Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd cydymdeimlad â theulu’r Arglwydd John Morris o
Aberafan, cyn-Weinidog y Cabinet a chyn-Aelod Seneddol Llafur Cymru, a fu
farw’n ddiweddar. ii.
Estynnwyd
llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Tregaron ar ennill rali’r sir ac i Glwb
Ffermwyr Ifanc Felinfach ar gynnal y digwyddiad
llwyddiannus. iii. Estynnwyd llongyfarchiadau i blant, pobl
ifanc ac athrawon Ceredigion ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn
Llanymddyfri. iv. Estynnwyd llongyfarchiadau i Claire
Lloyd, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ar gael ei choroni’n
bencampwraig bocsio Cymru ac ar ennill cystadlaethau’r delyn a’r piano yn
Eisteddfod yr Urdd. Estynnwyd llongyfarchiadau i Ianto Lloyd hefyd ar gael ei
goroni’n bencampwr bocsio Cymru. v. Estynnwyd llongyfarchiadau i Stevie Williams ar gystadlu yn y Giro d’Italia
yn ddiweddar. vi. Hefyd estynnwyd llongyfarchiadau i’r
Athro Fonesig Elan Closs Stephens ar gael ei
phenodi’n Gadeirydd Dros Dro Bwrdd y BBC. vii. Estynnwyd
croeso cynnes i Clive Williams i’w gyfarfod cyntaf o’r Cabinet yn dilyn ei
benodi’n Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dros Dro: Ysgolion. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorwyr Gareth Davies a Keith Henson fuddiant personol mewn perthynas ag
eitem 8. ii.
Datganodd
y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 19. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Mai 2023 yn
gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd PDF 340 KB a.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig b.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig c.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig d.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig e.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig f.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig Cofnodion: a.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig b.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig c.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig d.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig e.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig f.
Gwrthwynebiad i'r cyfyngiadau 20mya arfaethedig |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo Strategaeth Mamolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar
ar gyfer Gorllewin Cymru. ii.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Ymgynghorwyd yn
helaeth ynghylch y strategaeth ac mae’n cynnig fframwaith ar gyfer darparu’r
Gwasanaethau Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar mwyaf effeithiol yn ardal Hywel
Dda. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Derbyn y Cynllun Gweithredu drafft sydd wedi’i lunio i
fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, fel
ymateb cymesur i’r argymhellion yn yr adroddiad. 2.
Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach yn
monitro’r Cynllun Gweithredu ar ôl chwe mis am gyfnod o flwyddyn er mwyn
sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud a bod y momentwm yn cael ei gynnal hyd nes
y bydd y gwaith wedi’i gwblhau. 3.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm dros y
penderfyniad: Sicrhau bod y
gwelliannau priodol yn cael eu gwneud yn unol â gofynion Arolygiaeth Gofal
Cymru fel y gellir parhau i weithredu gwasanaeth cadarn a diogel. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo Cynnig y Cynllun Tai Cymunedol. ii.
Nodi adborth y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cefnogi llwybr
newydd i berchentyaeth fforddiadwy ar gyfer trigolion Ceredigion sy'n gymwys. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo
gwneud dau Orchymyn Rheoleiddio Traffig ac y cyhoeddir Hysbysiad o Fwriad i’w
Gwneud yn y wasg i’r perwyl hwnnw. Y rheswm dros y
penderfyniad: Fel bod
effeithiau’r ddau Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol yn rhai parhaol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo
mabwysiadu’r ffordd ddiddosbarth sydd wedi’i lledu yn
y safle a elwir yn ‘100 Acre Wood’, drwy broses Adran
278 ac Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal a’i chadw wedi hynny gan
ddefnyddio arian cyhoeddus. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn galluogi i’r ffordd gael ei chynnal a’i
chadw gan ddefnyddio arian cyhoeddus. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Nodi atebion Swyddogion i’r gwrthwynebiadau a gafwyd. ii.
Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
angenrheidiol. iii.
Cymeradwyo cyhoeddi Hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg
leol i'r perwyl hwn, a gweithredu'r terfynau cyflymder newydd. Y rheswm dros y
penderfyniad: Mae’r
cyfiawnhad dros newidiadau i drefniadau terfyn cyflymder ar y seiliau eang a
roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun cenedlaethol hwn; diogelwch ar
y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau, ac annog Teithio Llesol a Chynaliadwy. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r
Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion 2022-23. ii.
Cymeradwyo cyhoeddi’r adroddiad ar wefan corfforaethol y
Cyngor yn unol â’r dyletswydd statudol. iii.
Cyflwyno’r adroddiad at sylw Comisiynydd y Gymraeg. Y rheswm dros y
penderfyniad: Dyletswydd
Statudol Rheoliadau Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r
Adroddiad, ac i: i.
Gyflwyno at sylw Comisiynydd y Gymraeg ii.
Gyflwyno’r adroddiad er gwybodaeth yng nghyfarfod Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion iii.
Gyhoeddi ar wefan corfforaethol y Cyngor, fel sy’n
ofynnol o dan drefn Safonau’r Gymraeg. Y rheswm dros y
penderfyniad: Gofyniad
Statudol o dan Rheoliadau Safonau’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru)
2011: Safon Rhif 146. |
|
EITEM EITHRIEDIG Nid yw’r adroddiad (Atodiad 1) ar yr eitem isod ar gael i’w gyhoeddi gan ei
fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan
4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y
Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol ag Adran 100B(2)
y Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd a’r wasg eu
heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno. Wrth ddelio â’r eitem hyn, gofynnir i’r Aelodau ystyried a ydynt am gau’r
cyhoedd a’r wasg allan o’r Cyfarfod. Cofnodion: Nid yw'r adroddiad sy'n ymwneud ag eitem 18 ar yr agenda, Atodiad 1, i'w
gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat,
ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Gofynnwyd i'r Aelodau, wrth ymdrin â'r eitem, ystyried a ddylid gwahardd y
cyhoedd a’r wasg o'r Cyfarfod. PENDERFYNIAD: Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod. Y rheswm dros y penderfyniad: Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cymeradwyo rhoi Llythyr o Fwriad i C Wynne & Sons Ltd
(sy’n masnachu fel Wynne Construction) gwerth hyd at £1.276m fel yr amlinellir
yn yr adroddiad. 2.
Derbyn y tendr oddi wrth C Wynne & Sons Ltd (sy’n
masnachu fel Wynne Construction) ar gyfer y contract adeiladu gwerth
£14,656,660 ar gyfer Ysgol Dyffryn Aeron, yn amodol ar y ffaith na fydd y
contract hwn yn mynd rhagddo hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’n
ffurfiol bod yr Achos Busnes Terfynol wedi’i gymeradwyo a bod y cyllid wedi’i
gadarnhau. 3.
Nodi, o dybio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r
Achos Busnes Terfynol wedi hynny, y bydd gofyn i’r Cyngor neilltuo arian
cyfatebol ychwanegol o oddeutu £1.1m yn niweddariad nesaf y Rhaglen Gyfalaf
Aml-flwyddyn. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn
caniatáu i’r gwaith o adeiladu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron ddechrau ar
y safle cyn gynted ag y bo modd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau
enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar
Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Enwebu
cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Enwebu person priodol
i agor y Ganolfan Lles yn swyddogol. Y rheswm dros y
penderfyniad: Cytuno i wahodd
person priodol i agor y Ganolfan Lles yn swyddogol. |
|
Cofnodion: Nododd Cabinet
y ddyletswydd newydd ar y Cyngor a'r trefniadau ar gyfer gweithredu mewn partneriaeth
ag asiantaethau eraill. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |