Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 4ydd Ebrill, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

182.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

183.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Estynnwyd llongyfarchiadau i Sioned Harries ar ennill cap rygbi rhyngwladol rhif 71 yn erbyn yr Alban yn ddiweddar ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched.

ii.     Estynnwyd llongyfarchiadau i Emlyn Lewis a Lee Jenkins ar gael eu cynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru C ar gyfer y Gêm Her Ryngwladol yn erbyn Lloegr C yn ddiweddar.

iii.    Dymunwyd yn dda i Elgan Jones, Gweithiwr Cynnal a Chadw Tiroedd, ar ei ymddeoliad ar ôl 46 o flynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Sir Dyfed ac yna Gyngor Sir Ceredigion.

iv.   Estynnwyd llongyfarchiadau i Gareth Ward, Bwyty Ynyshir, ar lwyddo i gadw dwy seren Michelin yn y Michelin Guide ar gyfer Prydain ac Iwerddon 2023.

v.     Hefyd estynnwyd llongyfarchiadau i Chris a Rachel Welch, Yr Hen Printworks, ar ennill gwobr y Bib Gourmand yn y Michelin Guide ar gyfer Prydain ac Iwerddon 2023.

vi.   Estynnwyd llongyfarchiadau i Wasanaeth Cerdd Ceredigion ar y gyngerdd fawreddog a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

184.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

185.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

186.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: Lleihau terfyn cyflymder i 40mya yn Tynreithyn, Tregaron pdf eicon PDF 295 KB

a)    Lleihau terfyn cyflymder i 40mya yn Tynreithyn, Tregaron

Cofnodion:

Nodwyd bod y ddeiseb uchod wedi dod i law ac y byddai’n cael ei thrin yn unol â’r canllawiau yn y Protocol Deisebau.

187.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

188.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

189.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel Aelod Statudol o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion mae angen i’r Cyngor gymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion cyn y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi cytundeb terfynol i gyhoeddi’r Cynllun.

 

190.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch fersiynau diwygiedig y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol, y Ffurflen Datgan Buddiant, a'r Ffurflen Datgan Lletygarwch a Rhoddion gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 694 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

a)    Cymeradwyo’r diwygiadau i:

1.    Y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol (Atodiad 2);

2.    Y Ffurflen Datgan Buddiant (Atodiad 3); a

3.    Y Ffurflen Datgan Lletygarwch a Rhoddion (Atodiad 4).

b)    Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Gwneud yn siŵr bod y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol, y Ffurflen Datgan Buddiant a’r Ffurflen Datgan Lletygarwch a Rhoddion yn cael eu diweddaru ac yn rhoi eglurder a thryloywder i Swyddogion.

191.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Diwygiadau i'r Polisi Chwythu'r Chwiban gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 471 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo’r diwygiadau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel y’u dangosir yn Atodiad 1.

ii.     Nodi adborth y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod y Polisi Chwythu’r Chwiban yn gyfredol ac yn parhau i fod yn addas i’r diben.

192.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Pennu Ffioedd Cartrefi Gofal - Ffioedd y Sector Annibynnol a'r Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r ffioedd a delir i Gartrefi Gofal yng Ngheredigion ar gyfer 2023/24 ar y lefelau wythnosol a ganlyn, gan ddod i rym ar 10/04/2023:

 

Preswyl

£827.00

Preswyl EMI

£884.00

Nyrsio

£961.00

Nyrsio EMI

£961.00

 

2.    Cymeradwyo’r ffioedd a godir am Gartrefi Gofal Preswyl yng Ngheredigion ar gyfer 2023/24 ar y lefelau wythnosol a ganlyn, gan ddod i rym ar 10/04/2023:

 

Preswyl

£827.00

Preswyl EMI

£884.00

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cytuno ar ffioedd i bobl hŷn ar gyfer 2023/24.

193.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

194.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.