Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

24.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Cydymdeimlwyd â theulu a chydweithwyr yr Arolygydd Gareth Earp o Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar.

ii.      Hefyd cydymdeimlwyd â theulu Dr Llŷr Roberts, academydd ac Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm â chystadleuaeth Talwrn y Beirdd ar gyfer ysgolion uwchradd yr awdurdod lleol, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Fawr Aberteifi.

iv.    Estynnwyd llongyfarchiadau i Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn a oedd yn dathlu 185 o flynyddoedd eleni.

v.     Estynnwyd llongyfarchiadau i Kay Morris ac Eryl Jones am drefnu gweithdy llwyddiannus ar roboteg i dros 300 o ddisgyblion.

vi.    Estynnwyd llongyfarchiadau i drefnwyr Gŵyl Fawr Aberteifi ar gynnal gŵyl lwyddiannus ac i’r Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd y Cyngor a Llywydd yr Eisteddfod.

vii.  Estynnwyd llongyfarchiadau i Mia Lloyd ar gael ei dewis i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago ym mis Awst.

viii. Dymunwyd yn dda i Marc Chapple, Rheolwr Prosiect – Cynllun Amddiffyn yr Arfordir, ar ei ymddeoliad ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor Sir yng Ngheredigion.

25.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 30.

ii.      Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 30, 35, 36 a 37.

iii.    Datganodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 39, 43 a 45 a gadawodd y cyfarfod cyn i’r materion yma cael eu trafod.

26.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

27.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

28.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

29.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda pdf eicon PDF 181 KB

a)    Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Gysylltedd Digidol

Cofnodion:

a.     Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Gysylltedd Digidol

 

Nodwyd yr adroddiad.

30.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Darpariaeth Cartref Gofal yn Hafan y Waun yn Aberystwyth pdf eicon PDF 489 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad.

2.     Cydnabod a nodi'r Materion Masnachol (gan gynnwys Diwydrwydd Dyladwy Ariannol a Chyfreithiol) a gynhwysir yn Atodiad 1 (Eitem EITHRIEDIG).

3.     Awdurdodi Swyddogion i fwrw ymlaen â’r dull gweithredu Cam 1 arfaethedig, sy’n cynnwys ‘Cynllunio a gweithredu’r broses o drosglwyddo Cartref Gofal Hafan y Waun o MHA i berchnogaeth y Cyngor gan gynnwys trosglwyddiad lesddaliad a reolir y cytunwyd arno ar y cyfle ymarferol cynharaf, a chynnwys cwblhau’r holl gytundebau cyfreithiol angenrheidiol i gyflawni hyn’.

4.     Awdurdodi Swyddogion i wneud a gweithredu gwaith datblygu mewn perthynas â'r dull gweithredu Cam 2 arfaethedig.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Diogelu dyfodol agos Cartref Gofal Hafan y Waun a chaniatáu i Swyddogion symud ymlaen fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

31.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 31 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

32.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch System Brynu Ddeinamig ar gyfer Gofal Cartref pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i ddyfarnu lleoedd ar y System Brynu Ddeinamig i’r darparwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus, yn amodol ar gyfnod segur statudol o 10 diwrnod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod gwasanaethau gofal cartref yn eu lle i ddiwallu anghenion gofal a chymorth a aseswyd, yn unol â rhwymedigaethau statudol y Cyngor.

33.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad A) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 33 ar yr agenda, Atodiad A, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

34.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Trefniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru (awdurdod lleol) gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 635 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cytuno bod Cyngor Sir Ceredigion yn llofnodi Cytundeb y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru.

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bydd cytuno ar y cynigion hyn a llofnodi Cytundeb y Cyd[1]bwyllgor yn rhoi cydweithrediad Cyngor Sir Ceredigion yn y trefniadau cydweithio hyn ar sail ffurfiol yn ogystal ag egluro rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynnal a chyflawni swyddogaethau cenedlaethol sy'n cefnogi ac yn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu.

35.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Adroddiad ar waith ac effaith Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC) gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cytuno ar y Memorandwm o Ddealltwriaeth ar gyfer 2023 – 2026 (Atodiad A).

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I sicrhau cyd-weithio cadarn yn y meysydd penodol a amlinellwyd yn y Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Awdurdodau Lleol Powys a Cheredigion am y cyfnod 2023 – 2026.

36.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Canllawiau Pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau - model cymorth cynhwysol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 560 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.       Cytuno i fabwysiadu cynnwys y canllaw pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau Ceredigion.

ii.      Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

i.       Er mwyn cydymffurfio â gofynion Trawsnewid ADY. Bydd y ddogfen yn sicrhau bod trefniadau pontio ar draws Ceredigion yn gyson gynhwysol ac o’r safon uchaf.

ii.      Datblygu cysondeb gweithredu a phontio llyfn ar gyfer plant a phobl ifanc trwy gydol eu gyrfa addysgol ac i fyd oedolion , gan eu galluogi i gyrraedd eu potensial.

37.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Polisi Derbyn Ysgolion 2024/2025 pdf eicon PDF 600 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau’r Polisi derbyn disgyblion 2024/2025.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gael polisi mewn lle ar gyfer 2024/2025.

