Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Kay Davies
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Cynghorydd Gareth Lloyd am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr. |
|
Materion Personol Cofnodion: i. Dywedodd
yr Arweinydd mai dyma fydd cyfarfod Cabinet olaf Mrs Caroline Lewis,
Cyfarwyddwr Corfforaethol, cyn iddi ymddeol o’r Cyngor. Diolchwyd iddi am ei
gwaith rhagorol dros y blynyddoedd a dymunwyd yn dda iddi yn y dyfodol.
Adleisiodd y Prif Weithredwr eiriau’r Arweinydd. ii. Mae Mr James Starbuck newydd
gael ei benodi yn Gyfarwyddwr Corfforaethol a dymunwyd yn dda iddo ar gyfer ei
rôl newydd pan fydd yn dechrau arni ym mis Ionawr 2022. iii. Croesawyd Kay Davies i’r cyfarfod am ei bod wedi
dychwelyd i’w swydd yn Swyddog yn y Gwasanaethau Democrataidd yn rhan-amser,
dros dro. iv. Diolchwyd i'r staff am eu gwaith llwyddiannus wrth
sicrhau £10.8m o gyllid o'r Gronfa Codi'r Gwastad. Mae'r cyllid hwn ar gyfer
prosiectau a fydd o fudd i'r harbwr, y prom a'r Hen
Goleg yn Aberystwyth. v. Dymunwyd yn dda i Mr Gareth Rowlands ar gyfer ei
ymddeoliad a diolchwyd iddo am ei waith caled yn sicrhau arian grant sylweddol
i'r Sir dros y blynyddoedd. vi. Estynnwyd llongyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc
Ceredigion ar ôl iddynt gymryd rhan yn Eisteddfod CFfI
Ceredigion y penwythnos diwethaf. Enillodd CFfI
Llanwenog y gystadleuaeth gyfan. Dyfarnwyd gwobr Rhyddiaith yr Eisteddfod i Twm
Ebbsworth, Llanwenog a dyfarnwyd gwobr Barddoniaeth yr Eisteddfod i Ianto
Jones, Felinfach. vii. Rhoddodd yr Arweinydd wybod yn y cyfarfod fod y Cyngor
wedi llwyddo i gaffael tir yn Felinfach ar gyfer
adeiladu ysgol ardal newydd. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Doedd dim datganiadau buddiannau personol / byddiannau sy’n rhagfarnu. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ar lafar parthed
COVID-19. Dywedodd fod 331 yn rhagor o achosion positif wedi bod yn y 7 diwrnod
cyn 28 Hydref. Mae'r gyfradd fesul 100,000 bellach yn 455.3, sy'n ostyngiad.
Nododd yr Arweinydd fod gostyngiad sylweddol wedi bod dros y dyddiau diwethaf o
ran achosion positif. Ymddengys fod yr
holl achosion positif ledled siroedd Cymru yn gostwng ar wahân i sir Wrecsam
ond bod y siroedd sy’n ffinio â Cheredigion yn parhau i fod â niferoedd uchel. Mae'r nifer uchaf o achosion positif yn parhau i fod
ymhlith pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ac, yn dilyn newidiadau yng
nghanllawiau Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf, ni ddylai’r un disgybl
fynychu'r ysgol os oes rhywun wedi profi'n bositif am COVID-19 ar yr aelwyd ‒ dylai’r disgybl hunanynysu. Mae yna nifer o achosion positif ymhlith aelodau’r staff
yng nghartrefi gofal y sir ‒ mae 3
chartref yn y categori ambr a phump yn y categori coch. Mae llyfrgelloedd y sir yn parhau â'u gwasanaeth Clicio a
Chasglu. Mae'r canolfannau ailgylchu a gwastraff wedi ailafael yn
eu gwasanaeth arferol. Mae’r gwaith adfer yn parhau ym mhwll nofio Llanbedr Pont
Steffan ac Aberystwyth ac yng nghanolfannau hamdden Aberystwyth ac Aberteifi. Y
gobaith yw cyhoeddi dyddiadau ar gyfer ailagor cyn bo hir. Nodwyd hefyd fod y tywydd gwael diweddar wedi achosi
tirlithriadau yn Aberaeron. Diolchwyd i dimau’r Cyngor a fu ynghlwm wrth y
gwaith o gynorthwyo dros y penwythnos diwethaf. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2021 yn gywir. Materion yn codi: Nid oedd
materion yn codi o’r cofnodion |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd a) Deiseb am loches bws Cofnodion: Deiseb am lloches bws. Nodwyd bod y deisebau uchod wedi dod i law ac yr ymdrinnid â hwy yn unol â chanllawiau’r Protocol Deisebau |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. a) Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ar ddarpariaeth Gofal Cartref b) Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ar y Gwasanaeth Canolfannau Lles a datblygiadau yng Nghanolfan Lles Llambed Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: i. Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ar ddarpariaeth Gofal Cartref ii. Adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach ar y Gwasanaeth Canolfannau Lles a datblygiadau yng Nghanolfan Lles Llambed Nodi cynnwys yr adroddiadau uchod. |
|
Cofnodion: Cymeradwyo’r cyfraddau
tâl a ganlyn yn weithredol o 1af Ebrill 2021 (gan gynnwys y symiau ôl-daliad cysylltiedig sy’n ddyledus i’r
Uwch Grwner a’r Crwner Cynorthwyol): 1) Uwch Grwner
rhan-amser: i) Cyflog Cadw
o £21,120 y flwyddyn i gwmpasu argaeledd/cadw gwasanaeth
y tu allan i oriau swyddfa o 1af Ebrill 2021 i 31ain Mawrth 2022. ii) Defnyddio’r gyfradd ddyddiol o £465 a gytunwyd i dalu cyflog blynyddol o £11,625 i’r Crwner gan gynnwys diwrnodau
hyfforddi - o 1af Ebrill
2021 i 31ain Mawrth 2022 iii) Costau swyddfa/lwfans cymorth busnes - £5,000 y flwyddyn o 1af Ebrill 2021 i 31ain Mawrth 2022. 2) Crwner Cynorthwyol: O 1af Ebrill 2021 i 31ain Mawrth 2022 bydd y cyfraddau dyddiol yn: ·
diwrnod llawn: £397; a ·
hanner
diwrnod: £199. Rheswm dros y
penderfyniad:-: Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron JNC, lliniaru her a diogelu cronfeydd cyhoeddus. |
|
Cofnodion: i) Cytuno monitro maint Gostyngiad Carbon y Cyngor yn ystod a hyd at flwyddyn 3 o gyfnod cyfredol 5 mlynedd y Cynllun Rheoli Carbon, a oedd yn ostyngiad 28.77% mewn CO2 yn erbyn blwyddyn waelodlin 2017/18; ii) Nodi a chymeradwyo cynnydd a chyflawniadau Cynllun Rheoli'r Cyngor hyd yma. Rheswm dros y
penderfyniad: Yng Nghynllun Rheoli Carbon 2017/18 – 2022/23 a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 11 Mehefin 2019 cytunwyd y byddai Adolygiad Cynnydd Blynyddol yn cael ei gynnal a bod adroddiad diweddaru yn cael ei roi i'r Cabinet bob blwyddyn. |
|
Cofnodion: Argymhellir bod y Cabinet yn cytuno i fersiwn ddrafft y Polisi Ymgysylltu ac yn cymeradwyo ei bod yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod gaeaf 2021-22 Nodi’r adborth o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Rheswm dros y penderfyniad:- Mae’r polisi sydd
gennym ar hyn o bryd ‘Polisi Ymgysylltu â Chymunedau’ yn dyddio’n ôl i 2012 ac
yn lle’r polisi hwnnw, mae angen polisi newydd a fydd
yn ystyried dulliau newydd o ymgysylltu, ac a fydd hefyd yn ystyried
deddfwriaeth a chanllawiau diweddar. Yn ogystal â hynny, mae
angen rhoi ystyriaeth i’r defnydd cynyddol o ymgysylltu digidol. |
|
Cofnodion: Nodi cynnwys
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chytuno ar y tri cham a nodwyd ynddo: Cyflwyno’r Llythyr Blynyddol i’r Cabinet er mwyn cynorthwyo aelodau wrth graffu
perfformiad y Cyngor ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad. Parhau i ymgysylltu â gwaith CSA yr Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru - gan gynnwys cael
mynediad i hyfforddiant a darparu data perfformiad. Hysbysu’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad ystyriaethau’r Cyngor a’r camau gweithredu arfaethedig ar y materion uchod erbyn 15 Tachwedd 2020. Rheswm dros y
penderfyniad:- Sicrhau gwelliant parhaus a sicrhau bod aelodau etholedig yn ymwybodol o berfformiad y Cyngor o ran cwynion. |
|
Cofnodion: Cymeradwyo mabwysiadu Cae’r Odyn drwy broses Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a chynnal a chadw’r ffordd ar gost y cyhoedd. Rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn sicrhau y caiff y ffordd ei chynnal
a’i chadw ar gost y cyhoedd. |
|
Cofnodion: Cymeradwyo mabwysiadu Foel Goch drwy broses Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a chynnal a chadw’r ffordd ar gost y cyhoedd. Rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn sicrhau y caiff y ffordd ei chynnal a’i chadw argost y cyhoedd |
|
Cofnodion: Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr aroddiad yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol. Rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol
ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad a’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim |