Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 13eg Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Cyswllt: Kay Davies 

Eitemau
Rhif eitem

42.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ray Quant oherwydd roedd angen iddo adael y cyfarfod yn gynnar.

 

43.

Materion Personol

Cofnodion:

i.               Estynnwyd cydymdeimlad â theulu'r Arglwydd Elystan Morgan a fu farw'n ddiweddar, a thalodd yr Arweinydd deyrnged i'w gyfraniad mawr i wleidyddiaeth yng Ngheredigion a Chymru.

ii.              Estynnwyd cydymdeimlad â theuluoedd Mr Wyn Jones a Mr Dave Edwards a fu farw'n ddiweddar; roedd y ddau wedi cyfrannu'n aruthrol i’r sîn roc a phop Gymraeg.

Cafwyd munud o dawelwch er cof amdanynt.

iii.             Estynnwyd llongyfarchiadau i Dic Evans ar redeg 1,000 o filltiroedd dros 100 diwrnod gan godi £9,000 tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

iv.            Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Tim Richards o Gei Newydd ar gerdded llwybr yr arfordir o Aberystwyth i Gei Newydd i godi arian i'r RNLI.

v.              Estynnwyd llongyfarchiadau i Elen James a'r Gwasanaeth ar ennill gwobr Aur Datblygu Insport.

vi.            Estynnwyd dymuniadau gorau i Mr John Morgan ar ei ymddeoliad o'r Fforwm Mynediad Lleol a ffurfiwyd ganddo, yn ogystal â bod yn gadeirydd ar y fforwm ar sawl achlysur . 

vii.           Estynnwyd llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Llanilar ar fod yr ysgol gyntaf yng Ngheredigion i gyflawni Safon Aur Siarter y Gymraeg.

44.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Catrin Miles fuddiant personol parthed cais Cyngor Tref Aberteifi yn eitem 57.

 

45.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar parthed COVID-19.  Dywedodd fod Ceredigion bellach mewn trydedd don o achosion Coronafeirws wrth i 72 o achosion newydd gael eu hadrodd yr wythnos hon, sy’n gynnydd ar y 24 a adroddwyd yn yr wythnos flaenorol. Mynegwyd pryderon yn enwedig ynghylch y cynnydd mewn achosion yng ngogledd y sir, yn benodol yn ardaloedd Borth a Bont-goch ac Aberystwyth.

 

Yn anffodus, roedd dau gartref gofal yng ngogledd y Sir yn y categori coch yn sgil achosion. Ailgyflwynwyd y Parthau Diogel gyda'r nod o gynnig amgylchedd diogel lle gall pobl gadw pellter cymdeithasol wrth i achosion gynyddu yn y Sir.

 

Bydd gwaith yn dechrau ar y pyllau nofio yn Aberystwyth a Llambed cyn bo hir, pan fydd yr unedau trin aer ar gael ac wedi'u gosod. Hefyd diolchodd yr Arweinydd i Brifysgol Aberystwyth am ddarparu eu cyfleusterau nhw i'r gymuned tra bod pwll nofio Plascrug ar gau.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi sefydlu clinigau brechu Galw i Mewn yn Llanbadarn ac Aberteifi i alluogi trigolion Ceredigion sydd dros 18 oed i gael eu brechlyn cyntaf neu eu hail frechlyn heb orfod cael apwyntiad.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr fod y ffigurau diweddaraf yn bryder mawr mewn pum ardal benodol yn y Sir, sef y Borth a Bont-goch, Gogledd Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad, a Rheidol, Ystwyth a Charon gan eu bod dros y trothwy o 50 fesul 100,000 o'r boblogaeth. Roedd Borth a Bontgoch ar 215.1 fesul 100,000, Gogledd Aberystwyth ar 169.8 fesul 100,000, Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad ar 72.8 fesul 100,000 a Rheidol, Ystwyth a Caron ar 60.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth (ar 12 Gorffennaf 2021).

 

Dywedodd fod y rhan fwyaf o'r achosion mewn pobl o dan 50 oed ac yn enwedig o gwmpas grŵp oedran 30 oed ac iau. Mynegodd bryder y gallai’r feirws gael ei drosglwyddo i'w rhieni hŷn o fewn y cartref er eu bod nhw wedi derbyn y brechlyn. Mae'r brechlyn ond yn helpu i atal salwch difrifol. Ni riportiwyd dim cynnydd o ran achosion yn yr ysbytai ar hyn o bryd.

 

Anogodd yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr bawb i gadw'n ddiogel ac i ddilyn rheolau pellter cymdeithasol.

 

46.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 513 KB

Cofnodion:

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 yn gywir.

Materion yn codi:

Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion.

 

47.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd

Cofnodion:

Dim.

48.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cofnodion:

Dim.

49.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

Dim.

50.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant ar: apwyntio Cynrhychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau’r enwebiadau:

i.            Ail-ethol Sian Thomas Jones yn Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau

ii.           Ethol Daniel Frisby yn Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Comins Coch

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu.

 

51.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar: Tyfu Canolbarth Cymru - Cytundeb Rhyng-awdurdod diwygiedig pdf eicon PDF 775 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

(i)             Cymeradwyo'r Cytundeb Rhyng-awdurdod Diwygiedig ar gyfer cytuno ar Achos Busnes Portffolio a Chytundeb Terfynol y Fargen ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru; a

(ii)            Rhoi pwerau dirprwyedig i'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyfreithiol a Llywodraethu i wneud mân newidiadau i'r Cytundeb Rhyng-awdurdod, ar y cyd â Chyngor Sir Powys. Newidiadau mwy sylweddol i'w hawdurdodi gan y Cabinet ac adroddir yn ôl ar hynny.

Rheswm dros y penderfyniad:

Sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith i gwmpasu cyfnod nesaf datblygu'r Fargen Twf.

 

52.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforathol Economi ac Adfywio ar gyfer Ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi pdf eicon PDF 391 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Mae’r Cabinet yn argymell y Cyngor i gymeradwyo rhoi Pwerau Dirprwyedig i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet, i benderfynu ar geisiadau cynllunio sydd ddim yn cydymffurfio â’r gyfarwyddeb ffosffadau (yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017) ac a ddaw i law ar ôl 1 Mehefin 2021.

 

Bydd pob cais sy’n dod o dan y categori hwn ac a ddaeth i law cyn 1 Mehefin 2021 yn cael eu dal yn ôl hyd nes y bydd cyfarwyddyd clir ar sut i benderfynu ynghylch y ceisiadau hyn.

Rheswm dros y penderfyniad:

Caniatáu i Geisiadau Cynllunio gael eu penderfynu'n effeithlon.

53.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ar: Adroddiad Alldro'r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 pdf eicon PDF 489 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Nodi’r adroddiad a’r perfformiad ariannol llwyddiannus.

 

54.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ar: y Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd ddiweddaraf 2021/22 to 2023/24 pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd ar gyfer 2021/22 i 2023/24, fel y’i hamlinellir yn Atodiad A.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd ddiweddaraf.

 

55.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ar: yr Alldro Refeniw Rheoladwy ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 898 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Nodi’r adroddiad.

 

56.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ar: Berfformiad Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 731 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

57.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael ar: Grantiau a ddyfarnwyd o dan Gynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion a Chronfa'r Degwm pdf eicon PDF 398 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Nodi’r grantiau a ddyfarnwyd o dan Gynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion a Chronfa’r Degwm yn 2020/2021.

 

58.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Gofal ar: Drefniadau Ariannu Rhanbarthol pdf eicon PDF 415 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo:

a)    yr egwyddorion ariannu - fel y nodir yn yr adroddiad - ar gyfer yr holl waith rhanbarthol a gyflawnir drwy gyfrwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, fel a ganlyn:

(i)             gweithredu'r fformiwla ariannu ranbarthol ar sail poblogaeth y tri Awdurdod Lleol, a hynny i bob menter a phrosiect rhanbarthol sy'n dod o dan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, o ran incwm a gwariant;

(ii)            os oes prosiectau sy'n cynnwys cyfraniadau gan sawl asiantaeth, disgwylir i'r fformiwla gael ei gweithredu yn ôl cyfanswm ymrwymiad y tri awdurdod lleol (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro) ac nid yn ôl y swm cyfan; a

b)    rhoi pwerau dirprwyedig ar y cyd i:

·       Aelod Cabinet Porth Cynnal

·       Aelod Cabinet Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant, a

·       Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Gofal    

 i wyro oddi wrth y model y cyfeirir ato yn a) uchod, mewn amgylchiadau eithriadol, a bod y gwyriad hwnnw’n cael ei adrodd i’r Cabinet wedi hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

I ofyn am gymeradwyaeth i’r egwyddorion ariannu rhanbarthol i sicrhau trefniadau ariannu teg o ran incwm a gwariant.

 

59.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar: Osod Ffioedd Cartrefi Gofal yn y Sector Annibynnol pdf eicon PDF 408 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Ffioedd am Ofal Nyrsio yng Nghartrefi Sector Annibynnol Ceredigion ar gyfer 2021/22 ar y lefelau wythnosol canlynol, mewn grym o 05/04/2021 ymlaen:

 

Nyrsio Cyffredinol

£668.15

Nyrsio Dementia

£711.48

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Cytuno ar ffioedd a’u pennu ar gyfer 2021/22

 

60.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar: Bolisi Goruchwylio Cyngor Sir Ceredigion

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo Polisi Goruchwylio Cyngor Sir Ceredigion.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r polisi.

 

61.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal ar: Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

62.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.