Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Eitemau
Rhif
Eitem
61.
Ymddiheuriadau
Cofnodion:
Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Henson y byddai'n gadael y cyfarfod yn
gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.
62.
Materion Personol
Cofnodion:
i.Llongyfarchwyd Josh Tarling ar ennill aur yn nhreialon amser iau’r dynion ym
Mhencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd UCI 2022 yn Wollongong.
ii.Llongyfarchwyd Sioned Harries ar gynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r
Byd i Ferched yn Seland Newydd y mis hwn.
iii.Dymunwyd yn dda i Sian Howys, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth
Cynnal ar ei hymddeoliad ar ddiwedd y mis. Diolchwyd iddi am ei holl waith
rhagorol dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddi i’r dyfodol.
i.Cymeradwyo’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi – ‘Siarad,
Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’ yn
amodol ar gynnwys sicrhau yr ymgysylltir â Chynghorau Cymuned(Atodiad A).
ii.Nodi’r
adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Y rheswm dros y
penderfyniad:
Mae ein Polisi Ymgysylltu Cymunedol presennol yn
dyddio o 2012 ac mae angen ei adolygu er mwyn ystyried dulliau newydd o
ymgysylltu a deddfwriaeth a chanllawiau diweddar.
Cymeradwyo gweithredu’r Protocol Interim ar y cyd –
Cyfraddau y Filltir mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru rhwng 1 Hydref 2022 a 31
Mawrth 2023.
Y rheswm dros y
penderfyniad:
Er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd sylweddol mewn
costau tanwydd sy’n wynebu gweithwyr sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain i
deithio ar fusnes fel rhan o’u dyletswyddau. </AI8>