Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: O bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

202.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i)      Ymddiheurodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, am y byddai’n hwyr yn ymuno â’r cyfarfod.

ii)     Ymddiheurodd Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

203.

Materion Personol

Cofnodion:

i)      Estynnwyd cydymdeimlad â theulu Dai Jones 'Llanilar' a fu farw’n ddiweddar. Talodd yr Arweinydd deyrnged i'w gyfraniad helaeth yn lleol ac yn genedlaethol.

ii)     Estynnwyd cydymdeimlad hefyd â theulu Gethin Bennett, cyn Aelod Cabinet a Chadeirydd olaf Cyngor Sir Dyfed, a fu farw’n ddiweddar.

Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof amdanynt.

iii)   Llongyfarchwyd Sioned Davies, aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog ar ennill Aelod Hŷn y Flwyddyn a Cari Davies, aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Tregaron ar ennill Aelod Iau y Flwyddyn ar lefel sirol. Estynnwyd dymuniadau gorau i’r ddwy wrth iddynt gystadlu yn y gystadleuaeth Cymru gyfan a fydd yn cael ei chynnal yn fuan.

iv)   Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Arweinydd ar ei hymddeoliad. Diolchwyd iddi am ei chyfraniad sylweddol a’i harweinyddiaeth dros y blynyddoedd.

v)    Diolchodd yr Arweinydd i’r holl aelodau a swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei 10 mlynedd fel Arweinydd y Cyngor. Dymunodd yn dda i bawb ar gyfer y dyfodol gan gynnwys y Cynghorydd Bryan Davies fel Arweinydd newydd Plaid Cymru.

 

204.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Ceredig Davies a Catherine Hughes fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 216, a gadawsant y cyfarfod tra’r oedd y mater yn cael ei drafod.

 

 

205.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ar sefyllfa COVID-19. Esboniodd ei bod wedi gobeithio darparu diweddariad mwy cadarnhaol cyn i’w chyfnod fel Arweinydd ddod i ben, ond yn anffodus, mae cyfraddau wedi codi unwaith eto.

 

Cofnodwyd 113 o achosion drwy brofion PCR gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw, gan ddod â’r cyfanswm yng Ngheredigion i 11,942 o achosion ers dechrau’r pandemig. Lefel yr achosion ar hyn o bryd 296.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth. Y gyfradd bositifrwydd yn y Sir ar hyn o bryd yw 32.4% sydd hefyd yn gynnydd. Ymddengys mai dyma’r patrwm ledled Cymru ar hyn o bryd.     

 

Nodwyd bod yr Alban ar hyn o bryd yn ailystyried eu cynlluniau i gael gwared ar yr holl gyfyngiadau COVID-19 oherwydd cynnydd mewn achosion. Eglurodd yr Arweinydd, yn seiliedig ar fodel rhagfynegi Prifysgol Abertawe, y rhagwelwyd y byddai cynnydd mewn achosion ym mis Mawrth, cyn y byddent yn gostwng unwaith eto ym mis Ebrill. Profion PCR yn unig sy’n cael eu cyfrif yn y ffigurau cyfredol ond pe bai profion LFT yn cael eu cynnwys, byddai cynnydd sylweddol a byddai’r gyfradd fesul 100,000 o’r boblogaeth yn uchel iawn. 

 

Adroddodd yr Arweinydd fod y cynnydd diweddar wedi dechrau effeithio ar ysgolion ac er bod pob ysgol ar agor, roedd 2 ddosbarth yn Ysgol Gynradd Bro Sion Cwilt ar gau ar hyn o bryd oherwydd salwch a phrinder athrawon cyflenwi.

 

Mae 2 gartref gofal o dan gyfyngiadau ar hyn o bryd.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd y cyngor i gymryd profion yn rheolaidd a gwisgo masg lle bo angen. 

 

206.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 559 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

 

207.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd

Cofnodion:

Dim.

 

208.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

 

209.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

Dim.

 

210.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolydd yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethol yr ysgol berthnasol.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

 

211.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ynghylch Dogfen Egwyddorion a disgwyliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol Ceredigion gyda adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

i)     Cytuno i fabwysiadu cynnwys y ddogfen Egwyddorion a Disgwyliadau ADY Ceredigion.

ii)    Bod unrhyw sylwadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel gwelliannau i’r Cynllun, ac yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet er gwybodaeth.

iii)   Bod adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn Egwyddorion a Disgwyliadau ADY Ceredigion yn cael ei gyflwyno i’r Ysgolion, a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet.

iv)   Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n

Dysgu.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

I gydymffurfio gyda gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (2018) Cymru.

 

212.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ynghylch Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag pdf eicon PDF 377 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno ar y Cynllun Gweithredu arfaethedig.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau gweithrediad effeithiol y Cynllun Gweithredu.

 

213.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ynghylch Hybu Economi Ceredigion - Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2021-35 pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo fersiwn ddrafft Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn parhau i alluogi’r broses o roi’r Strategaeth Economaidd ar waith.

 

214.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar ynghylch Dyfarniad Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru ar gyfer Pwll Nofio Aberaeron a Calon Tysul Cyf pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno:

1.    Bod Cynnig Grant Chwaraeon Cymru o £280k mewn perthynas â chyllid cyfalaf ar gyfer Pwll Nofio Aberaeron a Calon Tysul Ltd yn cael ei dderbyn a bod y Cyngor yn gweithredu mewn rôl gyfryngol fel banciwr.

2.    Bod y cynllun wedi'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi buddsoddiad Cyfalaf Gwerth £280,000 gan Chwaraeon Cymru ym Mhwll Nofio Aberaeron a Calon Tysul.

 

215.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu ynghylch Trefniadau Tâl y Crwner 2022/23 pdf eicon PDF 172 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo’r cyfraddau tâl a ganlyn, mewn grym o 1af Ebrill 2022 i 31ain Mawrth 2023:

 

1)    Uwch Grwner rhan-amser:

i)     Cyflog Cadw o £21,120 y flwyddyn i gwmpasu cadw/argaeledd gwasanaeth y tu allan i oriau.

ii)    Defnyddio'r gyfradd ddyddiol a gytunwyd o £465 i dalu cyflog blynyddol o £11,625 i’r Crwner gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant.

Cyfanswm: £32,745 y flwyddyn (ynghyd ag argostau).

iii)   Costau swyddfa/lwfans cymorth busnes – £5,000 y flwyddyn.

 

2)    Crwner Cynorthwyol:

Bydd y gyfradd ddyddiol yn:

·         £397 am ddiwrnod llawn; a

·         £199 am hanner diwrnod.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a Chylchlythyron JNC, lliniaru her a diogelu cronfeydd cyhoeddus.

 

216.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23 Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 250 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi AnnomestigManwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23 Llywodraeth Cymru fel Rhyddhad Ardrethi Annomestig Dewisol o dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol 1988.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn cefnogi busnesau lleol gan ddefnyddio’r cyllid grant sydd ar gael.

 

217.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 Chwarter 3 pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

218.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ynghylch Cyllideb Refeniw Rheoladwy 2021/22 Chwarter 3 pdf eicon PDF 655 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

219.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 2 2021-22 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

220.

Nodi Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2021/22 pdf eicon PDF 741 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

221.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Diolchodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, i’r Arweinydd a’r holl aelodau am eu cyfraniad dros y blynyddoedd.