Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 2ail Mai, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

195.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

196.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb fu ynghlwm wrth y gwaith o drefnu Sadwrn Barlys yn Aberteifi ddydd Sadwrn.

ii.     Dymunwyd yn dda i Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant wrth iddi adael ei rôl gyda’r awdurdod. Diolchwyd iddi am ei gwaith rhagorol a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol. Bu i’r Prif Weithredwr ategu geiriau’r Arweinydd.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau i Hari Thomas a Dylan Pritchard-Evans ar dderbyn gwobr am eu dewrder ym mis Ionawr 2022 yn ystod Gwobrau Plant Cymru 2023 a gynhaliwyd yn ddiweddar. 

iv.   Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Felicity Roberts, Tiwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth am ei llwyddiant yng nghategori tiwtoriaid Gwobrau Ysbrydoli! 2023.

197.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

198.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

199.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: Gwrthwynebiad i'r bwriad i osod terfyn cyflymder 20mya yn Stags Head Rhif 69.1 - cyffordd B4578 & B4343 pdf eicon PDF 255 KB

a)    Gwrthwynebiad i'r bwriad i osod terfyn cyflymder 20mya yn Stags Head Rhif 69.1 – cyffordd B4578 & B4343

Cofnodion:

Nodwyd bod y ddeiseb uchod wedi dod i law ac y byddai’n cael ei thrin yn unol â’r canllawiau yn y Protocol Deisebau.

200.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

201.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

202.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Cynllun Gweithredu y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 (CSGA) gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 678 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno:

i.      i fabwysiadu Cynllun Gweithredu’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-2032, a’i weithredu o ddechrau tymor yr Haf 2023, a’i adolygu’n flynyddol;

ii.     i’r Cynllun Gweithredu yn cael ei fonitro drwy gyfrwng cyfarfodydd Fforwm Iaith y CSGA a Phwyllgor Dyfodol Dwyieithog;

iii.    i’r adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol Addysg y Gymraeg yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Iaith, Pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet;

iv.   yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, bod yr Awdurdod Lleol yn cychwyn ar y broses ymgynghori statudol o newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen yn ysgolion Comins Coch, Llwyn yr Eos, Padarn Sant, Plascrug a Chei Newydd a

v.     bod yr ymgynghoriad parthed newid oed derbyn mewn tair ysgol sef Comins Coch, Padarn Sant a Chei Newydd yn cychwyn ar 15fed Medi 2023.

vi.   Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio gyda Adran 84 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a rheoliadau Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru 2019.

 

 

203.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Egwyddorion ar gyfer Sicrhau Isadeiledd Addysg Cynaliadwy gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r ddogfenEgwyddorion ar gyfer Sicrhau Isadeiledd Addysg Cynaliadwy’ (Atodiad A).

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu gan gytuno ar rôl ac aelodaeth y ffrwd waith a oedd eisoes wedi’i sefydlu sefSicrhau seilwaith effeithiol ac effeithlon er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau’.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Bydd unrhyw gynnig i ad-drefnu yn y dyfodol yn seiliedig ar un neu fwy o’r egwyddorion a nodwyd yn adran 1.2 y ddogfen Egwyddorion ar gyfer Sicrhau Isadeiledd Addysg Cynaliadwy ac yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 Llywodraeth Cymru.

204.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Polisi Cydberthnasau a Rhywioldeb (ACaRh) gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 387 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i)      Cytuno i fabwysiadu cynnwys Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Ceredigion.

ii)     Nodi y bydd unrhyw sylwadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel newidiadau i’r Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

iii)   Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol Cwricwlwm i Gymru a darparu trosolwg clir o gyfrifoldebau’r ysgolion. Bydd y polisi’n sicrhau bod y dull o gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws Ceredigion yn gyson ac o’r safon uchaf.

205.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Y Strategaeth Dai - amlinellu gweledigaeth a chynlluniau Ceredigion ar gyfer tai yn y sir dros y 5 mlynedd nesaf gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo fersiwn DDRAFFT Strategaeth Dai Leol 2023-2028 fel y gellir dechrau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y Strategaeth.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

iii.    Cytuno bod y Cabinet yn ysgrifennu at Ms Elin Jones, Aelod Etholaeth yn Senedd Cymru, a’r pedwar Aelod Rhanbarthol yn Senedd Cymru, i fynegi pryder nad yw’n bosib darparu digon o dai i ddiwallu’r anghenion yng Ngheredigion gan fod y Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar ffosffadau ac ansawdd y dŵr o fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn caniatáu i’r Cyngor gyflawni’r gofynion sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth dai strategol.

206.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gorllewin Cymru gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Rhanbarthol Gorllewin Cymru.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â darpariaethau eiriolaeth oedolion.

207.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiadau Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/2021 a 2021/2022 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

208.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2022/23 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 866 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

209.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.