Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 15fed Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Cyswllt: Kay Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

22.

Materion Personol

Cofnodion:

i.              Dymunwyd y gorau i Kay Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, ar ei hymddeoliad. 

ii.            Llongyfarchwyd y Cynghorydd Alun Williams am gael ei benodi’n Faer Aberystwyth. 

iii.           Dymunwyd y gorau i Rhys Norrington Davies sydd yn Baku ar hyn o bryd gyda thîm pêl-droed Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Euro 2020.  

iv.           Llongyfarchwyd Osian Jones, Ysgol Ciliau Parc, enillydd y gystadleuaeth dan 12 oed i greu siant bêl-droed newydd i gefnogi tîm pêl-droed Cymru. 

v.            Llongyfarchwyd Meinir Mathias am ennill ‘Gwobr y Bobl’ yr Academi Frenhinol Gymreig. 

vi.           Llongyfarchwyd yr Uned Ofalwyr am drefnu Wythnos Ofalwyr lwyddiannus. 

vii.          Llongyfarchwyd disgyblion Ceredigion ar y gwobrau a enillwyd yn yr Eisteddfod T hynod lwyddiannus, a gynhaliwyd o Langrannog yn ddiweddar.  Llongyfarchwyd yr Urdd hefyd am drefnu wythnos lwyddiannus o gystadlu. 

viii.         Llongyfarchwyd Ann Jones am gael ei hethol yn Gadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched. 

23.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd Elin Prysor fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghofnod 34 isod a gadawodd y cyfarfod pan drafodwyd y mater hwnnw. 

 

24.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar parthed COVID-19. 

 

Nododd fod yr amrywiolyn Delta yn achosi pryder yng Nghymru a ledled y DU a bod nifer yr achosion yn cynyddu.  Cofnodwyd saith achos newydd yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n gyfystyr â 9.6 i bob can mil; fodd bynnag mae’r gyfran sy’n profi’n bositif yn parhau’n gymharol isel, sef 1.2%.  Mae’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan yn cyfateb i 20.1 i bob can mil, gyda’r gyfradd sy’n profi’n bositif yn 2%.  Nodwyd, fodd bynnag, bod angen i bob un ohonom fod yn ofalus a sicrhau ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo mygydau ac yn golchi’n dwylo’n aml. Nodwyd nad yw nifer yr achosion wedi cynyddu’n sylweddol yng Ngheredigion wedi gwyliau’r hanner tymor, o’i gymharu ag ardaloedd eraill. 

 

Mae’r rhaglen frechu’n parhau’n effeithiol, ac yng Ngheredigion mae 67% wedi cael y brechlyn cyntaf a 40.4% wedi cael yr ail frechlyn.  Bellach mae pawb dros 18 oed wedi derbyn gwahoddiad i gael eu brechlyn ac o ran y sawl a oedd efallai wedi methu eu hapwyntiad gwreiddiol, mae cyfle o hyd iddynt fynd i gael eu brechu.  Ar hyn o bryd, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn edrych ar y dystiolaeth sy’n ymwneud â sut i gymhwyso’r brechlyn i bobl ifanc 16 a 17 oed, yna byddant yn ystyried y rhai dros 12 oed. 

 

Nododd yr Arweinydd iddi gyfarfod â Phenaethiaid pob ysgol y diwrnod cynt ac iddi ddiolch iddynt am eu holl waith yn ystod yr amryw gyfnodau clo, gan gydnabod hefyd y pwysau ychwanegol o gynnal asesiadau yn lle arholiadau.  Bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnos, gyda disgyblion yn cael y cyfle i apelio ynghylch eu graddau, fodd bynnag bydd y graddau terfynol yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol ganol mis Awst.   

 

Nid oes unrhyw achosion mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd.  Mae’r rhan fwyaf o’r staff a’r trigolion yno wedi’u brechu a cheir podiau ymweld yn y gerddi.  Gobeithir y bydd ymweliadau y tu mewn i’r adeilad yn gallu dechrau cyn bo hir, ond bydd hyn yn cael ei fonitro’n ofalus, gan roi ystyriaeth i unrhyw gynnydd mewn achosion. 

 

Mae’r Parthau Diogel wedi’u haddasu ers iddynt gael eu cyflwyno y llynedd a threialwyd y newidiadau yn ystod y gwyliau hanner tymor diweddar. Ar y cyfan, buont yn llwyddiannus mewn cyfnod o wyliau hanner tymor prysur.  Bydd y Parthau Diogel yn cael eu hailgyflwyno ar gyfer cyfnod gwyliau haf yr ysgolion. 

 

Mae darparwyr lletygarwch a llety yn parhau’n brysur.  Mae grantiau busnes ar gael gan wasanaeth ‘Busnes Cymru’ yn ogystal â thrwy Gyngor Sir Ceredigion. 

 

Mae’r llyfrgelloedd wedi ailagor i’r cyhoedd drwy apwyntiad ac mae hi’n dal yn bosibl trefnu gwasanaeth clicio a chasglu. 

 

Mae’r cyfleusterau awyr agored sydd ar safleoedd ysgolion wedi ailagor ac maent ar gael yn awr at ddefnydd mudiadau cymunedol.  Mae Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan ar agor erbyn hyn, fodd bynnag mae angen gwaith cynnal a chadw pellach ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24.

25.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol y Cabinet ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny. pdf eicon PDF 361 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau bod cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 yn rhai cywir.  

 

Materion yn codi:

(i) Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

26.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

27.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Cofnodion:

Dim.

28.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

Cyfeirier at benderfyniadau 31 a 38 isod. 

29.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch: Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl ac Ysgolion 2021-2024 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a’r Ysgolion ar gyfer 2021-2024.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn bwrw ymlaen â’r broses o gael Corff Llywodraethol pob ysgol i lofnodi’r cytundeb fel ei fod yn weithredol o 1 Medi 2021 ymlaen. 

30.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch:Polisi Adolygu Ysgolion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Nodwyd adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

PENDERFYNIAD

 i.    Cymeradwyo dileu’r Polisi Adolygu Ysgolion

ii.   Cymeradwyo’r Llawlyfr Trefniadaeth Ysgolion.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn cydymffurfio â Chanllaw Statudol Llywodraeth Cymru – ‘Cod Trefniadaeth Ysgolion’ 011/2018.

 

31.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch: Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

1.     Cymeradwyo fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032, a

2.     Chytuno i weithredu cyfnod ymgynghori yn ystod hydref 2021 am yr wyth wythnos sy’n ofynnol

3.     Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.

  

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Yn unol â ‘Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019’

32.

Ystyried Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant: Polisi Derbyn Ysgolion pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau’r polisi derbyn disgyblion 2022/23.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn cael polisi ar waith ar gyfer 2022/23.

33.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd ynghylch: Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2020-21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion   (2020-21) i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Dyletswydd statudol yn unol â Mesur y Gymraeg 2011. 

34.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal ynghylch: Pennu Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol pdf eicon PDF 561 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i. Cymeradwyo’r ffioedd a argymhellir ar gyfer lleoliadau yng Nghartrefi Gofal Preswyl Sector Annibynnol Ceredigion ar gyfer 2021/22 ar y lefelau wythnosol canlynol, mewn grym o 05.04.2021

Preswyl - Henoed Dibynnol Iawn

£644

Preswyl - Dementia

£686

ii. Cymeradwyo’r argymhelliad bod y Ffioedd am Ofal Preswyl yng Nghartrefi Awdurdod Lleol Ceredigion yn cael eu diweddaru a’u cymeradwyo ar gyfer 2021/22 ar y lefelau wythnosol canlynol, mewn grym o 12/04/2021:

Preswyl -Henoed Dibynnol Iawn

£644

Preswyl - Dementia

£686

iii.     Cytuno bod y man cychwyn ar gyfer comisiynu lleoliadau Pobl Hŷn y Tu Allan i’r Sir yn uchafswm y cyfraddau Pobl Hŷn yn y Sir y cytunwyd arnynt, oni bai nad oes argaeledd yn y sir (ac eithrio lleoliadau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle bydd y Cyngor yn parhau i fod cystal â chyfraddau’r priod awdurdod lletyol).  Fodd bynnag, bydd pob achos bob amser yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun fesul achos. 

 

Y rhesymau dros y penderfyniad:-

Cytuno ar ffioedd a’u pennu ar gyfer 2021/22.

35.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal: Caffael 2 Uned Wasgarog (diweddariad) pdf eicon PDF 460 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

 i.          Nodi caffael yr Uned Wasgarog gyntaf yn ardal Aberystwyth yn unol â phenderfyniad y Cabinet ar 23/02/21

ii.          Dirymu penderfyniad C150 ii) 23/02/21 (caffael yr Ail Uned Wasgarog yn Aberystwyth). 

iii.          Cymeradwyo caffael yr ail Uned Wasgarog, mewn egwyddor

iv.          Rhoi pŵer dirprwyedig i aelod y Cabinet ac i Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal wneud newidiadau, yn ôl yr angen, i weithredu’r materion a godir yn yr adroddiad hwn.  

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Cynorthwyo’r Awdurdod i sicrhau eiddo priodol er mwyn cael mwy o ddarpariaeth o ran llety addas a diogel i’w defnyddio gan rai sy’n ffoi rhag trais domestig. 

36.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal: Llety diogel ar gyfer Plant ag Anghenion Cymhleth pdf eicon PDF 379 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo datblygu’r cynllun rhanbarthol i ddarparu llety diogel, yn benodol ar gyfer defnydd cyllid y Gronfa Gofal Integredig (ICF) i brynu a sefydlu canolfan llety diogel canolog yn rhanbarthol, ar gyfer plant ag anghenion cymhleth.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn rhoi’r mandad gwleidyddol i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol gytuno â datblygiad y ganolfan rhanbarthol. 

37.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a'r Amgylchedd ynghylch: Mabwysiadu Priffordd– Cwrt Dulas, Lampeter pdf eicon PDF 854 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo’r mabwysiadu arfaethedig ar Gwrt Dulas, Llanbedr Pont Steffan drwy broses Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost gyhoeddus wedi hynny. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn i’r ffordd allu cael ei chynnal ar gost gyhoeddus. 

38.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio: Cynllun Gweithredu i gyflawni Carbwn sero-Net erbyn 2030 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

1.     Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Sero-Net a’r Camau Gweithredu a nodir ynddo;

2.     Nodi y byddai ymgynghori ar unrhyw gynigion i wneud y Parthau Diogel yn barhaol ac y byddent yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet er penderfyniad; 

3.     Gwahodd cynrychiolydd o Grŵp y Rhyddfrydwyr Democrataidd i fynychu’r Grŵp Rheoli Carbon. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Cefnogi ymrwymiad y Cyngor i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. 

 

39.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio: Ceisiadau am arian o Gronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig pdf eicon PDF 979 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

         i.    Cytuno â’r egwyddor bod Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno ceisiadau am arian o Gronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adfywio Cymunedol, fel y’u hamlinellir yn gryno yn y papur. 

        ii.    Cymeradwyo rôl Cyngor Sir Ceredigion fel awdurdod arweiniol ar gyfer y ceisiadau, ac yn dilyn hynny ei fod yn llunio cytundebau cyfreithiol gyda phartneriaid cyflenwi, pe bai’r ceisiadau am arian yn llwyddiannus. 

 

Y rheswm dros y penderfyniadau:-

Er mwyn ei gwneud yn bosibl ymgeisio am fuddsoddiadau strategol allweddol mewn twf economaidd.

40.

Atodiad er gwybodaeth parthed adroddiad Caffael 2 x Uned Wasgarog (Diweddariad)

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Peidio gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod. 

 

Y rheswm dros y penderfyniad:-

Ni thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus

41.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim un mater.