Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim |
|
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap
Gwynn, ddiweddariad ar lafar o ran COVID-19.
Nododd yr adroddwyd am 46 o achosion positif ddoe, gyda 19 y bore yma. Ar hyn o bryd mae cyfradd yr achosion yng Ngheredigion yn
365.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gyda chyfradd positifedd 11.9%. Mae achosion yn fwyaf cyffredin ymhlith pobl
ifanc 10 i 19 oed. Nodwyd bod myfyrwyr wedi dychwelyd i'r Sir ond nad oeddent
yn destun pryder ar hyn o bryd ond bydd hyn yn cael ei fonitro. Er y bu rhywfaint o darfu ar addysg, nid oedd
yr un o'r ysgolion yng Ngheredigion wedi gorfod cau. Nododd yr Arweinydd, yn ystod cyfarfod gyda'r
Gweinidog Addysg, fod awgrym bod Fframwaith ar waith sy'n caniatáu i fesurau
lleol gael eu cyflwyno lle bo angen. Bu cynnydd yn nifer yr achosion yn ardal Tregaron yn
ddiweddar, gyda nifer yr achosion yn parhau i fod yn uchel yn ardal
Aberteifi. Ar hyn o bryd mae 8 achos yn
Ysbyty Bronglais. Dechreuwyd cyflwyno'r brechiad ar gyfer pobl ifanc 12 i 15
oed ddoe ac mae llythyrau apwyntiad yn cael eu rhoi. Nodwyd hefyd y dylai
unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad am frechlyn atgyfnerthu fynd i’w canolfan
agosaf yn Llanbadarn neu Gwmcou ar yr amser a'r dyddiad a bennir ar lythyr yr
apwyntiad, ac nad oes angen iddynt deithio ymhellach i ffwrdd. Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ar wasanaethau'r
Cyngor gan nodi bod tri chartref gofal yn y categori coch oherwydd achosion
ymhlith staff, sy'n golygu nad yw'r cartrefi gofal yn gallu cael derbyniadau
newydd. Nododd hefyd fod problemau gyda
recriwtio gweithwyr gofal, yn ddarparwyr cyhoeddus a phreifat, ac anogodd bawb
i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn. Atgoffodd yr Arweinydd bawb fod angen masgiau o hyd mewn mannau cyhoeddus dan do ac ailadroddodd bwysigrwydd diheintio dwylo a sicrhau awyru da. Nodwyd hefyd y gellir cynnal digwyddiadau bellach ond, yn destun asesiadau risg priodol, a nodwyd bod staff ar gael i gynghori trefnwyr digwyddiadau. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau yn gofnod cywir Gofnodion Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 Materion sy’n Codi: Dim |
|
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd Cofnodion: Dim |
|
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cofnodion: Dim |
|
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD i.
Cymeradwyo fersiwn ddrafft Achos Busnes y Portffolio
ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru er mwyn ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn atodiadau canlynol yr adroddiad: ·
Atodiad 1: Achos Busnes y
Portffolio (fersiwn 1) ·
Atodiad 2: Crynodeb
Amlinellol o'r Rhaglen - Digidol (fersiwn 1 drafft) ·
Atodiad 3: Crynodeb
Amlinellol o'r Rhaglen – Tir ac Eiddo (fersiwn 1 drafft) ·
Atodiad 4: Astudiaeth
Gymhwysol Ymchwil ac Arloesi (fersiwn 1 terfynol) ii.
Os cymeradwyir fersiwn
ddrafft Achos Busnes y Portffolio, i roi'r awdurdod i gyflwyno fersiwn ddrafft
Achos Busnes y Portffolio i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru: ·
I'w hadolygu'n ffurfiol
trwy Adolygiad y Swyddog Cyfrifyddu, ar ran Bwrdd Gweithredu Bargeinion Dinesig
a Bargeinion Twf Cymru – y Cyd-Fwrdd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
sy'n llywodraethu Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf Cymru. ·
I'w defnyddio fel sail ar
gyfer drafftio Cytundeb Terfynol y Fargen – a fydd yn cael ei drafod gyda'r
ddwy Lywodraeth a'i ddwyn yn ôl i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ac i Gabinetau'r
ddau Awdurdod i'w adolygu a'i gymeradwyo'n derfynol. ·
Awdurdodi'r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 (ynghyd
â swyddogion cyfatebol yng Nghyngor Sir Powys) i wneud mân ddiwygiadau i Achos
Busnes y Portffolio a allai fod eu hangen cyn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau bod Achos Busnes y Portffolio’n cael ei gyflwyno mewn pryd er mwyn cyflawni Cytundeb Terfynol y Fargen o fewn blwyddyn galendr 2021 |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Argymell y Strategaeth Gydol Oed a Lles 2021-2027 a'r Cynllun Gweithredu
i'w cymeradwyo gan y Cyngor Rheswm dros y penderfyniad: Argymell bod y Strategaeth Gydol Oed a Lles 2021-2027 yn cael ei
chymeradwyo gan y Cyngor |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cytuno ar Adroddiad
Blynyddol drafft 2020-21 yr Amcanion Llesiant a Gwella Rheswm dros y penderfyniad: Symud ymlaen â chyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2020-21 yr
Amcanion Llesiant a Gwella |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cael a chymeradwyo
Adroddiad Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ebrill 2020 i Fawrth 2021 a
chymeradwyo bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan gyhoeddus. Rheswm dros y penderfyniad:- Mae'n ofynnol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ein bod yn cynhyrchu Adroddiad
Monitro Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-21 ac yn ei
gyhoeddi ar ein gwefan gyhoeddus erbyn 31/3/22 |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNIAD i.
Argymell bod y Cyngor yn
cytuno ar saib hyd dros dro ond amhenodol hyd yma ar gyfer mabwysiadu'r cynllun
datblygu lleol newydd, a ii.
Ysgrifennu at Weinidogion Cymru
Julie James, Vaughan Gething a Leslie Griffiths yn tynnu sylw at bryderon. Rheswm dros y penderfyniad:- Caniatáu i waith pellach gael ei wneud o amgylch sefyllfa’r ffosffadau ar
gyfer casglu tystiolaeth a chasglu data ac er mwyn dyfeisio atebion lliniaru, a
sicrhau bod y cynllun newydd yn cwrdd â phrofion cadernid, yn gyflawnadwy ac yn
addas i’r diben. |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo gwneud y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
angenrheidiol a chyhoeddi Hysbysiad Gwneud wedi hynny yn y wasg Rheswm dros y penderfyniad:- Mae'r Gorchmynion
Rheoleiddio Traffig arfaethedig yn rhan o gynllun a ariennir gan Grant Teithio
Llesol a Grant Diogelwch ar y Ffyrdd |
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau enwebiad Jeremy Holmes fel cynrychiolydd yr
Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Aberteifi. Rheswm dros y penderfyniad:- Enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu |
|
Cofnodion: Nododd y Cabinet yr
adroddiad |
|
Cofnodion: Nododd y Cabinet yr
adroddiad |
|
Cofnodion: Nododd y Cabinet yr
adroddiad |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim |