Agenda a Chofnodion

Cyfarfod arbennig, Cabinet - Dydd Mawrth, 26ain Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

32.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.         Ymddiheurodd Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

33.

Materion Personol

Cofnodion:

i.         Llongyfarchwyd Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion fel enillwyr cyffredinol cystadlaethau’r CFfI yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r holl gystadleuwyr ar eu llwyddiant yn y sioe a gynhaliwyd yn ddiweddar.

ii.        Llongyfarchwyd trigolion Ceredigion ar addurno eu cymunedau lleol yn barod ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Estynnwyd croeso cynnes i bawb sy’n gysylltiedig â’r ŵyl yn y sir yr wythnos nesaf.

iii.      Llongyfarchwyd Sioned Harries ar gael ei dewis i gynrychioli Cymru am y pedwerydd tro yng Nghwpan y Byd Merched a gynhelir yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

34.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorwyr Gareth Davies, Keith Henson a Matthew Vaux fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 40 a gadawsant y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.  

ii.    Datganodd Eifion Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 40 ar ran yr holl swyddogion a oedd yn bresennol.

 

35.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

 

36.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: Tynnwch ein Trethi Cyngor allan o Barclays pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

37.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

 

38.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

 

39.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru pdf eicon PDF 545 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.       Nodi Prosbectws, Dyraniadau a Gofynion Allweddol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn datgloi cyllid Llywodraeth y DU.

2.       Nodi'r dull o ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn bwydo i'r gwaith o ddatblygu Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol – a chymeradwyo'r egwyddorion a nodir, fel bod modd drafftio cynlluniau manwl.

3.       Cymeradwyo'r dyraniadau ariannol dangosol o 40%  Gymunedau a Lle; 40% i Gynorthwyo Busnesau Lleol ac 20% i Bobl a Sgiliau.

4.       Cymeradwyo’r trefniant i rannu'r cyllid capasiti o £40k sydd ar gael i Ganolbarth Cymru, a hynny 50/50 rhwng y naill Awdurdod Lleol a’r llall – i adlewyrchu'r cydweithio wrth ddatblygu'r cynllun buddsoddi rhanbarthol hyd yn hyn.

5.       Dirprwyo awdurdod ac awdurdodi Cyfarwyddwyr Corfforaethol a swyddog Adran 151 y ddau Awdurdod, gan ymgynghori ag Arweinwyr y Cynghorau, i wneud y penderfyniadau a'r camau sy’n angenrheidiol i gwblhau’r cynllun buddsoddi a derbyn yr arian a ddyrennir, yn ogystal â gweithredu a gweinyddu'r cynllun a'r holl gynlluniau cysylltiedig yn unol â gofynion a blaenoriaethau'r prosbectws a'r gronfa.

6.       Cymeradwyo'r model cydgyflawni arfaethedig ar draws Canolbarth Cymru (Ceredigion a Phowys) gyda Chyngor Sir Ceredigion yn awdurdod arweiniol (yr un sy’n cynnal) ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – gan gynnwys yr egwyddorion arfaethedig o ran brigdorri ac adnoddau.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel bod modd i Gyngor Sir Ceredigion fwrw ymlaen gyda Chyngor Sir Powys i ymateb i ofynion Llywodraeth y DU ar gyfer datgloi cyllid i Ganolbarth Cymru.

 

 

40.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch y Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Dros Dro ar gyfer Gweithio Hybrid gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

(a)    Cymeradwyo’r Strategaeth Gweithio Hybrid.

(b)    Cymeradwyo’r Polisi Dros Dro ar gyfer Gweithio Hybrid.

(c)     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a chytuno ar yr argymhelliad y dylid cynnal yr adolygiad ar ôl 12 mis yn hytrach na 18 mis fel y cynigiwyd yn wreiddiol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cefnogi’r broses o roi model newydd ar waith o ran gweithio hybrid.

 

 

41.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Alldro Refeniw Rheoladwy 2021/22 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.</AI17>

 

42.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Asesiad o Lesiant Lleol pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.</AI17>

 

43.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.</AI17>

 

44.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

i.       Nododd yr Arweinydd mai hwn fyddai’r cyfarfod Cabinet olaf i Mr Stephen Johnson, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael cyn iddo ymddeol o’r Cyngor. Diolchwyd iddo am ei holl waith gwych dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

ii.      Yn ddiweddar, penodwyd Mr Duncan Hall yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael a dymunir yn dda iddo pan fydd yn dechrau yn ei rôl newydd.