Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Kay Davies
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. |
|
Materion Personol Cofnodion: (i) Gyda thristwch mawr, y nodwyd marwolaeth sydyn Daniel Davies, mab y Cynghorydd Gareth Davies a Mrs Julie Davies a brawd i Angharad. Cydymdeimlwd yn ddiffuant â’r teulu. Cafwyd munud o dawelwch er cof amdano. (ii) Llongyfarchwyd y Parchedig Andy John, Esgob Bangor, ar ei benodiad yn Archesgob Cymru. (iii) Dethlir Diwrnod Hawliau’r Gymraeg heddiw ac anogodd yr Arweinydd bawb i gyfathrefu a defnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn Gymraet yn ogystal ag yn Saesneg. (iv) Llongyfarchwyd y Cynghorydd Euros Davies ar ei lwyddiant yn arddangos pâr o ŵyn Llanwenog yn Ffair Aeaf ddiweddar Cymdeithas amaethyddol Frenhinol Cymru. Llongyfarchwyd holl aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion a gymerodd ran yn y dygwyddiad yn ogystal. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu. |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Cafwyd diweddariad gan yr Arweinydd ar sefyllfa Covid-19. Adroddwyd 35 achos positif ychwanegol heddiw gan greu cyfanswm o 6670 ers dechrau’r pandemig. Mae hyn yn cyfateb i 251.1 fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghereidigion, gyda 183 o achosion positif wedi’u hadrodd yn ystod y saith niwrnod diwethaf. Mae’r ffigyrau fesul 100,000 o’r boblogaeth ar 2 Rhagfyr 2021 fel a ganlyn: Aberteifi ac Aberporth 247.8; Beulah, Troedyraur a Llandysul 351.8; Cei Newydd a Phenybryn 136.9; Llambed a Llanfihangel Ystrad 291.2; Aberaeron a Llanrhystud 211.4; Rheidol, Ystwyth a Caron 450.4; De Aberystwyth 313.8; Gogledd Aberystwyth 147.1; Borth a Bontgoch 94.1. Mae’n ymddangos bod y ffigyrau’n dringo eto fel yn y mwyafrif o ardaleodd Cymru gyda’r mwyafrif o ahcosion yn bennaf ymhlith pobl ifan 12 – 19 oed. Oherwydd nifer y staff a’r disgybion sy’n derbyn canlyniadau positif, mae Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi dychwelyd i ddarparu gwersi ar-lein yr wythnos hon. Mae ysgolion Bro Teifi a Bro Pedr hefyd yn cael probleay staffio. Mae gwasanaethau’r Cyngor yn parhau fel arfer. Maer’ system Clicio a Chasglu yn parhau yn llyfrgelloedd y sir. Bydd y Canolfannau Hamdden yn Aberteifi ac Aberystwyth yn ailagor cyn gynted ag y bydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau. Nododd yr Arweinydd nad oes unrhyw gynlluniau yn genedlaethol ar hyn o bryd i gau ysgolion cyn diwedd y tymor. |
|
Cofnodion: Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021 yn gywir. Materion yn codi: Roedd y Cynghorydd Keith Evans yn dymuno nodi yn y cofnodion ei fod wedi ymddiheuro am fethu â mynychu’r cyfarfod. |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd: Llewod Llambed yn dweud “achub ein neuadd chwaraeon” Cofnodion: Llewod Llanbed yn dweud ‘achub ein neuadd chwaraeon’ Nodwyd bod y ddeiseb uchod wedi dod i law ac yr ymdrinnir â hi yn unol â chanllawiau’r Protocol Deisebau |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim. |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Gweler penderfyniadau 135. |
|
Cofnodion: (i) Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr aroddiad yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol
ar Gyrff Llywodraethol. |
|
Cofnodion: (i) Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor fel y nodir yn atodiadau’r adroddiad; a (ii) Chymeradwyo rhaglen arfaethedig y rhandaliadau felyr argymhellir o dan eitem 4 yn yr adroddiad. Y rheswm dros y penderfyniad: Gofyniad cyfreithiol. |
|
Cofnodion: (i) Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiweddaraf o £26.484m ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad. (ii) Nodi’r perfformiad yn yr Adroddiad Monitro Cyfalaf fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn diweddaru Rhaglen Gyfalaf 2021/22. |
|
Cofnodion: (i) Cymeradwyo Polisi a Gweithdrefn Enghreifftiol Urddas yn y Gwaith i Ysgolion a bod Cyrff Llywodraethu yn eu mabwysiadu yn ysgolion Ceredigion (ii) Cymeradwyo Polisi a Gweithdrefn Enghreifftiol Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Gwaith i Ysgolion a bod Cyrff Llywodraethu yn eu mabwysiadu yn ysgolion Ceredigion. (iii) Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: (i) Darparu amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhyrchiol heb unrhyw aflonyddu,
bwlio ac erledigaeth ar draws ysgolion yng Ngheredigion. (ii) Darparu cefnogaeth a hyrwyddo gweithlu iach sy'n hanfodol
i lwyddiant ein disgyblion. |
|
Cofnodion: (i) Cytunwyd i ohirio’r eitem a’i gyfeirio’n ôl at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w ystyried ymhellach, a’i gyflwyno gyfarfod Cabinet yn y dyfodol. Y rheswm dros y penderfyniad: I ddarparu amser i
ystyried ymhellach. |
|
Cofnodion: (i) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd) gychwyn deialog o fewn y priod awdurdodau (Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) i ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru. (ii) Awdurdodi’r swyddogion i : (a) sefydlu'r ffrydiau gwaith sydd eu hangen i symud y gwaith o sefydlu a datblygu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn ei flaen, a (b) gweithio gyda Chyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru. Y rheswm dros y penderfyniad: (i) Galluogi i Gyd-bwyllgor Corfforedig gael ei sefydlu yn
rhanbarth Canolbarth Cymru fel sy'n
ofynnol yn Rhan 5 Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. (ii) Sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth (iii) Sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith. |
|
Cofnodion: (i) Cymeradwyo sefydlu
cartref grwp bychan mewn lleoliad
yng nghanol y sir er mwyn darparu
hafan ddiogel i blant Ceredigion yng Ngheredigion ac ystyried strategaeth i ddatblygu opsiynau tebyg pellach yng ngogledd
ac yn ne’r sir. (ii) Cymeradwyo i swyddogion gyflwyno ceisiadau am gyllid i’r cynllun llety
diogel rhanbarthol a ariennir gan
arian cyfalaf a refeniw ICF. (iii) Cymeradwyo defnyddio cronfeydd corfforaethol y Cyngor er mwyn sefydlu
a chynnal y ddarpariaeth arfaethedig. (iv) Y bydd gwaith
ymgynghori pellach drwy’r broses gynllunio. (v) Nodi, hyd nes y ceir canlyniad y cynnig uchod, y bydd y trefniadau gofal dros dro amgen angenrheidiol a wneir ar sail argyfwng ar gyfer unrhyw blentyn yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gymryd camau i gydymffurfio â'r gofynion rheoliadol a deddfwriaethol. Y rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn datblygu'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth addas i blant a theuluoedd yng Ngheredigion |
|
Cofnodion: (i) Cymeradwyo hysbysebu'r bwriad i aelodau'r cyhoedd, ac os na cheir dim gwrthwynebiadau, wneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig angenrheidiol a chyhoeddi Hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwn. Y rheswm dros y penderfyniad: Atal difrod i briffordd gyhoeddus, pont ac eiddo preifat. |
|
Cofnodion: (i) Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: (i) Nodwyd yr adroddiad. |
|
Cofnodion: (i) Cabinet noted the report. |
|
Atodiad i adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar Darpariaeth Breswyl er mwyn Cefnogi a Gofalu am Blant a Phobl Ifanc yng Ngheredigion Cofnodion: Nid yw’r adroddiad ar eitem 143 ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 13 a 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol â’r Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf. Penderfynwyd Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn yr eitem nesaf , sef 144. Nododd Cabinet yr adroddiad parthed penderfyniad 138. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: i. Nododd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cefnogaeth ac Ymyrraeth fod y tymor ysgol cyfredol yn dod i ben ar 22 Rhagfyr 2021 ac y bydd ysgolion yn ailagor ar 5 Ionawr 2022. ii. Cynghorodd yr Arweinydd bawb i gymryd gofal yn y storm ‘Barra’ sydd ar ddod. Dymunodd yn dda i holl staff Priffyrdd yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf a diolchodd iddynt am eu gwaith. |