Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 14eg Chwefror, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

143.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

144.

Materion Personol

Cofnodion:

Cydymdeimlwyd â theulu Dr Jeff Jones, cyn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi marw’n ddiweddar.

145.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorydd Clive Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 150.

ii.      Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 151.

146.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

147.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

148.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

149.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

Dim.

150.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Ffioedd a Chostau gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.               Cymeradwyo’r Ffioedd a’r Costau i fod mewn grym o 01/04/23 (ac eithrio Prydau Ysgol), fel yr amlinellir yn:

a) Atodiad 1

b) Atodiad 2

c) Atodiad 3 (ac eithrio’r tâl mynediad arfaethedig o dan Ffioedd a Chostau’r Gwasanaeth Amgueddfeydd, a dynnwyd yn ôl)

d) Atodiad 4

ac eithrio’r eitem ganlynol ymhellach:

·       Bod Ffioedd a Chostau arfaethedig y Meysydd Parcio yn Nhregaron a Llandysul yn cael eu dileu o Atodiad 3, fel na fyddai dim costau am Barcio Ceir yn y trefi hynny am gyfnod pellach o 12 mis yn ystod 2023/24.

2.               Cymeradwyo’r newid o ran Ffioedd a Chostau Prydau Ysgol, fel yr amlinellir yn Atodiad 2, i fod mewn grym o 01/09/23.

3.               Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, i gynyddu pris Prydau Ysgol i gyd-fynd ag unrhyw gynnydd a wneir yn dilyn yr adolygiad o gyfradd Llywodraeth Cymru fesul uned, gan gyflwyno unrhyw newid ar ôl i’r cynnig o ran Prydau Ysgol am ddim gael ei ymestyn yn llawn i bob blwyddyn Ysgol Gynradd.

4.               Dirprwyo awdurdod yn barhaus i Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet â chyfrifoldeb am y Canolfannau Hamdden a Llesiant, i amrywio’r Ffioedd a Chostau ar gyfer y Canolfannau Llesiant i redeg cynigion hyrwyddo tymor byr/â chyfyngiad amser.

5.               Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb a chytuno ar y newidiadau a argymhellir gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ynglŷn â Ffioedd a Chostau.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn ystyried y Ffioedd a’r Costau yn rhan o broses y Cyngor ar gyfer pennu’r gyllideb.

151.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb 2023/24 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Argymell i’r Cyngor Llawn yn dilyn ystyried argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ynghylch parhau i Barcio Ceir am Ddim yn Llandysul a Thregaron, y dylai'r gost bosibl o £40k sy'n gysylltiedig â hyn gael ei hariannu o'r Ddarpariaeth o £400k a neilltuwyd ar gyfer risgiau o ran Chwyddiant Cyflogau ac Ynni ac mai dim ond o dan opsiwn Treth y Cyngor nad yw'n is na 7.3% y mae'r dull hwn o weithredu yn bosibl.

2.     Argymell i’r Cyngor Llawn mai Gofyniad Cyllideb 23/24 yw £180.101m a chynnydd o 7.3% yw lefel Treth y Cyngor a gynigir ar gyfer 23/24 at ddibenion y Cyngor Sir (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd yn Ardoll yr Awdurdod Tân).

3.     Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb; a nodi bod pob un o'r Pwyllgorau thematig wedi argymell cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â chynnydd Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.101m.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn galluogi paratoadau Cyllideb 2023/24 i barhau, fel bod modd paratoi papurau Cyllideb a chyfrifiadau Treth y Cyngor ar gyfer cyfarfod llawn y Cyngor ar 02/03/23.

152.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) 2023/24 pdf eicon PDF 690 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

a)    Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys fel y’i hamlinellir yn yr adroddiadau ar gyfer Benthyca a Buddsoddi.

b)    Cymeradwyo’r Atodlen Buddsoddi fel y’i nodir yn Atodiad B.

c)     Cymeradwyo’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw fel y’i nodir yn Atodiad C.

d)    Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael i newid Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Atodlen Buddsoddi yn ystod y flwyddyn.

