Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
y James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: i. Diolchwyd i staff, aelodau
a gwirfoddolwyr am eu hymdrechion wrth gynorthwyo teuluoedd yr effeithiwyd
arnynt yn anffodus gan doriad yn y cyflenwad dŵr yn dilyn tywydd garw ym
mis Rhagfyr. Diolchwyd i Tŷ Nant am eu cyfraniad sylweddol wrth gyflenwi
dŵr potel i deuluoedd. ii. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Keith Henson ar ddod yn dad-cu
yn ddiweddar. iii. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Parch Euryl Howells,
Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth
Brydeinig (BEM) iddo am ei wasanaethau i’r Gaplaniaeth gyda GIG Cymru. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Nid
oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cytuno ar aelodaeth y Grŵp Datblygu. 2. Cytuno ar y Cylch Gorchwyl arfaethedig ar gyfer y
Grŵp Datblygu, y Grŵp Monitro Cyfalaf, y Grŵp Rheoli Asedau a’r
Grŵp Rheoli Prosiectau Corfforaethol. 3. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: 1. I oruchwylio’n strategol a rheoli Rhaglen Ddatblygu'r
Cyngor mewn ffordd well. 2. I wella'r trefniadau ar gyfer cyflawni Strategaeth
Gorfforaethol y Cyngor. 3. I ddefnyddio amser ac adnoddau yn effeithlon ac
effeithiol. |
|
Cofnodion: i) Nodi’r cynnydd a wneir gyda’r camau sydd yn y Cynllun
Gweithredu Sero Net. ii) Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Ffyniannus. Y
rheswm dros y penderfyniad: Mae rhoi diweddariadau ar y
cynnydd bob hyn a hyn yn rhan ganolog o’r gwaith o fonitro ein siwrnai Sero
Net, ac fe nodwyd yn y Cynllun y byddem yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r
pwyllgor craffu a Cabinet. |
|
Cofnodion: i)
Cymeradwyo’r Siarter
Cwsmeriaid. ii) Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Y
rheswm dros y penderfyniad: Cymeradwyo Siarter
ddiwygiedig y Cwsmeriaid sy'n rhoi arweiniad i gwsmeriaid ar sut i gysylltu â'r
Awdurdod a phryd i gael ymateb. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: I gymeradwyo Polisi’r
Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau. Y rheswm dros y penderfyniad: I gyrraedd gofyniad Safon 94 yn Fframwaith Statudol
Safonau’r Gymraeg. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. I nodi bod Chwaraeon Cymru yn cymeradwyo cyfanswm grant
gwerth £470,261 gyda gofyniad ar i’r Cyngor gyfrannu arian cyfatebol o £220k. 2. Cytuno bod y Cyngor yn gweithredu mewn rôl gyswllt fel
banciwr ar gyfer Grant Chwaraeon Cymru o £207,262 parthed Pwll Nofio Coffa a
Neuadd Aberteifi. 3. Cytuno bod y Cynlluniau yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen
Gyfalaf. Y rheswm dros y
penderfyniad: Galluogi buddsoddiad cyfalaf gwerth £207,262 ym Mhwll
Nofio Coffa a Neuadd Aberteifi. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |