Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

110.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

111.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Cydymdeimlwyd â'r Cynghorydd Wyn Evans a'r teulu ar golli ei dad.

ii.     Cydymdeimlwyd â theulu Deio Evans, cyn-weithiwr gyda’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol sydd wedi marw’n ddiweddar.

iii.    Dymunwyd yn dda i Ken Griffiths, Arweinydd Tîm- Gwaith Stryd ar ei ymddeoliad yn dilyn 47 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor Sir yng Ngheredigion. 

iv.   Dymunwyd yn dda hefyd i Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Amgylcheddol wrth iddo adael ei rôl gyda'r awdurdod. Diolchwyd iddo am ei waith rhagorol a dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol.

v.     Llongyfarchwyd George Ryley, Rheolwr Corfforaethol: Caffael a Thaliadau, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn ddiweddar fel ‘Unigolyn y Flwyddyn’ yng Ngwobrau GO Cymru 2023/24. Yn ogystal, dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad o'i swydd bresennol yn dilyn 27 mlynedd o wasanaeth.

112.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datgelodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Gareth Davies a Matthew Vaux fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 118, gan gadarnhau eu bod wedi cael gollyngiad i siarad a phleidleisio ar y mater hwn gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.

ii.     Datgelodd y Cynghorydd Catrin M S. Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 118, gan gadarnhau ei bod wedi cael gollyngiad i siarad mewn perthynas ag Eiddo Hirdymor ac i siarad a phleidleisio mewn perthynas ag ail gartrefi gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.

iii.    Datgelodd y Cynghorwyr Rhodri Evans a Gareth Lloyd fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 118. Roedd y ddau wedi cael gollyngiad i siarad a phleidleisio ar y mater hwn gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.</AI3>

113.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

114.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

115.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

116.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

117.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Adroddiad Practice Solutions Limited yn dilyn Ymgynghoriad a Gwaith Ymgysylltu – Cyfleoedd Dydd a Seibiant (Pobl Hyn, Anableddau Dysgu, Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog, ac Awtistiaeth) a Darpariaeth Seibiant (Gydol Oes) Ceredigion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r Adroddiad ar Seibiant a Chyfleoedd Dydd a’r Cynllun Gweithredu fel yr amlinellwyd gan Practice Solutions Limited.

2.    Cymeradwyo bod Grŵp Datblygu yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar y cyd â Bwrdd y Rhaglen Llesiant Gydol Oes a Grŵp Strategaeth Ceredigion Iachach.

3.    Datblygu a chytuno ar amserlen adnoddau a chynllun rhaglen cadarn i gefnogi a sicrhau bod capasiti yn cael ei nodi i arwain ar y rhaglen drawsnewid sylweddol hon.

4.    Dychwelyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach gydag Adroddiad Cynnydd Blynyddol.

5.    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach a chytuno i drefnu Gweithdy Aelodau yn gynnar yn 2024 yn un o Ganolfannau’r Awdurdod Lleol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn caniatáu i’r Awdurdod fwrw ymlaen â’r gwaith o ail-lunio Gwasanaethau Dydd a’r Ddarpariaeth Seibiant yn unol â’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant.

118.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Ar fater Premiwm Treth y Cyngor yn achos Eiddo Gwag Hirdymor, mae’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn y dylai’r Premiwm presennol o 25% gynyddu, o 01/04/24 ymlaen, i:

a)    100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd neu lai.

b)    150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd).

c)    200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg mlynedd.

Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn.

 

2.    Ar fater Premiwm Treth y Cyngor yn achos Ail Gartrefi, mae’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn y dylai’r Premiwm presennol o 25% gynyddu i:

a)    100% o 01/04/24 ymlaen, ac yna i

b)    150% o 01/04/25 ymlaen.

 

3.    Argymell i’r Cyngor Llawn fod unrhyw ystyriaethau ariannol posib sy’n deillio o’r broses o ystyried yr argymhellion hyn yn cael eu trin fel mater ar wahân mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dilyn 14/12/23.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

·       Rhoi gwybod i’r Cyngor Llawn am safbwynt y Cabinet ar bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion.

·       Ceisio dod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i gael eu defnyddio unwaith eto er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy, cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol Ceredigion yn fwy cynaliadwy.

119.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiadau (Atodiadau B1 a B2) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 119 ar yr agenda, Atodiad B1 a B2, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

120.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 pdf eicon PDF 219 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

121.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy 2023/24 - Perfformiad Ariannol pdf eicon PDF 430 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

122.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adolygiad canol blwyddyn o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 352 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

123.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Contract Bancio pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

124.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Gwaharddiad ar werthu a chyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro yng Nghymru yn dod yn gyfraith gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

125.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol pdf eicon PDF 166 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

126.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (20.10.23) pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

127.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022-2023 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

128.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol- Chwarter 1 2023/24 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 625 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

129.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS – Chwarter 1 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

130.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.