Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Materion Personol Cofnodion: i. Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb fu ynghlwm wrth y gwaith o drefnu Sadwrn Barlys yn
Aberteifi ddydd Sadwrn. ii.
Dymunwyd yn dda i
Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant wrth iddi adael ei
rôl gyda’r awdurdod. Diolchwyd iddi am ei gwaith
rhagorol a dymunwyd yn dda iddi
yn y dyfodol. Bu i’r Prif Weithredwr ategu geiriau’r Arweinydd. iii.
Estynnwyd llongyfarchiadau i Hari Thomas a
Dylan Pritchard-Evans ar dderbyn
gwobr am eu dewrder ym mis Ionawr 2022 yn ystod Gwobrau Plant Cymru 2023 a
gynhaliwyd yn ddiweddar. iv.
Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Felicity Roberts, Tiwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol
Aberystwyth am ei llwyddiant
yng nghategori tiwtoriaid Gwobrau Ysbrydoli! 2023. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
4 Ebrill 2023 yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd
materion yn codi o’r cofnodion. |
|
a)
Gwrthwynebiad i'r bwriad i osod terfyn cyflymder
20mya yn Stags Head Rhif
69.1 – cyffordd B4578 & B4343 Cofnodion: |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cytuno: i.
i fabwysiadu Cynllun Gweithredu’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer
2022-2032, a’i weithredu o ddechrau tymor yr Haf 2023, a’i
adolygu’n flynyddol; ii.
i’r Cynllun Gweithredu yn cael ei
fonitro drwy gyfrwng cyfarfodydd Fforwm Iaith y CSGA a Phwyllgor Dyfodol Dwyieithog; iii.
i’r adroddiad blynyddol ar gynnydd yn
erbyn Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol Addysg y Gymraeg yn cael ei
gyflwyno i’r Fforwm Iaith, Pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet; iv.
yn unol â’r Cod Trefniadaeth
Ysgolion, bod yr Awdurdod Lleol yn cychwyn ar
y broses ymgynghori statudol
o newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod
Sylfaen yn ysgolion Comins
Coch, Llwyn yr Eos, Padarn Sant, Plascrug
a Chei Newydd a v.
bod yr ymgynghoriad parthed newid oed
derbyn mewn tair ysgol sef
Comins Coch, Padarn Sant a Chei Newydd yn cychwyn ar
15fed Medi 2023. vi.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm
dros y penderfyniad: I gydymffurfio gyda Adran 84 o’r Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a rheoliadau
Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru
2019. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo’r ddogfen ‘Egwyddorion ar gyfer Sicrhau
Isadeiledd Addysg Cynaliadwy’ (Atodiad A). ii.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu gan gytuno ar rôl ac aelodaeth y ffrwd waith a oedd
eisoes wedi’i sefydlu sef ‘Sicrhau
seilwaith effeithiol ac effeithlon er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau’. Y rheswm
dros y penderfyniad: Bydd unrhyw gynnig i ad-drefnu yn
y dyfodol yn seiliedig ar un neu fwy o’r egwyddorion
a nodwyd yn adran 1.2 y ddogfen Egwyddorion ar gyfer Sicrhau Isadeiledd
Addysg Cynaliadwy ac yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 Llywodraeth Cymru. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i)
Cytuno i fabwysiadu cynnwys
Polisi Addysg Cydberthynas
a Rhywioldeb Ceredigion. ii)
Nodi y bydd unrhyw sylwadau
a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys
fel newidiadau i’r Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. iii)
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm
dros y penderfyniad: Er mwyn cydymffurfio
â gofynion cyfreithiol Cwricwlwm i Gymru
a darparu trosolwg clir o gyfrifoldebau’r ysgolion. Bydd y polisi’n sicrhau bod y dull o gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws Ceredigion yn gyson ac o’r safon
uchaf. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo fersiwn DDRAFFT Strategaeth Dai Leol 2023-2028 fel y gellir dechrau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y Strategaeth. ii.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. iii.
Cytuno bod y
Cabinet yn ysgrifennu at Ms
Elin Jones, Aelod Etholaeth
yn Senedd Cymru, a’r pedwar Aelod Rhanbarthol
yn Senedd Cymru, i fynegi pryder nad
yw’n bosib darparu digon o dai i ddiwallu’r
anghenion yng Ngheredigion gan fod y Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud hi’n
ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar ffosffadau ac ansawdd y dŵr o fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, yn unol
ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm
dros y penderfyniad: Er mwyn caniatáu i’r Cyngor gyflawni’r gofynion sy’n gysylltiedig
â’r swyddogaeth dai strategol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Rhanbarthol Gorllewin Cymru. ii.
Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Y rheswm
dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â darpariaethau eiriolaeth oedolion. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |