Lleoliad: trwy fideo-gyhadledda o bell
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Barry Rees, Cyfarwyddwr
Corfforaethol; Sian Howys, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal a
Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol. |
|
Materion Personol Cofnodion: i)
Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Selwyn Jones, a
fu farw yn ddiweddar a thalodd yr Arweinydd
deyrnged i’w gyfraniad helaeth i gymuned Pontrhydfendigaid. ii) Estynnwyd llongyfarchiadau i Robat
ac Enid Gruffudd (Y Lolfa) a fydd yn arwain y Parêd Dydd Gŵyl Dewi
blynyddol yn Aberystwyth ar 5 Mawrth 2022. iii) Estynnwyd llongyfarchiadau i Ysgol
Dyffryn Cledlyn ar ei llwyddiant yn ddiweddar wrth ddod yn fuddugol mewn
cystadleuaeth i gynhyrchu ffilm yn hyrwyddo diogelwch ar y rhyngrwyd. iv) Estynnwyd cydymdeimlad i deulu Amy
Jones, cyn weithiwr y Cyngor, a fu farw yn ddiweddar. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Cafwyd diweddariad
gan Yr Arweinydd ar y sefyllfa mewn perthynas â Covid-19. Adroddwyd ar 46 o achosion heddiw gan ddod â’r
cyfanswm i 11,440 er dechrau’r pandemig, sy’n
gyfystyr â 319.1 i bob 100,000 o’i gymharu â’r 449.8 a gofnodwyd yn y 7 niwrnod
ynghynt, sy’n dangos gostyngiad yn y gyfradd. Mae’r gyfradd yng Nghymru yn
233.5 i bob 100,000 felly mae Ceredigion yn parhau i fod yn uwch na’r
cyfartaledd. Mae’r gyfradd bositifedd yn y Sir yn
29.1% ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion ymysg pobl 20-29 oed ac yn
ôl data MSOA, ymddengys mai Aberystwyth oedd â’r gyfradd uchaf yn y sir ond
dangoswyd bod yr achosion wedi’u cyfyngu i Gampws Prifysgol Aberystwyth yn
bennaf. Nid oes arwydd bod amrywiolyn Omicron yn
parhau i ledaenu rhyw lawer yn y gymuned a gobeithio y bydd hwn yn gostwng fwy
o ystyried bod yr ysgolion ar wyliau hanner tymor. Diolchodd yr Arweinydd i Rhodri Llwyd, Phil Jones, Gerwyn
Jones a phob aelod staff a fu’n gysylltiedig â’r gwaith yn ystod y stormydd
diweddar, gyda Storm Franklin yn arwain at lifogydd
yn y dwyrain a chwymp coed ledled y sir.
Bu’r ymateb i neges at aelodau staff yn gofyn am
wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r canolfannau gorffwys mewn argyfwng yn y Sir yn
gadarnhaol iawn, a chafwyd dros 50 aelod staff yn cynnig gwirfoddoli os oedd
angen. Nodwyd bod rhywfaint o ddifrod wedi bod i doeon nifer o adeiladau yn
Aberystwyth gan gynnwys Amgueddfa Ceredigion. Er bod rhai strydoedd wedi
ailagor, roedd eraill yn dal ar gau am resymau diogelwch hyd nes y byddai’r
gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud, gan gynnwys symud teils to mawr o gafnau
er diogelwch y cyhoedd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud heddiw, gobeithio, a
byddai adeiladau’r cyngor gerllaw yn gallu agor yfory. Cynhelir archwiliad arall yn Aberystwyth heddiw am 11.15
i asesu diogelwch y dref. Ategodd Aelodau eiriau’r Arweinydd a diolchwyd i bawb dan
sylw am eu gwaith caled yn ystod cyfnod y storm ddiweddar. |
|
Cofnodion: Cadarnhau
bod cofnodion Cyfarfod y
Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 yn gywir. Materion
yn codi: Nid oedd materion
yn codi o’r
cofnodion. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1. Cymeradwyo’r Ffioedd a Chostau i fod
mewn grym o 01/04/2022 (ac eithrio Prydau Ysgol, Ffioedd Parcio Ceir yn Llandysul a Thregaron a
Chychod Dau Gorff x 2), fel yr amlinellir yn: a. Atodiad 1 b. Atodiad 2 c. Atodiad 3 d. Atodiad 4 2. Cymeradwyo'r newid o ran Ffioedd a Chostau Prydau Ysgol fel
yr amlinellir yn Atodiad 2 i
fod mewn grym o 01/09/2022. 3. Dirprwyo awdurdod i Swyddog Arweiniol
Corfforaethol Porth Cymorth
Cynnar, mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet y portffolio â chyfrifoldeb am y Canolfannau Lles, i amrywio’r Ffioedd a Chostau ar gyfer
y Canolfannau Lles ar gyfer 2022/23, i redeg cynigion
hyrwyddol tymor byr / â chyfyngiad amser. 4. Cytuno na fyddai ffioedd parcio ceir yn Llandysul a Thregaron yn 2022/2023 fel a nodir yn Atodiad 3. 5. Dileu’r cyfeiriad at *Gychod
Dau Gorff x 2* yn Atodiad 3, tudalen 45. 6. Nodi’r adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb. Y rheswm dros y penderfyniad: ·
Er mwyn ystyried Ffioedd
a Chostau yn rhan o broses y Cyngor ar gyfer pennu’r
gyllideb. ·
Cymell rhagor o bobl i
gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd a byw bywydau iachach. ·
Caniatáu ar gyfer ei ystyried ymhellach. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Disodlwyd yr adroddiad hwn gan yr Atodiad i'r Adroddiad (eitem 190). |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: a) Nodi’r Adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Gyllideb. b) Argymell i’r Cyngor
Llawn mai cyfanswm cyllideb sylfaenol drafft 2022/23 yw £165.843m a bod lefel y Dreth Gyngor uwch
a gynigiwyd ar gyfer 2022/23 yn 2.5% sy’n cynrychioli swm Band D o £1,447.90. Y rheswm dros y penderfyniad: I alluogi
paratoi’r gyllideb ar gyfer 2022/23. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: a)
Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys fel y’i
hamlinellir yn yr adroddiadau ar gyfer Benthyca
a Buddsoddi; b)
Cymeradwyo’r Atodlen Buddsoddi fel y’i nodir
yn Atodiad B; c)
Cymeradwyo’r Polisi Datganiad Isafswm Refeniw ar gyfer 2022/23 fel y’i nodir
yn Atodiad C; d)
Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog
Adran 151, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Caffael a Diogelu’r Cyhoedd, i newid Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys a’r Atodlen Buddsoddi,
yn ystod y flwyddyn; e)
Argymell bod y Cyngor Llawn yn
cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys o ran Benthyca a Buddsoddi ar gyfer 2022/23; ac yn f)
Argymell bod y Cyngor Llawn yn
cymeradwyo’r Polisi Darparu Isafswm Refeniw ar gyfer
2022/23. Y rheswm dros y penderfyniad: Gosod Strategaeth Rheoli Trysorlys a Pholisi Isafswm Refeniw ar gyfer
2022/23. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: i) Cytuno i fabwysiadu
cynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar
gyfer 2022-2032, a’i weithredu o Fedi 1af 2022 ac am y
ddegawd i ddilyn. ii) Bod unrhyw sylwadau a gynigir gan Lywodraeth
Cymru yn cael eu cynnwys
fel gwelliannau i’r Cynllun, ac yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r
Cabinet er gwybodaeth. iii) Bod Cynllun Gweithredu blynyddol yn cael
ei lunio a’i fonitro drwy
gyfrwng y Fforwm Iaith a phwyllgor Dyfodol Dwyieithog. iv) Bod adroddiad blynyddol ar gynnydd yn
erbyn Cynllun Strategol Addysg y Gymraeg yn cael
ei gyflwyno i’r Fforwm Iaith,
pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet. v)
Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n
Dysgu. Y rheswm dros y penderfyniad: I gydymffurfio gyda Adran 84 o’r Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a rheoliadau Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru 2019. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Argymell i'r Cyngor: 1. Penderfyniad y Cyngor 24/3/16 Cofnod 12) Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr
ar Bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi
gwag hirdymor ac ail gartrefi, pwynt 4 i’w ddiwygio fel
a ganlyn: “4.a) Lefel Premiwm
Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar
25% (yn dod
i rym o 1 Ebrill 2017); a, b) bod yr holl arian a godir
o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth
y Cyngor), yn cael ei glustnodi
a'i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun
Tai Cymunedol.” 2. Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y cyfnod 1/4/17 I 31/3/22
(net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei
glustnodi a'i ddefnyddio i gefnogi'r
Cynllun Tai Cymunedol. 3. Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor o 1/4/22 (net o addaliadau Treth
y Cyngor), yn cael ei glustnodi
a'i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun
Tai Cymunedol. 4. O 1/4/22,
bod yr holl arian a godir
o Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y Cyngor
(net o addaliadau Treth y Cyngor), yn cael ei
glustnodi a'i ddefnyddio i gefnogi'r
Cynllun Tai Cymunedol. 5. Diddymu penderfyniad y Cyngor 16/3/17 cofnod 8.b) Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi. 6. Bod manylion elfen rhannu ecwiti o'r
cynllun yn cael eu paratoi
a'u cytuno o fewn 12 mis i
benderfyniad y Cyngor a bod
gwaith yn parhau ar yr
opsiynau eraill. 7. Gohirio'r posibilrwydd o sefydlu Cynllun Mantais Gymunedol am flwyddyn. 8.
Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: 1. Er mwyn paratoi a gweithredu Cynllun Tai Cymunedol sy'n gweithredu yn ôl gweledigaeth
a amlinellwyd gan y Grŵp Annibynnol. 2. Gweithredu cynllun sy'n cefnogi pobl
o fewn y Sir i gael gafael
ar dai sy'n
cwrdd â'u hanghenion. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo mabwysiadu Bryn Hafod drwy broses Adran 228 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal wedi
hynny. Y rheswm dros y penderfyniad: I alluogi’r heol i gael ei chynnal ar
gost y cyhoedd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: 1) Nodi'r newid yn y Cynllun Trosglwyddo
Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu Pennau eu
Hunain sy'n Ceisio Lloches o fod yn gynllun
gwirfoddol i fod yn gynllun
gorfodol. 2) Cymeradwyo cefnogaeth i Opsiwn 4 mewn
trafodaethau ynghylch sut y bydd y cynllun
yn gweithredu yng Nghymru - Sefydlu
rota rhanbarthol lle caiff atgyfeiriadau o dan y Cynllun Trosglwyddo
Cenedlaethol eu trosglwyddo i ranbarthau'r 4 ardal wasgaru hirsefydlog. 3) Nodi, os na cheir
cytundeb ar sail Cymru gyfan, mai'r
sefyllfa ddiofyn a orfodir gan y Swyddfa
Gartref fydd Opsiwn 2 a fydd yn golygu y bydd
yn ofynnol i bob awdurdod lleol fodloni ei
ddyraniad unigol. 4) Awdurdodi swyddogion i gydweithio â Chonsortiwm Comisiynu Plant Cymru, sef y corff
Comisiynu ar gyfer lleoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal,
a’r Awdurdodau Lleol eraill yn
y rhanbarth ac ar draws Cymru er mwyn
sicrhau’r gydymffurfiaeth orfodol ac angenrheidiol. 5) Cytuno ar yr
egwyddor o’r angen am gyllid digonol i'r cynllun
weithredu'n effeithiol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth orfodol â gofynion statudol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cyfraniad ariannol i sefydlu’r
weinyddiaeth ar gyfer cofrestr canolog Adran 117 o dan y Ddeddf Iechyd
Meddwl gan weithredu’r fformiwla ariannu rhanbarthol a gytunwyd. Y rheswm dros y penderfyniad: I gwrdd a dyletswyddau statudol a chefnogi cydlynu effeithiol gwasanaethau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: (i) Cymeradwyo y newidiadau arfaethedig i Bolisi
Ariannol Benthyciadau a Grantiau Tai Sector Preifat
Ceredigion. (ii) Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachus. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau bod Polisi Ariannol Benthyciadau a Grantiau Tai
Sector Preifat Ceredigion yn
cael ei weithredu’n
effeithiol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim. |