Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: i.
Estynnwyd
cydymdeimlad â theulu’r Cynghorydd Hag Harris a fu farw’n ddiweddar. Talwyd
teyrngedau i’r Cynghorydd Hag Harris am ei gyfraniad helaeth i wleidyddiaeth
yng Ngheredigion. Estynnwyd cydymdeimlad diffuant â’i bartner a’i deulu. Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof amdano. ii.
Llongyfarchwyd yr Athro Robert Glyn Hewinson CBE o Aberystwyth a gafodd ei anrhydeddu am ei
wasanaethau i Iechyd a Lles Anifeiliaid yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. iii.
Llongyfarchwyd Owen Evans CBE, cyn Brif Weithredwr
S4C, sydd bellach yn Brif Arolygydd Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru, a gafodd ei anrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y
Frenhines. iv.
Llongyfarchwyd Brynmor Williams MBE, yn wreiddiol o
Geredigion, a gafodd ei anrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. v.
Llongyfarchwyd Pam Kelly, cyn Ddirprwy Brif Gwnstabl
Heddlu Dyfed Powys, sydd bellach yn Brif Gwnstabl gyda Heddlu Gwent, a enillodd
Fedal Heddlu’r Frenhines. vi. Llongyfarchwyd CFfI Felinfach ar ennill rali’r
sir, CFfI Penparc a ddaeth yn ail, ac CFfI Llanwenog ar gynnal digwyddiad llwyddiannus. Dymunwyd
y gorau i’r holl aelodau a fydd yn cystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru. vii. Llongyfarchwyd
plant, pobl ifanc ac athrawon Ceredigion ar eu llwyddiant yn Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn sir Ddinbych yn ddiweddar. viii. Llongyfarchwyd
Helen Medi Williams a Lona Phillips, sylfaenwyr ac arweinwyr Adran Aberystwyth,
a enillodd Wobr Goffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr
Urdd. ix. Llongyfarchwyd Twm Ebbsworth o Lanwnnen ar
ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Elain Roberts o Geinewydd ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.
Llongyfarchwyd Catrin Jones o Lanwnnen hefyd ar
ennill Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc. x.
Dymunwyd yn dda i Drizzle Joe Thomas o Aberystwyth, a fu’n cystadlu yn
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd o’r ysbyty ym Manceinion wrth dderbyn
triniaeth. xi. Estynnwyd
cydymdeimlad â theulu Mark Purslow, cyn-ddisgybl o
Ysgol Gyfun Aberaeron, a fu farw’n ddiweddar. xii. Llongyfarchwyd
Rhys Norrington-Davies o Dalybont
a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar ennill lle yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Matthew Vaux fuddiant personol mewn perthynas ag
eitem 8. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022
yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbyniwyd: 'Talu'r taliad costau byw' Cofnodion: Nodwyd bod y ddeiseb
uchod wedi dod i law ac y byddai’n cael ei thrin yn unol â’r canllawiau yn y
Protocol Deisebau. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i.
Cymeradwyo’r Polisi diwygiedig ynghylch Cyfyngiadau
Gwleidyddol ar Weithwyr Llywodraeth Leol (Atodiad 1). ii.
Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn monitro dyletswyddau deddfwriaethol y Cyngor o ran swyddi sydd o
dan gyfyngiadau gwleidyddol/ swyddi sy’n wleidyddol sensitif, gan gynnwys y
gwaith o gadw Cofrestr y Cyngor. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cadarnhau’r Polisi Derbyn Disgyblion 2023/2024. Y rheswm dros y penderfyniad: I gael polisi mewn lle ar gyfer 2023/2024. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyaeth i benodi’r cynigydd llwyddiannus, er mwyn galluogi’r gwaith
adnewyddu ac ymestyn yn Ysgol Gynradd Aberteifi i ddechrau yn ystod gwyliau’r
haf. Y rheswm dros y penderfyniad: Cyflenwi prosiect Ysgol Gynradd Aberteifi, sydd wedi ei gynnwys o fewn Band
B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 2 a chydymffurfio â rheolau caffael sydd wedi’u
cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |