredinol.

        b)     O 01/04/24, bydd 75% o’r holl arian a godir o bremiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (net o ad-daliadau / costau Treth y Cyngor) yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i gefnogi sefyllfa’r gyllideb gyffredinol, er mwyn lleihau baich Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion.

4.    I argymell i'r Cyngor Llawn, ar gyfer y Gyllideb 24/25:

        a)     Gofyniad y Gyllideb ar gyfer 24/25 yw £193.572m, sy’n cynnwys yr holl gynigion ar gyfer Lleihau’r Gyllideb a amlinellir yn Atodiad 5, ond gan eithrio Eitem 63 ynghylch y Gwasanaeth Casglu Cynhyrchion Hylendid Amsugnol.

        b)     Mae lefel Treth y Cyngor arfaethedig 24/25 at ddibenion y Cyngor Sir yn gynnydd o 11.10% (sef 1.1% mewn perthynas â chynnydd Ardoll yr Awdurdod Tân a 10.0% ar gyfer holl Wasanaethau y Cyngor)

         c)     Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd Band D o £172.45 (sef £14.37 y mis / £3.32 yr wythnos).

5.    Cymeradwyo mai’r terfyn i’w gyflwyno ar gyfer gwastraff gweddilliol o 01/04/24 ymlaen fyddai 3 bag du (dim mwy na 60 litr yr un) fesul aelwyd breswyl fesul casgliad bob 3 wythnos.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi’r gwaith o baratoi Cyllideb 2024/25 i barhau, fel y gellir paratoi papurau’r Gyllideb a chyfrifiadau Treth y Cyngor ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ar 29/02/24.

164.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024/25 a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) 2024/25 pdf eicon PDF 442 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2.    I argymell i'r Cyngor Llawn:

        a)     cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddiadau ar gyfer 2024/25;

        b)     cymeradwyo Polisi y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25; a

         c)     bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i'r swyddog Adran 151, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael, i ddiwygio Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a’r Rhaglen Fuddsoddi, yn ystod y flwyddyn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Pennu Strategaeth Rheoli Trysorlys a Pholisi Isafswm Refeniw ar gyfer 2024/25.

165.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y Dysgu Sylfaen a derbyn disgyblion 3 oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Comins Coch pdf eicon PDF 9 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.

2.    Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018.

166.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y Dysgu Sylfaen a derbyn disgyblion 3 oed yn rhan amser yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant pdf eicon PDF 12 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.

2.    Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018.

167.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y Dysgu Sylfaen yn Ysgol Gynradd Plascrug pdf eicon PDF 17 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.

2.    Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018.

168.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i ddiwygio cyfrwng iaith y Dysgu Sylfaen yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.

2.    Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a chyhoeddi’r hysbysiad statudol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion – 011/2018.

169.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Enw Swyddogol yr Ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo'r enw Ysgol Dyffryn Aeron fel yr enw ar gyfer yr ysgol ardal newydd.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo'r enw swyddogol.

170.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

171.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Polisi, Strategaeth a Fframwaith Rheoli Risg Corfforaethol Drafft pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Polisi, Strategaeth a Fframwaith Rheoli Risg drafft.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod y Polisi, Strategaeth a Fframwaith Rheoli Risg yn gyfredol ac yn addas i'r diben.

172.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 384 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

173.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.

174.

Agenda Atodol - Cyllid a Chaffael - Asesiad Effaith Integredig ar gyfer Eitem 12 pdf eicon PDF 345 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem o dan eitem 163.