Hefyd, argymell bod y Cyngor Llawn yn:

e)    cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Benthyca a Buddsoddi 2023/24; a

f)      cymeradwyo Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2023/24.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Gosod Strategaeth Rheoli Trysorlys a Pholisi Isafswm Refeniw ar gyfer 2023/24.

153.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Rhaglen Arfor: Derbyn y cyllid a'r trefniadau gweithredu yng Ngheredigion pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo’r trefniadau a gynigir ar gyfer gweithredu a chyflawni’r Gronfa, fel y nodir yn yr adroddiad.

2.     Cymeradwyo mewn egwyddor fod y Cyngor yn ymrwymo i Gytundeb Rhyng-Awdurdod gyda Chyngor Sir Gwynedd.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Fel bod Cyngor Sir Ceredigion yn gallu mynd yn ei flaen gyda Chyngor Sir Gwynedd i dderbyn Cyllid Arfor a bod y swyddogion yn gallu sefydlu trefniadau gweithredu cyn gynted â phosib. </AI11>

154.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Adnewyddu Neuadd Farchnad Aberteifi ac Adeiladu Bloc Mynediad newydd pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo cyfraniad ychwanegol o £100,000 i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi ac adolygu’r cytundeb ariannu presennol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn galluogi’r prosiect i gael ei gwblhau a chyflawni nodau ac amcanion gwreiddiol y cynigion ailddatblygu.

155.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Trefniadau Tâl y Crwner 2023/24 pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cyfraddau tâl canlynol a fydd mewn grym oddi ar y 1af o Ebrill 2023 hyd at yr 31ain o Fawrth 2024:

1)    Uwch Grwner rhan-amser:

i.     Cyflog Cadw o £21,120 y flwyddyn i’w gadw a sicrhau bod gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael.

ii.   Defnyddio’r gyfradd ddyddiol o £465 a gytunwyd i dalu cyflog blynyddol o £11,625 i’r Crwner gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant.

Cyfanswm: £32,745 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

iii.  Treuliau swyddfa/lwfans cymorth busnes – £5,000 y flwyddyn o’r 1af o Ebrill 2023 hyd at yr 31ain o Fawrth 2024.

 

2)    Crwner Cynorthwyol:

Dyma’r cyfraddau dyddiol:

       £397 am ddiwrnod llawn; a

       £199 am hanner diwrnod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron y JNC; lleihau heriau a diogelu’r pwrs cyhoeddus.

156.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Adroddiad Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 988 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cymeradwyo Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion.

2.     Bod adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wneir gyda Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion yn cael ei gyflwyno i’r ysgolion a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu.

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I sicrhau bod gan ysgolion strategaeth briodol - sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth - i gefnogi disgyblion difreintiedig.

157.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya pdf eicon PDF 6 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo atebion y Swyddogion i’r ymatebion i'r ymgynghoriad a’i fod yn cymeradwyo hysbysebu’r cynigion i’r cyhoedd, ac yn awdurdodi, os na ddaw gwrthwynebiadau i law, y gwneir y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol ac y cyhoeddir Hysbysiad o Wneud yn y wasg i’r perwyl hwn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’r newidiadau arfaethedig yn y trefniadau o ran terfynau cyflymder yn seiliedig ar y rhesymau cyffredinol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun cenedlaethol hwn sef sicrhau diogelwch ar y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Theithio Cynaliadwy.

158.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Rhwydwaith Bysiau Ceredigion pdf eicon PDF 315 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

159.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

160.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Adroddiad Blynyddol Grwp Datblygu Gofalwyr Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru 2021- 2022 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

161.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Adroddiad Blynyddol Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion 2021-22 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 11 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

162.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1 2022/23 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1015 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

163.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2022/23 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 848 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

164.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.