Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorydd
Rhodri Evans am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd James
Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Ysgolion a Diwylliant a Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol:
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol
yn y cyfarfod. |
|||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd
llongyfarchiadau i Dewi Jenkins ar ei lwyddiant diweddar gyda’i gi, Jock, yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol. ii.
Estynnwyd
llongyfarchiadau i S4C wrth i’r sianel ddathlu 40 mlynedd o ddarlledu. |
|||||||||||||
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: i. Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 85 a gadawodd y cyfarfod pan
oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod. ii.
Datganodd Elin Prysor,
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
mewn perthynas ag eitem 85, yn
unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod. iii.
Datganodd y Cynghorydd
Gareth Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag
eitem 88. |
|||||||||||||
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022 yn
gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. Materion yn codi o gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022: Eglurodd y Cynghorydd
Keith Henson bod cywiriad i’r Adroddiad ar y Strategaeth ar gyfer Gwefru
Cerbydau Trydan a gyflwynwyd i’r Cabinet.
Nodwyd y byddai angen tua 8,000 o bwyntiau gwefru yng Ngheredigion yn
2025 a thua 24,000 yn 2030 yn hytrach na’r ffigurau gwreiddiol a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|||||||||||||
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda a) Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Ddatblygu Asedau/ Eiddo Gwag Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Argymell
bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft 2022- 2027 (gan
gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol). ii.
Nodi adborth y Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu a chytuno i’r newid a ganlyn i’r geiriad i bwynt bwled 5 ar
dudalen 29: “Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â materion ail gartrefi, perchnogaeth
cartrefi gwyliau a throi adeiladau preswyl yn llety gwyliau drwy ofyn am
gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o dan y Ddeddf Gynllunio
a’r Gwasanaeth Trethi”. Y rheswm dros y
penderfyniad: Er mwyn bwrw
ymlaen â pharatoi Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. I nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y
Cyngor am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Gweithgarwch Rhyddid Gwybodaeth
2021-22 (Atodiad 1). 2.
I
nodi cynnwys Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon (Atodiad 2). 3.
I
gytuno i barhau i ymwneud â gwaith Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - gan gynnwys cael mynediad at hyfforddiant a
darparu data perfformiad. 4.
I
hysbysu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad ystyriaethau’r
Cyngor a’r camau gweithredu arfaethedig. 5.
Nodi’r
adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau
gwelliant parhaus a sicrhau bod yr Aelodau etholedig yn ymwybodol o berfformiad
y Cyngor o ran Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion, Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol a Gweithgarwch yr Ombwdsmon. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1.
Cytuno
ar ran Cyngor Sir Ceredigion i ymrwymo i Siarter Troseddau Casineb Cymorth i
Ddioddefwyr. 2.
Nodi’r
adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad Er mwyn
atgyfnerthu'r gwaith da sydd eisoes ar waith gan yr Awdurdod Lleol o ran
Troseddau Casineb ac i gynnig fframwaith i sicrhau bod ymrwymiad llawn yn
digwydd ar bob lefel o'r sefydliad. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r ffioedd wythnosol canlynol ar gyfer Cartrefi
Gofal preifat yng Ngheredigion yn 2022/23:
gan ddod i rym ar 04/04/2022. 2. Cymeradwyo’r ffioedd wythnosol canlynol ar gyfer Cartrefi
Gofal Preswyl y Cyngor yng Ngheredigion yn 2022/23:
gan ddod i rym ar 04/04/2022. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn cytuno ar
ffioedd i bobl hŷn ar gyfer 2022/23 a’u pennu. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cytuno mewn egwyddor i’r syniad fod y
model Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion yn cael ei ehangu i gwmpasu mwy o ddarpariaethau
preswyl bach ledled y Sir i gwrdd ag anghenion presennol y boblogaeth a’r
anghenion yn y dyfodol. Drwy hyn, creu model llety preswyl ar sail Gydol Oes. 2.
Cefnogi'r
egwyddor o gyflwyno ceisiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru i gofrestru’n hyblyg. Y rheswm dros y penderfyniad: ·
I
wneud y mwyaf o’r lleoliadau yn y Sir. · I gefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu
cysylltiadau lleol a'u hunaniaeth leol. · I osgoi gwario ar leoliadau y tu allan i'r
sir. ·
I
fuddsoddi mewn gwasanaethau a darpariaeth yn lleol ar gyfer plant a theuluoedd. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau
enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar
Gorff Llywodraethol yr ysgol berthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn enwebu
cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo'r bwriad i fabwysiadu Llys Ardwyn (Bryn Ardwyn) drwy broses
Adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y penderfyniad: I alluogi’r heol
i gael ei chynnal ar gost y cyhoedd. |
|||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo'r
bwriad i fabwysiadu Pen-yr-Angor, Trefechan, Aberystwyth drwy broses Adran 278
ac Adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost y cyhoedd wedi hynny. Y rheswm dros y penderfyniad: I alluogi’r heol
i gael ei chynnal ar gost y Cyhoedd. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|||||||||||||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |