Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif eitem

164.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

165.

Materion Personol

Cofnodion:

Llongyfarchwyd Urdd Gobaith Cymru ar ddathlu ei ganmlwyddiant ac am dorri dwy Record Byd Guinness. Roedd y ddwy record yn ymwneud ag uwchlwytho’r nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân, sef ‘Hei Mistar Urdd’, o fewn un awr, a hynny ar Facebook ac ar Twitter.

 

166.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 173.

Datganodd y Cynghorydd Ceredig Davies fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 176, gan gadarnhau ei fod wedi cael gollyngiad i siarad ar y mater hwn gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.

 

167.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â COVID-19. Nodwyd bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod lefel nifer yr achosion yn gwella, ond nodwyd nad ydynt yn cynnwys canlyniadau Profion Llif Unffordd. Adroddwyd am 17 o achosion drwy brofion PCR heddiw, gan ddod â’r cyfanswm i 10,713 ers dechrau’r pandemig, sy’n cyfateb i 260 fesul 100,000 o’r boblogaeth. Cyfradd yr achosion positif yn y sir ar hyn o bryd yw 24.6%. Nododd fod data mewnol gan y Tîm Olrhain Cysylltiadau, sy’n cynnwys canlyniadau profion PCR a Phrofion Llif Unffordd a gynhaliwyd ac a gofrestrwyd ar-lein, yn awgrymu bod y gyfradd yn agosach at 541.6 fesul 100,000. Mae’r rhan fwyaf o achosion ymhlith plant oedran ysgol gynradd, ac yna plant oedran ysgol uwchradd, ac oedolion yn y grŵp oedran rhieni.

 

Nododd ein hadroddiad diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nad oes unrhyw gleifion â COVID-19 mewn wardiau gofal dwys ar hyn o bryd.

 

Mae 3 chartref gofal dan gyfyngiadau ar hyn o bryd, gydag achosion positif ymhlith aelodau staff cartrefi gofal, nid y preswylwyr.

 

Mae Canolfannau Hamdden wedi ail-agor, ar ôl cryn dipyn o waith adfer. Bydd llyfrgelloedd yn agor o yfory ymlaen a bydd modd cael mynediad at y cyfrifiaduron a phori drwy’r silffoedd. Bydd yr archifdy hefyd yn agor yfory. Rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw ac mae’n rhaid gwisgo masgiau wyneb a chynnal pellter cymdeithasol. Nodwyd bod Amgueddfa Ceredigion ar agor ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

 

Mae pob ysgol yn parhau i fod ar agor, fodd bynnag bu materion staffio oherwydd absenoldebau o ganlyniad i COVID-19 ac argaeledd athrawon cyflenwi. Mae un dosbarth yn Ysgol Gynradd Aberporth wedi cau heddiw ac mae’r disgyblion yn cael eu haddysgu o bell. 

 

Mae gwasanaeth Casglu Gwastraff Ceredigion bellach yn gweithredu’n ddidrafferth, gyda’r rhan fwyaf o wastraff wedi’i gasglu yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

168.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny. pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod Cofnodion cyfarfod blaenorol y Cabinet yn gywir.

169.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd: (i) Deiseb gan drigolion Rhos y Garth yn gofyn am adolygiad o ddiogelwch ar ffordd yr A485 drwy'r pentref; (ii) Ailagor cyfleusterau hamdden Ceredigion yn unol â gweddill Cymru pdf eicon PDF 569 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y derbyniwyd y deisebau uchod ac y byddent yn cael eu trin yn unol â'r canllawiau yn y Protocol Deisebau.

170.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim

171.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

Dim

172.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corffforaethol ar gyfer Cyllid a Chaffael ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 a'r rhaglen gyfalaf tair blynedd. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

a) Cymeradwyo tri opsiwn ar gyfer cyfanswm y gyllideb sylfaenol ddrafft ar hyn o bryd ym mhroses y gyllideb sef £166.862m, £166.958m a £167.054m.

b) Ystyried argymell i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu'r gyllideb dri opsiwn a ffefrir ar gyfer lefel Treth y Cyngor i'w chynnig ar gyfer 2022/23; 4.75%, 5.0% neu 5.25% a nodi bod cynnig y Gyllideb ddrafft yn seiliedig ar fodel gweithio o £1,479.69 ar gyfer eiddo Band D at ddibenion y Cyngor Sir, sef cynnydd o 4.75%. Mae cynnydd o 5.0% yn darparu ar gyfer gwariant pellach / llai o arbedion o £96k a chynnydd o 5.25% yn darparu ar gyfer gwariant pellach / llai o arbedion o £192k.

c) Pan gyhoeddir y setliad terfynol, bydd gwerth unrhyw grantiau penodol pellach a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu pasio ymlaen at gyllideb y Gwasanaeth perthnasol;

d) Pan gyhoeddir y setliad terfynol, bydd unrhyw newidiadau penodol eraill yn cael eu targedu’n uniongyrchol at y Gwasanaeth(au) a effeithir, os bydd hynny’n briodol; ac

e) Ymdrinnir ag unrhyw newidiadau eraill i’r Grant Cynnal Refeniw drwy addasu cyllideb refeniw gorfforaethol y Grŵp Arweiniol.

f) Cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’i diweddaru a nodir yn Atodiad 4 ac argymell i’r Cyngor ei chymeradwyo.

g) Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf fel y nodir yn Atodiad 5 ac argymell i’r Cyngor ei chymeradwyo.

h) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf fel y nodir yn Atodiad 6 ac argymell i’r Cyngor ei chymeradwyo.

i) Gofyn am farn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y Gyllideb ynghylch yr adroddiad hwn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn paratoi cyllideb ar gyfer 2022/23.

 

173.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfnidiaeth ynghylch Polisïau Adnoddau Dynol: polisïau (1) Gyrru yn y Gwaith - Fflyd y Cyngor a (2) Gyrru yn y Gwaith - Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd) ac adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1) Cymeradwyo Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor

2) Cymeradwyo Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd)

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau cydymffurfiaeth, diogelu ein gweithlu a’r gymuned ehangach rhag niwed, a chefnogi ymddygiad gyrwyr sy’n lleihau’r risg o ddigwyddiadau.

 

174.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Gofal ynghylch Newidiadau i Bolisi Ariannol Benthyciadau a Grantiau Tai Sector Preifat Ceredigion ac adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (i ddilyn) pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Gohirio'r mater hwn i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

175.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Adolygiad o'r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ac adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 13 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

1)    Cymeradwyo'r Adolygiad o'r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ac ehangu'r rhwydwaith Priffyrdd a chyfrifoldebau rheoli asedau yn y dyfodol mewn perthynas â'r ddarpariaeth Teithio Llesol.

2)    Awdurdodi cyflwyno'r ddogfen i Lywodraeth Cymru.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Galluogi dyletswyddau statudol y Cyngor o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).

 

176.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch Cadw elfennau o'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro mewn trefi yng Ngheredigion ac adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cymeradwyo:

1) gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol canlynol:

i) diwygio’r Gorchymyn Traffig Parcio ledled y Sir presennol (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) Gorchymyn 2019 Cyngor Sir Ceredigion

ii) rheoli’r rheoliadau ‘symud’ gan gynnwys llif traffig un ffordd, gwaharddiadau ar droad dde/chwith

2) cyhoeddi Hysbysiadau Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwn.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

·       I alluogi'r broses gyfreithiol y tu ôl i'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol i'w gweithredu.

·       I alluogi gweithredu’r Gorchmynion a nodwyd.

·       I reoli’r rheoliadau ‘symud’.

·       I reoli’r rheoliadau cyfyngiadau parcio.

 

177.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Economi ac Adfywio ynghylch Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Teifi pdf eicon PDF 715 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno i sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau a fydd yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb ar gyfer cynllunio, a bod rhagor o waith yn digwydd ynghylch cydweithio ag awdurdodau cyfagos.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Caniatáu i ragor o waith gael ei gyflawni ynghylch ffosffadau a maethynnau eraill yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi a chreu cynllun i reoli’r gwelliannau o ran ansawdd y dŵr.

 

178.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Economi ac Adfywio ynghylch Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr 2022 ac adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

Cytuno cyflwyno’r Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo gan weinidogion

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

·       Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn bodloni’r gofyniad o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i baratoi Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf pob pum mlynedd.

·       Er mwyn sicrhau bod sylfaen dystiolaeth gyfredol a chynhwysfawr ar waith i lywio’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer 2018-2033 pan ddaw cyfnod ffurfiol o oedi’r CDLl i ben.

 

179.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.