Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 5ed Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Neris Morgans 

Eitemau
Rhif eitem

56.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Catrin M S. Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.      Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

57.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Estynnwyd croeso cynnes i Ricky Cooper i’w gyfarfod Cabinet cyntaf yn dilyn ei benodiad yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal.

ii.      Llongyfarchwyd pawb a fu ynghlwm â chynnal Rali Ceredigion 2023 a gynhaliwyd yn ddiweddar. Diolchwyd i staff a phartneriaid am eu gwaith i sicrhau llwyddiant y digwyddiad, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol ar Geredigion gyfan.

iii.    Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd Sir Meurig James, a fu farw’n ddiweddar.

iv.    Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Steffan Rees o Benparcau, Aberystwyth, a fu farw’n ddiweddar.

58.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

59.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

60.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

61.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

62.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)    Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar y Cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim cyn 11am ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor.

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus roi ystyriaeth bellach i’r argymhellion a gynigiwyd (gan gynnwys ystyried y cynlluniau peilot i roi parcio am ddim yn Nhregaron a Llandysul) cyn proses pennu cyllideb 2024-2025.

 

b)    Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ar Heriau Recriwtio yn y Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes.

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad a’r heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes a chytunwyd â’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan nodi y byddai hefyd yn ceisio parhau i gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

 

c)     Adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu mewn perthynas ag ‘Y Dyfodol’, Cellan.

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad a’r angen i archwilio opsiynau ar gyfer darpariaeth feithrin yn ardal Llanbedr Pont Steffan; fodd bynnag, nid oedd y cynnig gan y Pwyllgor yn opsiwn ymarferol.

63.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Adolygu'r trefniadau gweithio hybrid gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 491 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Mabwysiadu gweithio hybrid fel opsiwn parhaol i weithwyr sy’n gallu gweithio yr un mor effeithiol o bell ag y gallant yn y swyddfa.

ii.      Datblygu Polisi Gweithio Hybrid i ddisodli’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro presennol.

iii.    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cefnogi parhad y ffyrdd hybrid o weithio.

64.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch y Polisi Menopos gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 871 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cymeradwyo’r Polisi Menopos (Atodiad A).

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a chadarnhau y byddai Hyrwyddwr y Menopos yn cael ei benodi, y byddai’r Cyngor yn hyrwyddo Diwrnod Menopos y Byd ac y bydd Gweithdy Aelodau yn cael ei gynnal i godi ymwybyddiaeth.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cefnogi gweithwyr sy’n profi symptomau’r menopos a’u rheolwyr i fynd i’r afael ag agweddau galwedigaethol y broses naturiol hon.

65.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Cynllun y Gweithlu 2023-2028 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cymeradwyo Cynllun y Gweithlu 2023-2028.

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cefnogi mabwysiadu Cynllun y Gweithlu newydd i sicrhau bod y gweithlu yn bodloni ei anghenion o ran darparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.

66.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Stryd Morgan, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 8) 2023 pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol a chyhoeddi Hysbysiad o fwriad yn y wasg wedi hynny.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I sicrhau mynediad o Stryd y Santes Fair i gyfleuster carthffosiaeth newydd i leddfu llifogydd. Hefyd, er mwyn gwella’r mynediad i gerddwyr o Stryd Morgan i Stryd y Santes Fair.

67.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Argymell i’r Cyngor y dylai’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag Alcohol gael eu hymestyn am 3 blynedd arall, yn weithredol rhwng 20 Hydref 2023 a 19 Hydref 2026.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Daw’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol i ben ar 19 Hydref 2023. Mae angen hwyluso parhad mesurau drwy barhau i ddarparu Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn y tair canol tref a nodwyd. Mae angen gwneud hyn er mwyn mynd i’r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, troseddau a achosir gan unigolion meddw, ac aflonyddu a chodi ofn ar aelodau’r cyhoedd.

68.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Traeth y Borth pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i argymell i'r Cyngor y dylid ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i wahardd cŵn mewn ardal ddynodedig o draeth y Borth a’i gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn mewn ardal ddynodedig ar bromenâd y Borth am 3 blynedd arall o 19.10.2023 tan 18.10.2026 yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

       Daw'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cyfredol i ben ar 19 Hydref 2023.

       Mae angen hwyluso parhad mesurau trwy barhau â darpariaeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn y Borth. Mae angen hyn er mwyn mynd i'r afael ag achosion o faw cŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig megis methu â chadw cŵn dan reolaeth.

       Er mwyn cydymffurfio â gofynion statudol a sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gorfodi'n briodol ac yn effeithiol.

69.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Adolygiad o Ddosbarthau Etholiadol a Mannau Pleidleisio 2023 pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo bod yr adolygiad gorfodol o ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio yn dechrau ar ddydd Llun, 2 Hydref 2023.

2.     Cymeradwyo'r amserlen amlinellol a’r broses ar gyfer yr adolygiad.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

70.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cadarnhau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a ddiweddarwyd.

2.     Argymell i’r Cyngor Llawn ar 21/09/23 bod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a ddiweddarwyd yn cael ei chymeradwyo.

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

71.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy 2023/24 - Perfformiad Ariannol pdf eicon PDF 460 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi’r sefyllfa Refeniw gyffredinol a amlinellir yn yr adroddiad, gan gynnwys y mesurau lliniaru a ddefnyddir i reoli sefyllfa ariannol heriol yn ystod y flwyddyn.

2.     Cymeradwyo symudiadau’r Gyllideb sydd eu hangen o ganlyniad i gysoni’r Cyllidebau â Strwythur diweddaraf y Cyngor fel y’i crynhoir yn Adran 2.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cydnabod y sefyllfa ariannol a sicrhau bod y mesurau cywir yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni sefyllfa ariannol fantoledig ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

72.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cytuno i ddechrau Ymgynghoriad Cyhoeddus ffurfiol ynghylch lefelau Premiymau Treth y Cyngor yn y dyfodol ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion.

2.     Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd i baratoi a lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus.

3.     Cytuno i sefydlu Gweithgor Trawsbleidiol o blith yr Aelodau i ystyried Premiymau Treth y Cyngor.

4.     Nodi y bydd angen i’r Cyngor Llawn ddod i unrhyw benderfyniad ar newid lefel bresennol Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer naill ai Eiddo Gwag Hirdymor neu Ail Gartrefi yng Ngheredigion.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gymryd y camau cyntaf angenrheidiol fel bod modd ystyried maes o law lefel Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion.

73.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 1 pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

74.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Perfformiad Chwarterol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 322 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

75.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.