Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 5ed Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

12.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd Sian Howys, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

13.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Sian Maehrlein a’i theulu ar ôl iddi golli ei merch.

ii.     Mynegwyd cydymdeimlad â Rowland Rees-Evans, Uchel Siryf Dyfed (a chyn-Gynghorydd) a’i deulu ar ôl iddo golli ei dad yn ddiweddar.

iii.    Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Cen Llwyd, a fu farw’n ddiweddar.

iv.   Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran yn Nhaith Gyfnewid Baton y Frenhines drwy Geredigion.

v.     Llongyfarchwyd Dr Daniel Huws o Benrhyncoch ar gwblhau A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800 – c.1800.

vi.   Llongyfarchwyd Meithrinfa Plas Gogerddan, a enillodd Wobr Meithrinfa’r Flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn ddiweddar.

vii.  Llongyfarchwyd Gareth Thomas ar gynrychioli Cymru yn erbyn De Affrica wrth chwarae rygbi yn ddiweddar.

viii. Llongyfarchwyd yr holl fusnesau a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022 yn ddiweddar. Enillodd Devil’s Bridge Rum wobr Busnes Bwyd a Diod Newydd y Flwyddyn.

 

14.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

 

15.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

 

16.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

17.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

 

18.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

19.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda'n Gilydd - Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi drafft pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno ar y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Drafft a chymeradwyo y gellir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arno yn ystod haf 2022.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae ein Polisi Ymgysylltu â'r Gymuned ar hyn o bryd yn dyddio o 2012 ac mae angen un newydd er mwyn ystyried dulliau newydd o ymgysylltu a deddfwriaeth a chanllawiau diweddar. Mae angen hefyd ystyried y defnydd cynyddol o ymgysylltu digidol.

 

20.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Cynnig i gynyddu'r Tariffau Prisiau ar gyfer Siwrneiau mewn Cerbydau Hacni pdf eicon PDF 574 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Derbyn y set o brisiau a gynigir gan y cwmnïau tacsis (Cynnig A).

2.    Cytuno, yn unol ag Adran 65, Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, bod unrhyw brisiau arfaethedig yn cael eu hysbysebu’n gyhoeddus fel rhan o gyfnod ymgynghori statudol â’r cyhoedd a fydd yn para 14 diwrnod.

3.    Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, bydd y tariff prisiau (Cynnig A) yn dod i rym ar unwaith.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

       Er mwyn adolygu prisiau siwrneiau mewn cerbydau hacni oherwydd y cynnydd mewn costau tanwydd a chostau byw ac ystyried eu hamrywio.

       Er mwyn amrywio prisiau siwrneiau mewn cerbydau hacni yn unol ag Adran 65, Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

       Er mwyn caniatáu i’r prisiau arfaethedig newydd gael eu hysbysebu’n gyhoeddus.

 

21.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027 pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo canfyddiadau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027, a chymeradwyo’r Cynllun Gweithredu ac unrhyw Grwpiau Gorchwyl a Gorffen dilynol i fynd i’r afael â’r meysydd annigonol a nodir yn yr adroddiad. Gan gynnwys:

 

       Cymryd i ystyriaeth unrhyw anghenion Gofal Plant wrth ddatblygu adeiladau ysgol newydd neu bresennol.

       Cymryd darpariaeth Gofal Plant i ystyriaeth mewn unrhyw ddatblygiadau cynllunio presennol a newydd.

       Cydnabod bod darparwyr Gofal Plant yn rhan o economi sylfaenol Ceredigion.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cyflawni ein dyletswydd fel Awdurdod Lleol i gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn bob 5 mlynedd yn unol â Chanllawiau Gofal Plant Statudol 2016, a pharhau i adolygu’r asesiad trwy adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru.

 

22.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu'r Ysgol berthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu.

 

 

23.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Ceredigion 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Ceredigion 2022 gan gynnwys y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y Cynllun Gweithredu Chwarae 2022-2025, cyhyd â bod unrhyw benodiad newydd yn sgil y Cynllun Gweithredu yn destun achos busnes sy’n derbyn cymeradwyaeth prif swyddogion y Cyngor yn yr un modd â phob swydd arall.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I alluogi’r awdurdod lleol i fodloni ei rwymedigaethau o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010 o ran cyfleoedd chwarae.

 

24.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Adroddiad Monitro Safonau'r Gymraeg 2021-22 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

·       Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion (2021-22).

·       Cymeradwyo bod Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion (2021-22) yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn unol â dyletswydd statudol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Dyletswydd Statudol yn unol â Mesur y Gymraeg 2011.

 

25.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Polisi Sicrwydd a Bondiau Corfforaethol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1008 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

(i)    Bond a geir mewn arian parod yw dewis y Cyngor.

(ii)   Mae bond sy’n cael ei sicrhau gan drydydd parti yn ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti fod â statws credyd Moody’s o A3 neu statws credyd gyda Standard & Poor’s neu Fitch o A-.

(iii) Cymeradwyo’r Polisi Bondiau a Sicrwydd (Atodiad 1).

(iv) Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol; fodd bynnag, nid oedd y Cabinet yn cefnogi'r argymhelliad i gynnal rhestr o bersonau sy’n gymwys i fod yn fondman.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau y gellir cael gafael ar fondiau’n hawdd a’u defnyddio’n hawdd os oes angen a bod bondiau a sicrhawyd gyda thrydydd partïon yn cael eu llunio â thrydydd partïon â statws credyd uchel yn unig er mwyn diogelu sefyllfa’r Cyngor.

 

26.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Y Rhaglen Gyfalaf 3 Blynedd ddiweddaraf - 2022/23 i 2024/25 pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf 3 Blynedd diwygiedig ar gyfer 2022/23 I 2024/25, fel y’i hamlinellir yn Atodiad A.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd ddiweddaraf

 

27.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Perfformiad Rheoli'r Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

28.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Alldro'r Rhaglen Gyfalaf pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

29.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Grantiau a ddyfarnwyd o dan Gynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion/ Cronfa'r Degwm pdf eicon PDF 251 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

30.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 3 2021/22 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

31.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.