Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Cydymdeimlwyd â'r Cynghorydd Wyn Evans a'r teulu ar golli ei dad. ii. Cydymdeimlwyd â theulu Deio Evans, cyn-weithiwr
gyda’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol sydd wedi marw’n ddiweddar. iii. Dymunwyd yn dda i Ken Griffiths, Arweinydd Tîm-
Gwaith Stryd ar ei ymddeoliad yn dilyn 47 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor Sir
yng Ngheredigion. iv. Dymunwyd yn dda
hefyd i Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Amgylcheddol wrth
iddo adael ei rôl gyda'r awdurdod. Diolchwyd iddo am ei waith rhagorol a
dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol. v. Llongyfarchwyd
George Ryley, Rheolwr Corfforaethol: Caffael a Thaliadau, a gyrhaeddodd y
rhestr fer yn ddiweddar fel ‘Unigolyn y Flwyddyn’ yng Ngwobrau GO Cymru
2023/24. Yn ogystal, dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad o'i swydd bresennol
yn dilyn 27 mlynedd o wasanaeth. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datgelodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies
a Matthew Vaux fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag
eitem 118, gan gadarnhau eu bod wedi cael gollyngiad i siarad a phleidleisio ar
y mater hwn gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau. ii. Datgelodd y Cynghorydd Catrin M S. Davies fuddiant
personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 118, gan gadarnhau
ei bod wedi cael gollyngiad i siarad mewn perthynas ag Eiddo Hirdymor ac i
siarad a phleidleisio mewn perthynas ag ail gartrefi gan y Pwyllgor Moeseg a
Safonau. iii. Datgelodd y Cynghorwyr Rhodri Evans a Gareth Lloyd
fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 118. Roedd
y ddau wedi cael gollyngiad i siarad a phleidleisio ar y mater hwn gan y
Pwyllgor Moeseg a Safonau.</AI3> |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r Adroddiad ar Seibiant a Chyfleoedd Dydd a’r
Cynllun Gweithredu fel yr amlinellwyd gan Practice Solutions Limited. 2.
Cymeradwyo bod Grŵp Datblygu yn goruchwylio’r gwaith
o gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar y cyd â Bwrdd y Rhaglen Llesiant Gydol Oes a
Grŵp Strategaeth Ceredigion Iachach. 3.
Datblygu a chytuno ar amserlen adnoddau a chynllun
rhaglen cadarn i gefnogi a sicrhau bod capasiti yn
cael ei nodi i arwain ar y rhaglen drawsnewid sylweddol hon. 4.
Dychwelyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach gydag Adroddiad Cynnydd Blynyddol. 5.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach a chytuno i drefnu Gweithdy Aelodau yn gynnar yn
2024 yn un o Ganolfannau’r Awdurdod Lleol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
caniatáu i’r Awdurdod fwrw ymlaen â’r gwaith o ail-lunio Gwasanaethau Dydd a’r
Ddarpariaeth Seibiant yn unol â’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Ar fater Premiwm Treth y Cyngor yn achos Eiddo Gwag
Hirdymor, mae’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn y dylai’r Premiwm
presennol o 25% gynyddu, o 01/04/24 ymlaen, i: a)
100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd
neu lai. b)
150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum
mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd). c)
200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg
mlynedd. Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol
cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am
nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn. 2.
Ar fater Premiwm Treth y Cyngor yn achos Ail
Gartrefi, mae’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn y dylai’r Premiwm
presennol o 25% gynyddu i: a)
100% o 01/04/24 ymlaen, ac yna i b)
150% o 01/04/25 ymlaen. 3. Argymell i’r
Cyngor Llawn fod unrhyw ystyriaethau ariannol posib sy’n deillio o’r broses o
ystyried yr argymhellion hyn yn cael eu trin fel mater ar wahân mewn cyfarfod
yn y dyfodol yn dilyn 14/12/23. Y rheswm dros y
penderfyniad: · Rhoi gwybod i’r
Cyngor Llawn am safbwynt y Cabinet ar bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo
Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion. · Ceisio dod ag
eiddo gwag hirdymor yn ôl i gael eu defnyddio unwaith eto er mwyn darparu
cartrefi diogel a fforddiadwy, cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud
cymunedau lleol Ceredigion yn fwy cynaliadwy. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiadau (Atodiadau B1 a B2) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 119 ar yr agenda, Atodiad B1 a B2,
i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio)
(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat,
ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y
cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod. PENDERFYNIAD: Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod. Y rheswm dros y penderfyniad: Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |