Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 6ed Rhagfyr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

93.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Catrin M S. Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Evans am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

iii.    Ymddiheurodd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

94.

Materion Personol

Cofnodion:

i.      Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Catrin M S. Davies a’i theulu ar golli ei brawd yng nghyfraith.

ii.     Cydymdeimlwyd ag Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu a’i theulu ar golli ei mam.

95.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Datgelodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Keith Henson a Matthew Vaux fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 114.

ii.     Datgelodd Eifion Evans, Prif Weithredwr fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 114 ar ran yr holl swyddogion oedd yn bresennol, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol. 

96.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

97.

Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd

Cofnodion:

Dim.

98.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

99.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda

Cofnodion:

Dim.

100.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Derbyn cyllid a threfniadau gweithredu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Nodi cyhoeddiad Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

2.    Cymeradwyo trefniadau gweithredu a chyflawni arfaethedig y Gronfa fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad.

3.    Cymeradwyo bod Swyddog Adran 151 Cyngor Ceredigion yn cael y cyllid gan Lywodraeth y DU ar ran Canolbarth Cymru, a llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth y Gwasanaeth gyda Llywodraeth y DU, ynghyd â’r trefniadau gweithredu sy’n deillio o hyn yng Ngheredigion.

4.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddog Adran 151 Cyngor Ceredigion, wrth ymgynghori gyda’r Swyddog Monitro, i ddrafftio a chyhoeddi Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Powys – gan bennu cynllun dirprwyo ac awdurdodi priodol er mwyn gweithredu’r gronfa yn lleol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Caniatáu i Gyngor Sir Ceredigion symud ymlaen gyda Chyngor Sir Powys i gael Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bod swyddogion yn gallu gwneud trefniadau gweithredu cyn gynted ag y bo modd.

101.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu Aros, Llwytho a Dadlwytho) 2019 (A475 Ffordd Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan) (Gorchymyn Diwygio Rhif. 7) 2023 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo hysbysebu’r cynnig i’r cyhoedd, ac os na dderbynnir gwrthwynebiad, mynd ati i wneud y Gorchymyn Rheoli Traffig angenrheidiol a chyhoeddi’r Hysbysiad Gwneud Gorchymyn yn y wasg i’r perwyl yma.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau llif y traffig.

102.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Sylfaen Treth y Cyngor a'r Dyddiadau ar gyfer Talu'r Praeseptau pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo mai Sylfaen Treth y Cyngor at ddibenion pennu Treth y Cyngor yw 32,767.99 yn unol â’r cyfrifiadau a nodir yn Atodiad 1.

2.    Nodi mai Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw yw 32,609.46.

3.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept awdurdod Heddlu Dyfed Powys ar gyfer 2023/24 fydd – 12 rhandaliad cyfartal i’w talu ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis gan ddechrau ym mis Ebrill 2023.

4.    Cymeradwyo mai rhaglen y rhandaliadau ar gyfer taliadau praesept Cynghorau Tref a Chymuned Ceredigion ar gyfer 2023/24 fydd – 3 rhandaliad cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf mis Ebrill 2023, mis Gorffennaf 2023 a mis Hydref 2023.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’n ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â’r rheoliadau ynghylch Sylfaen y Dreth.

103.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 2022/23 a'r Rhaglen Gyfalaf 3 Blynedd ddiweddaraf gyda throsglwyddiadau rhwng 2022/23, 2023/24 a 2024/25 pdf eicon PDF 519 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

(a)  Nodi Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Chwarter 2 2022/23 fel y nodir yn Atodiad A.

(b)  Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf ar gyfer 2022/23 - 2024/25 sy’n dod i gyfanswm o £107.4m ar gyfer y 3 blynedd, fel y nodir yn Atodiad B.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn diweddaru’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 - 2024/25.

104.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Lleoliad Canolfan Llesiant 2 pdf eicon PDF 281 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Bod Aberteifi yn cael ei chadarnhau fel lleoliad ail Ganolfan Llesiant y sir.

2.    Bod papur am y dewisiadau yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach cyn dychwelyd i’r Cabinet am y lleoliad a ffafrir er mwyn datblygu Canolfan Llesiant yn Aberteifi, gan gynnwys amlinelliad o’r cyfleuster posibl a’r gost amcangyfrifedig.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn symud ymlaen i ddatblygu ail Ganolfan Llesiant y sir.

105.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Strategaeth Dementia Rhanbarthol Gorllewin Cymru a chynigion Ceredigion ar gyfer datblygu Cynllun Gweithredu Lleol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r strategaeth rhanbarthol a chymeradwyo’r rhaglen ymgysylltu a datblygu cynllun datblygu lleol.

2.    Cyflwyno’r canfyddiadau’r ymgysylltu a’r cynllun gweithredu arfaethedig i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach cyn dychwelyd i’r Cabinet.

3.    Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi’r Cyngor i barhau â datblygu cynllun gweithredu i gefnogi cyflawni’r strategaeth ranbarthol yn lleol.

Datblygu darpariaeth Dementia yn unol â’r Strategaeth Llesiant a Gydol Oes.

106.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Defnyddio cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau i brynu asedau pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo defnyddio cyllid o’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau i brynu ac adnewyddu eiddo yng Ngheredigion i fodloni’r anghenion a nodir yn y Strategaeth Dai a Phrosbectws yr Awdurdod Lleol.

2.    Rhoi’r awdurdod i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Gofal neu’r Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Tai, mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet perthnasol, i fynd ati i brynu eiddo drwy'r cyfle ariannu hwn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cynorthwyo â darparu atebion priodol o ran tai fforddiadwy gan fodloni’r galw ac anghenion ein preswylwyr, heb fod angen ymrwymiad cyfalaf oddi wrth yr Awdurdod Lleol.</AI14>

107.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Ail-lunio Gwasanaethau Dydd (Oedolion Hyn, Anableddau Dysgu / Awtistiaeth a darpariaeth seibiant (Gydol Oes) pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1.    Cymeradwyo’r cynnig i ddechrau ar yr ymgynghoriad ar y meysydd canlynol:

        Cyfleoedd Gwasanaethau Dydd ar gyfer Oedolion Hŷn gan gynnwys y rheiny sy’n byw gyda diagnosis o dementia

        Cyfleoedd Gwasanaethau Dydd ar gyfer unigolion sy’n byw ag anabledd dysgu, awtistiaeth, ac anawsterau dwys a luosog (PMLD)

        Llwybrau pontio gydol oes ar gyfer y rheiny sy’n byw ag anabledd/ awtistiaeth

        Darpariaeth seibiant (dydd a phreswyl) gydol oes

2.    Cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad a’r cynllun gweithredu arfaethedig i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach cyn dod yn ôl i’r Cabinet.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi’r Awdurdod i fwrw ymlaen â’r gwaith o ail-lunio gwasanaethau dydd a darpariaeth seibiant yn unol â’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant.

 

108.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethol yr ysgol berthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

109.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Hunanasesu Cyngor Sir Ceredigion 2021-22 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu 2021-22 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o Berfformiad a’r Amcanion Llesiant.

ii.     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau y cydymffurfir â Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 / Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

110.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Adroddiad Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 894 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i.      Derbyn a chymeradwyo Adroddiad Monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 a chymeradwyo bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

ii.     Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Mae’n ofynnol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ein bod yn llunio Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2021-22 ac yn ei gyhoeddi ar ein gwefan erbyn 31/3/23.

111.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Canfyddiadau Adroddiad Diweddaru ar Ansawdd Aer 2022, yn unol â Rhan IV Deddf Amgylchedd 1995 Rheoli Ansawdd Aer Lleol gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

112.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Polisi, Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd ynghylch Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog, fel y'i nodwyd yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021 pdf eicon PDF 891 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

113.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Pobl a Threfniadaeth ynghylch Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022 gydag adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu.

114.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Rheoladwy 2022/23 - Perfformiad Ariannol pdf eicon PDF 424 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

115.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adolygiad canol blwyddyn o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 300 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

116.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ynghylch Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

117.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.