Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies fuddiant personol
mewn perthynas ag eitem 139. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Nodi bod y codiad arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru (eu hopsiwn o 13% i’r Gyllideb) yn golygu pwysau o
£519,000 o ran y gost ar Gyllideb 23/24 y Cyngor, sy’n cyfateb â chynnydd o
1.3% yn Nhreth Gyngor preswylwyr Band D Ceredigion. 2.
Cymeradwyo opsiwn a ffefrir ar
gyfer Gofyniad Cyllideb 23/24 drafft o £180.101m, a fyddai’n cynrychioli
cynnydd arfaethedig o 7.3% i Dreth Gyngor Band D at ddibenion y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân). 3.
Argymell y dylai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried
yr opsiynau canlynol ar gyfer Gofyniad Cyllideb 23/24 a’r cynnydd canlyniadol
i’r Dreth Gyngor at ddibenion y Cyngor Sir sef : a)
Cynnydd o 6.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
Cyllideb o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad is tuag at
Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig. b)
Cynnydd o 7.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
Cyllideb o £180.101m ar gyfer 23/24. c)
Cynnydd o 8.3% i’r Dreth Gyngor (gan gynnwys 1.3% mewn
perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad
Cyllideb o £180.576m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad uwch tuag at
Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig. d)
Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at Argymhellion 3a) i
3c) i ddarparu cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod bod unrhyw opsiwn
yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfodydd Craffu'r Gyllideb a bod swyddog Adran
151 yn cael digon o amser ymlaen llaw i fodelu'r effaith yn llawn ac i roi barn
ar ei gadernid. 4.
Pan gyhoeddir setliad Terfynol 23/24, bod: a)
Gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i
RSG yn cael eu trosglwyddo i gyllideb y Gwasanaeth perthnasol, gan gynnwys
Grant Pensiynau yr Awdurdod Tân o £143,000 i gyllideb yr Ardoll Tân. b)
Dylai unrhyw newidiadau penodol eraill dargedu’r
Gwasanaeth(au) sy’n cael eu heffeithio yn
uniongyrchol, pan fo hynny’n briodol. c)
Rhoddir sylw i unrhyw newid arall i’r AEF trwy wneud
addasiad i gyllideb y Grŵp Arweiniol. 5.
Nodi yr ystyrir adroddiad am y Strategaeth Ariannol ar
gyfer y Tymor Canolig wedi’i diweddaru fel eitem ar wahân yn y dyfodol ac y
bydd yn adlewyrchu cynnydd dangosol yn Setliad 24/25 o 3.1% ar y mwyaf. 6.
Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Amlflwyddyn
fel y nodir yn Atodiad 8 ac argymell hon i’r Cyngor Llawn i’w chymeradwyo. 7.
Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf fel y nodir yn Atodiad 9
ac argymell hon i’r Cyngor Llawn i’w chymeradwyo. 8.
Cyfeirio’r adroddiad Cabinet hwn er mwyn cael
safbwyntiau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y byddant yn cyfarfod ar 02/02/23,
09/02/23 a 10/02/23. Bydd y pwyllgorau
hyn yn cael gwybodaeth am y cynigion ynghylch Taliadau a Ffioedd hefyd. 9. Nodi y caiff y penderfyniadau terfynol am Ofyniad Cyllideb 23/24 a lefel y cynnydd i’r Dreth Gyngor ar gyfer 23/24 eu gwneud gan y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 139. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau
enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar
Gorff Llywodraethol yr ysgol berthnasol. Y rheswm dros
y penderfyniad: Enwebu cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ar Gyrff
Llywodraethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |