Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 7fed Tachwedd, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif Eitem

94.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

95.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd John Roberts yn dilyn salwch diweddar. Hefyd, estynnwyd cydymdeimlad i’r Cynghorydd John Roberts a’i deulu ar golli ei wyres.

ii.      Estynnwyd llongyfarchiadau i Natalie Bowen, Swyddog Gwasanaethau Parcio ar gael ei gwobrwyo’n swyddogol gyda chap rhyngwladol yn ddiweddar yn dilyn ei rhan mewn gêm rygbi  rhwng Cymru a Chanada yn 2007.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau i Sioned Harries yn dilyn ei hymddangosiad yn yr WXV1 gyda thîm rygbi merched Cymru a gynhaliwyd yn Awstralia.

iv.    Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar gynnal Eisteddfod lwyddiannus yn ddiweddar. Estynnwyd llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach ar ennill yr Eisteddfod.  

96.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorwyr Bryan Davies a Rhodri Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 101 a gadawsant y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. 

ii.      Datganodd y Cynghorwyr Keith Henson a Chris James fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 101.

iii.    Datganodd Neris Morgans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 101, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol.

97.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

98.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

99.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

100.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda pdf eicon PDF 126 KB

a.    Argymhelliad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar y Cynigion a’r Cyfleoedd ar gyfer Parcio

Cofnodion:

a.     Argymhelliad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar y Cynigion a’r Cyfleoedd ar gyfer Parcio.

 

Nodwyd yr adroddiad.

101.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Y Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 mewn Ysgolion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi cynnwys yr Adroddiad – ‘ADOLYGU’R DDARPARIAETH ÔL-16 YNG NGHEREDIGION’.

2.     Cynnal Astudiaeth Ddichonolrwydd er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yn yr Adolygiad.

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

1.     Cabinet i nodi cynnwys yr Adroddiad.

2.     Ystyried ymhellach manteision ac anfanteision Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yng nghyd-destun y chwech egwyddor.

102.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

103.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Safle Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi - Astudiaeth Ddichonoldeb pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo’r cynnig i fwrw ymlaen â chwblhau astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r opsiynau ar gyfer ailddatblygu Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi yn unol â’r Strategaeth Llesiant Gydol Oes.

2.     Cyflwyno canfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r cynllun arfaethedig i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach cyn dod yn ôl gerbron y Cabinet.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn galluogi i’r Awdurdod fwrw ymlaen gyda’r gwaith o ailddatblygu Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod yn unol â’r Strategaeth Llesiant Gydol Oes.

104.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Ffyrdd Preswyl Newydd i'w mabwysiadu: Maes yr Halen, Cross Inn (ED4069) pdf eicon PDF 895 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo fod ffordd y stâd Maes yr Halen, Cross Inn, Ceinewydd fel y nodwyd ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu fel priffordd caiff ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd o dan ddeddfwriaeth Adran 38 ac Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Caniatáu i’r ffordd gael ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd a sicrhau llesiant i’r dyfodol i’r cyhoedd fydd yn defnyddio’r ffordd.

105.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Ffyrdd Preswyl Newydd i'w mabwysiadu: Cae Bach y Rhiw, Rhydyfelin (ED4257) pdf eicon PDF 749 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo fod ffordd y stâd Cae Bach y Rhiw, Rhydyfelin fel y nodwyd ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu fel priffordd caiff ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd o dan ddeddfwriaeth Adran 38 ac Adran 278 Deddf Priffyrdd 1980.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Caniatáu i’r ffordd gael ei chynnal a’i chadw ar gost y cyhoedd a sicrhau llesiant i’r dyfodol i’r cyhoedd fydd yn defnyddio’r ffordd.

106.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2022/23 pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2022/23 gan gynnwys y Adolygiad Blynyddol o’r Amcanion Perfformiad a Llesiant.

2.     Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo y bydd yr Amcanion Llesiant Corfforaethol yn parhau heb eu newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

3.     Cymeradwyo cynnal Panel Asesu Perfformiad cyntaf y Cyngor yn gynnar yn 2024/25.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau y cydymffurfir â Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 / Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

107.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Blynyddol o Gwynion, Canmoliaeth a Rhyddid Gwybodaeth (2022-2023) gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

108.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Mynd i'r Afael â Chaledi 2022-23 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 776 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

109.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.