Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

165.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

166.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Estynnwyd cydymdeimlad â theulu Emlyn Watkin, cyn-Gyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Ceredigion, a fu farw’n ddiweddar.

ii.      Hefyd, estynnwyd cydymdeimlad â theulu Ben Davies, Cynghorydd Cymuned yn Llanbadarn a chyn-Gynghorydd Sir, a fu farw’n ddiweddar.

167.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

168.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi:  Parthed eitem 150, nodwyd bod y penderfyniad i dynnu ymaith y ffi fynedfa arfaethedig o dan Ffïoedd a Thaliadau Gwasanaeth yr Amgueddfa (Atodiad 3) yn un a wnaed ar lefel y swyddogion ‒ nid oedd angen gwneud penderfyniad gwleidyddol.

169.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

170.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

171.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

172.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 pdf eicon PDF 361 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 fel Rhyddhad Ardrethi Annomestig Dewisol o dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol 1988.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cefnogi busnesau lleol gan ddefnyddio’r cyllid grant sydd ar gael.

173.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Reoladwy 2022/23 - Perfformiad Ariannol pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

174.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 3 pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

175.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cytuno i’r Awdurdod Lleol gymryd rhan yn y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol ac:

2.     I ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Rhondda Cynon Taf (yr Awdurdod Arweiniol) ar gyfer gweithredu’r Cynllun.

3.     I ddarparu’r £165,000 gofynnol o arian cyfatebol (10%) o Raglen Gyfalaf y Cyngor.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cydymffurfio â’r broses ddemocrataidd.

176.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Grant Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) pdf eicon PDF 893 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno bod Grant Llywodraeth Cymru o £51,786.00 yn cael ei dderbyn a bod y Cyngor yn gweithredu mewn rôl gyfryngol fel banciwr.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cydymffurfio â gofynion llywodraethu democrataidd.

177.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Trefniadau Tâl y Crwner Diwygiedig ar gyfer 2022/23 a 2023/24 pdf eicon PDF 293 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

I ddiwygio Cofnod 155 Cabinet 14/2/23 i adlewyrchu’r newidiadau a argymhellir yng Nghylchlythyr 67 y JNC fel a ganlyn:

1)    2022/2023 (1/4/22-31/3/23):

Uwch Grwner rhan-amser:

i)      Cyflog Cadw o £21,449 y flwyddyn i gwmpasu cadw/argaeledd gwasanaeth y tu allan i oriau o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

ii)     Defnyddio'r gyfradd ddyddiol o £472.25 i dalu cyflog blynyddol o £11,806 i’r Crwner (@ 25 niwrnod y flwyddyn gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant).

Cyfanswm blynyddol o £33,255 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

 

Crwner Cynorthwyol:

       diwrnod llawn: £403;

       hanner diwrnod: £202.

 

2)    2023/24 (1/4/23-31/3/24):

Uwch Grwner rhan-amser:

i)      Cyflog Cadw o £21,449 y flwyddyn i gwmpasu cadw/argaeledd gwasanaeth y tu allan i oriau o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.

ii)     Defnyddio’r gyfradd ddyddiol o £472.25 i dalu cyflog blynyddol o £11,806 i’r Crwner (@ 25 niwrnod y flwyddyn gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant) o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.

Cyfanswm blynyddol o £33,255 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

 

Crwner Cynorthwyol:

       diwrnod llawn: £403;

       hanner diwrnod: £202.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron y JNC; lleihau heriau a diogelu’r pwrs cyhoeddus.

178.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Ffioedd Trefnwyr Angladdau Gwasanaeth y Crwner pdf eicon PDF 271 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Nodwyd y dewisiadau a nodir yn Atodiad 1.

2)    Cymeradwyo mabwysiadu Dull 1 o Weithredu i bennu’r cyfraddau sefydlog ar gyfer talu ffioedd trefnydd angladdau Crwner ar gyfer 2023-2026 (01/04/2023 - 31/03/2026) fel yr amlinellir yn Atodiad 2.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, lliniaru her a diogelu arian cyhoeddus.

179.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau’r enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr Ysgolion perthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

180.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Hanner Blwyddyn ar Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a gweithgarwch Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (2022/2023) pdf eicon PDF 346 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

181.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.