Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Neris Morgans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: Cydymdeimlwyd â Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol:
Gwasanaethau Uniongyrchol a'i theulu ar golli ei thad. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023 yn
gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1)
Derbyn yr ychwanegiadau i'r Strategaeth Dai ddrafft y
cyfeirir ati yn yr adroddiad. 2)
Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Strategaeth Dai. 3)
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn caniatáu i’r Cyngor gyflawni’r gofynion sy’n gysylltiedig â’r
swyddogaeth dai strategol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: · Creu Grŵp
Datblygu Dementia Integredig Ceredigion i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r
cynllun gweithredu. · Rhannu
canfyddiadau cychwynnol yr ymgysylltu gyda’r cyhoedd, a datblygu Cynllun
Cyfathrebu ac Ymgysylltu gan sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cynnydd
parhaus mewn perthynas â chyflawni’r cynllun gweithredu. · Rhoi adroddiad
Cynnydd Blynyddol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. · Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cefnogi a datblygu dull integredig o ddiwallu anghenion unigolion sy’n byw
gyda dementia a’u gofalwyr drwy amrywiaeth o adnoddau iechyd, gofal
cymdeithasol a’r trydydd sector. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn
gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo'r offeryn Asesiad Effaith Integredig
diwygiedig. 2.
Bod gweithdy yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau Etholedig
i egluro'r offeryn a'i bwysigrwydd yn y broses o wneud penderfyniadau. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor
Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Y rheswm dros y
penderfyniad: Mae'r offeryn Asesiad Effaith Integredig diwygiedig yn adlewyrchu'r
ddeddfwriaeth gyfredol a bydd yn galluogi proses benderfynu ar sail gwybodaeth. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo’r Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad a’r
Fframwaith Rheoli Perfformiad. 2.
Nodi adborth y Pwyllgor
Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Y rheswm dros y
penderfyniad: Mabwysiadu Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad diweddaredig
a Fframwaith Rheoli Perfformiad sy’n amlinellu’r prif egwyddorion ar gyfer
rheoli perfformiad yn y Cyngor. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1)
Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28. 2)
Cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Drafft
dros y gaeaf 2023. 3)
Nodi adborth y Pwyllgor
Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Y rheswm dros y
penderfyniad: Bydd hyn yn datblygu nod y Cyngor o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cael
gwared â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon a meithrin
cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt
yng Ngheredigion. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |