Agenda a Chofnodion

Cyfarfod arbennig, Cabinet - Dydd Iau, 21ain Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

131.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

132.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

133.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

134.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

135.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

136.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

137.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

138.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Sylfaen Treth y Cyngor a'r Dyddiadau ar gyfer Talu'r Praeseptau pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo mai Sylfaen Treth y Cyngor at ddibenion pennu Treth y Cyngor yw 33,768.51 yn unol â’r cyfrifiadau a nodir yn Atodiadau 1 a 2.

2.    Nodi mai Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw yw 32,622.36.

3.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer 2024/25 fydd – 12 rhandaliad cyfartal i’w talu ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis gan ddechrau ym mis Ebrill 2024.

4.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept Cynghorau Tref a Chymuned Ceredigion ar gyfer 2024/25 fydd – 3 rhandaliad cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf mis Ebrill 2024, mis Gorffennaf 2024 a mis Hydref 2024.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’n ofyniad cyfreithiol i’r Cyngor bennu sylfaen y dreth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

139.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Diwygio Ffioedd a Chostau 2023 - 2024 mewn perthynas ag Adrannau 37, 38 a 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

CYMERADWYO diwygio Ffioedd a Chostau 2023-2024 fel a ganlyn:

 

1)    Ffïoedd Goruchwylio a Gweinyddu mewn perthynas ag Adrannau 37, 38 a 278 ar gyfer Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol:

 

Adran 37 a 278:

 

Gwaith hyd at £500,000

£6,000

Gwaith dros £500,000

Y £500,000 cyntaf

8% o werth y gwaith

Y £500,000 nesaf pan fo’r gwerth yn fwy na £0.5m

7% o werth y gwaith

Y £2,000,000 nesaf pan fo’r gwerth yn fwy na £1m

6% o werth y gwaith

Gweddill gwerth y gwaith pan fo’n fwy na £3m

5% o werth y gwaith

 

Daw’r ddau i rym ar 1/1/24.

 

2)    Tâl Adran 37 ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol:

Codir 1% hyd at £500,000 cyntaf o werth y gwaith

Isafswm o £1,050 – Uchafswm o £5,250

Tâl Amrywio £622

 

Daw i rym ar 1/1/24.

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau y gall y Cyngor adennill yn llawn y costau ar gyfer ymateb i hysbysiadau Adran 37 a cheisiadau o dan adran 38 ac adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

140.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i’r Aelodau Etholedig a’r Swyddogion am eu gwaith dros y flwyddyn, ac i drigolion Ceredigion hefyd. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb.