Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 10fed Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

118.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

119.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Diolchwyd i staff, aelodau a gwirfoddolwyr am eu hymdrechion wrth gynorthwyo teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn anffodus gan doriad yn y cyflenwad dŵr yn dilyn tywydd garw ym mis Rhagfyr. Diolchwyd i Tŷ Nant am eu cyfraniad sylweddol wrth gyflenwi dŵr potel i deuluoedd.

ii.      Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Keith Henson ar ddod yn dad-cu yn ddiweddar.

iii.    Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Parch Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) iddo am ei wasanaethau i’r Gaplaniaeth gyda GIG Cymru.

120.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol/ buddiannau sy’n rhagfarnu.

121.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

122.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

123.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

124.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

100.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Grwp Datblygu a Grwpiau Ategol Eraill gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     Cytuno ar aelodaeth y Grŵp Datblygu.

2.     Cytuno ar y Cylch Gorchwyl arfaethedig ar gyfer y Grŵp Datblygu, y Grŵp Monitro Cyfalaf, y Grŵp Rheoli Asedau a’r Grŵp Rheoli Prosiectau Corfforaethol.

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

1.     I oruchwylio’n strategol a rheoli Rhaglen Ddatblygu'r Cyngor mewn ffordd well.

2.     I wella'r trefniadau ar gyfer cyflawni Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.

3.     I ddefnyddio amser ac adnoddau yn effeithlon ac effeithiol.

101.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Cynllun Gweithredu Sero Net - diweddariad ar y cynnydd gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i)       Nodi’r cynnydd a wneir gyda’r camau sydd yn y Cynllun Gweithredu Sero Net.

ii)     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae rhoi diweddariadau ar y cynnydd bob hyn a hyn yn rhan ganolog o’r gwaith o fonitro ein siwrnai Sero Net, ac fe nodwyd yn y Cynllun y byddem yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r pwyllgor craffu a Cabinet.

 

102.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyswllt Cwsmeriaid ynghylch y Siarter Cwsmeriaid gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i)       Cymeradwyo’r Siarter Cwsmeriaid.

ii)     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo Siarter ddiwygiedig y Cwsmeriaid sy'n rhoi arweiniad i gwsmeriaid ar sut i gysylltu â'r Awdurdod a phryd i gael ymateb.

103.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Polisi'r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau yn unol â Safon 94 pdf eicon PDF 920 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

I gymeradwyo Polisi’r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gyrraedd gofyniad Safon 94 yn Fframwaith Statudol Safonau’r Gymraeg.

104.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Dyfarniad Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru i Ymddiriedolaeth Pwll Nofio Coffa a Neuadd Aberteifi pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.     I nodi bod Chwaraeon Cymru yn cymeradwyo cyfanswm grant gwerth £470,261 gyda gofyniad ar i’r Cyngor gyfrannu arian cyfatebol o £220k.

2.     Cytuno bod y Cyngor yn gweithredu mewn rôl gyswllt fel banciwr ar gyfer Grant Chwaraeon Cymru o £207,262 parthed Pwll Nofio Coffa a Neuadd Aberteifi.

3.     Cytuno bod y Cynlluniau yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi buddsoddiad cyfalaf gwerth £207,262 ym Mhwll Nofio Coffa a Neuadd Aberteifi.

105.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (21.10.22) pdf eicon PDF 354 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

106.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.