38.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

39.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Trefniadau Tâl y Crwner Diwygiedig ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 317 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cyfraddau tâl canlynol ar gyfer yr Uwch Grwner a’r Crwner Cynorthwyol ar gyfer 2023/24 yn unol â Chylchlythyr 68 y JNC:

 

1)    Uwch Grwner rhan-amser

i)    Cyflog Cadw o £22,200 y flwyddyn i gwmpasu cadw/argaeledd gwasanaeth y tu allan i oriau o 1 Ebrill 2023 hyd at 31 Mawrth 2024.

ii)   Defnyddio’r gyfradd ddyddiol o £489 i dalu cyflog blynyddol o £12,225 i’r Crwner (25 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant o 1 Ebrill 2023 hyd at 31 Mawrth 2024).

Cyfanswm: £34,425 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

 

2)    Crwner Cynorthwyol:

Diwrnod llawn: £417;

Hanner diwrnod: £209.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron y JNC; lliniaru heriau a diogelu arian cyhoeddus.

40.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Ymgynghoriad Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion pdf eicon PDF 582 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Rhoi caniatâd i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod Polisi’r Cyngor ar gyfer Rheoli Harbyrau Ceredigion yn addas i’w ddiben.

41.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron pdf eicon PDF 858 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Nodi’r adroddiad a’r trafodaethau sy’n dal i fynd rhagddynt gyda LlC.

2)    Os bydd trafodaethau swyddogion gyda Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus ac os ceir cymeradwyaeth grant ar ôl cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, bod trafodaeth ffurfiol yn cael ei chynnal gyda’r contractwr a ffefrir gyda’r bwriad o gynnig contract hyd at y gwerth uchaf a amlinellwyd yn eu cynnig am y tendr.

3)    Fel bod yr awdurdod i ddyfarnu’n ffurfiol a chymeradwyo derbyn tendr ar gyfer contract cynllun Amddiffyn yr Arfordir Aberaeron yn cael ei ddirprwyo i Aelodau'r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a thros Gyllid a Chaffael, mewn ymgynghoriad â'r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Chyllid a Chaffael.

4)    Nodi, gan dybio y ceir cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr Achos Busnes Llawn, y bydd angen hyd at tua £550k ychwanegol o arian cyfatebol gan y Cyngor a fydd yn cael ei adlewyrchu yn y Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi i waith adeiladu Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron fynd rhagddo cyn gynted â phosibl unwaith y derbynnir cymeradwyaeth ar gyfer yr Achos Busnes Llawn ac unwaith y bydd cyllid grant LlC wedi’i gadarnhau.

42.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad A) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 42 ar yr agenda, Atodiad A, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

43.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Diweddariad ar y Gwasanaethau Bysiau Cyhoeddus gan gynnwys yr ymarfer caffael diweddar pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

44.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 44 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

45.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Tendrau ar gyfer Gwasanaethau Bws Lleol 526, 585 a 588 pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo dyfarnu’r contractau i’r cynigwyr llwyddiannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn galluogi i’r gwasanaethau barhau i weithredu o 1 Medi 2023 ymlaen.

46.

EITEM EITHRIEDIG

Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem uchod ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.

 

Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod.

Cofnodion:

Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 46 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 5 (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod.

 

PENDERFYNIAD:

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

47.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Alldro'r Rhaglen Gyfalaf pdf eicon PDF 256 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

48.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn - 2023/24-2025/26 pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod rhwng 2023/24 a 2025/26, fel y’i hamlinellir yn Atodiad A.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn ddiweddaraf.

49.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Alldro Refeniw Rheoladwy 2022/23 pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

50.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Perfformiad Rheoli'r Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 334 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

51.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Grantiau a ddyfarnwyd o dan Gynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion / Cronfa'r Degwm pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

52.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (17.03.23) pdf eicon PDF 28 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

53.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Blynyddol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogiad 2022-2023 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 554 KB

Cofnodion:

Nododd y Cabinet yr adroddiad a chytunodd ag argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

·       y dylai cyfranogwyr yr holl ymarferion ymgysylltu dderbyn y canlyniadau.

·       bod adroddiad monitro sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.

54.

Adendwm- Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch ystyried dull tymor canolig o gomisiynu gwasanaeth 'Tîm a Reolir' ar gyfer y Tîm Gofal a Gynlluniwyd, Porth Cynnal, i sicrhau bod digon o gapasiti i ddarparu gwasanaeth diogel a hyfyw yn unol â dyletswyddau statudol y Cyngor o ran diogelu pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Nodi cyngor y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Cynnal, sef bod yr amser wedi dod i benderfynu parhau i ddarparu gwasanaeth diogel i blant a'u teuluoedd drwy ddefnyddio Tîm a Reolir dros gyfnod hirach.

2.     Awdurdodi’r Swyddogion i fynd ati i gomisiynu, drwy broses gaffael briodol, gwasanaeth cymwys Tîm a Reolir i ymgymryd â dyletswyddau amddiffyn plant fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

55.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Mynegodd yr Arweinydd ac Eifion Evans, Prif Weithredwr, eu diolch i Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro: Porth Cynnal wrth iddi adael ei rôl gyda’r awdurdod. Diolchwyd iddi am ei gwaith rhagorol a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol.