Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Mai, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Cyswllt: Kay Davies 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod oddi wrth y Cynghorydd Rhodri Evans ac Eifion Evans, Prif Weithredwr.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

i.          Mynegwyd cydymdeimlad â Wyn a Mary John a’u teulu yn dilyn marwolaeth drasig eu mab.

ii.         Mynegwyd cydymdeimlad â Bronwen Morgan (cyn Brif Weithredwr) a’i theulu yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei mam.

iii.        Llongyfarchwyd y Gwasanaeth Tai ar ennill Gwobr Caffael Aur am eu cynllun 'Cartrefi Cynnes'.

iv.        Dathlodd Gynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion lwyddiannau yng ngwobrau Cymraeg Gwaith Cymru. Enillodd Mariolina Lai, sy’n Gynorthwyydd Gofal Dydd ym Min-y-Môr, y wobr am y ‘Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefelau Sylfaen+’. Daeth Alison Newby, sy’n Diwtor Rhifyddeg, Llythrennedd a Threfniadaeth Busnes, yn ail am y wobrDysgwr lefel Sylfaen+ sy'n gwneud y Defnydd Gorau o'r Gymraeg at bwrpas Gwaith’. Daeth Dewi Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith y Cyngor, yn ail am y wobrTiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn’. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r tri.

v.         Dywedodd y Cynghorydd Lynford Thomas ei fod, yng nghyfarfod arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2021, wedi cyfeirio'n anfwriadol at wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys mewn adroddiad eithriedig nad oedd ar gael i’r cyhoedd. Ymddiheurodd yn ddiffuant am y diofalwch a oedd wedi mynd yn groes i God Ymddygiad yr Aelodau.

3.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelwyd buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu yn eitem 13 isod gan y Cynghorwyr Catherine Hughes a Ceredig Davies a gadawsant y cyfarfod pan drafodwyd y mater hwnnw.

4.

Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr parthed COVID-19

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â COVID-19. Dywedodd fod y ffigurau'n parhau i fod yn isel yn y sir ond mae angen i bawb barhau i fod yn wyliadwrus. Mae'r rhaglen frechu yn parhau'n effeithiol ledled y sir ac mae’n debygol y bydd y brechiadau cyntaf yn cael eu cwblhau yn gynt na’r disgwyl. Disgwylir i'r ail frechiadau gael eu cwblhau erbyn mis Medi.

 

Gall lleoliadau lletygarwch nawr agor yn llawn a gall hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd rannu bwrdd y tu mewn. Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi'u trefnu a gall hyd at 50 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu.

 

Mae profion yn parhau ar gyfer staff ysgolion a disgyblion ysgolion uwchradd drwy Brofion Llif Unffordd ddwywaith yr wythnos. Mae Profion Llif Unffordd bellach ar gael i ofalwyr di-dâl hefyd. Mae ysgolion wedi agor yn llawn ac mae disgyblion blynyddoedd 11, 12 a 13 yn cwblhau eu hasesiadau ar hyn o bryd.

 

Bydd caeau chwarae ysgolion yn ailagor ac ar gael i'r gymuned eu defnyddio ar ôl gwyliau’r hanner tymor a bydd Canolfannau Hamdden Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan ynghyd â phwll nofio Llanbedr Pont Steffan yn agor ar 7 Mehefin 2021. Mae angen gwaith adfer sylweddol ym Mhlascrug a gwnaed trefniadau amgen ar gyfer defnyddio Neuadd Chwaraeon Penglais.

 

Disgwylir i wersi cerddoriaeth wyneb yn wyneb mewn ysgolion ailgychwyn ddiwedd mis Mehefin.

 

Mae’r parthau diogel wedi'u haddasu a byddant yn cael eu defnyddio dros wyliau’r hanner tymor ac yn ystod 6 wythnos o wyliau haf yr ysgolion.

 

Mae ymweliadau dan do mewn Cartrefi Gofal bellach ar gael drwy drefnu ymlaen llaw, a bydd ymweliadau dan do ar gael lle bo angen. Mae ymweliadau yn y podiau a ddarperir yn y Cartrefi Gofal yn parhau a byddant ar gael ar gyfer ymweliadau hirach yn fuan.

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2021 ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny. pdf eicon PDF 569 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi:                                

Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

6.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2021 ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny. pdf eicon PDF 447 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mawrth, 2021 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi:                                

Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion.

7.

Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd: Deiseb ynghylch diogelwch ar ffordd y B4340 pdf eicon PDF 842 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod y deisebau uchod wedi dod i law ac yr ymdrinnid â hwy yn unol â chanllawiau’r Protocol Deisebau

8.

Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda.

Cofnodion:

Gweler penderfyniad 14.

10.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch: Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.     Cymeradwyo’r cynnig i ddileu’r ddarpariaeth sedd wag ac i gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000

ii.    Cymeradwyo’r broses apeliadau ddiwygiedig i adlewyrchu gofynion Cyfansoddiad yr Awdurdod Lleol

iii.   Cymeradwyo’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol diwygiedig fel y’i cyflwynwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

1. Cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus   2000

2. Cydymffurfio â Rhan 7 Cyfansoddiad yr Awdurdod Lleol o ran aelodaeth o’r Panel Apeliadau Cludiant Addysg

 

11.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch: Cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol pdf eicon PDF 498 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Cadarnhau enwebu’r sawl a enwir yn yr adroddiad yn gynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn enwebu cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethol.

12.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant ynghylch: Polisi Gwrth-fwlio Ysgolion Ceredigion. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i. Cymeradwyo canllawiau ar gyfer Polisi Gwrth-fwlio Ceredigion

Hawliau, Parch a Chydraddoldeb 2019; a

ii. Argymell bod Cyrff Llywodraethol Ysgolion Ceredigion yn mabwysiadu'r Polisi.

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

Diweddaru a rhannu gwybodaeth gyda’r Cabinet ar y Dogfennau Canllawiau diweddaraf ar Wrth-fwlio yn Ysgolion Ceredigion.

13.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Cyllid a Chaffael ynghylch: Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021-22 Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 894 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig - Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021-22 Llywodraeth Cymru fel Rhyddhad Ardrethi Annomestig Dewisol o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988.

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn cefnogi busnesau lleol gan ddefnyddio’r cyllid grant sydd ar gael.

14.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfnidiaeth ynghylch: Polisi Adnoddau Dynol: Polisi’r Gofalwyr gan gynnwys adborth o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.          Argymell cymeradwyo’r Polisi Gofalwyr gan gynnwys yr ychwanegiadau canlynol fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

a.         Cynnwys rhif ffôn yr Uned Gofalwyr ym Mharagraff 11.2

b.         Cynnwys manylion cyswllt yr Uned Gofalwyr yn Adran 6

c.         Cynnwys rhifau ffôn Galw Iechyd Cymru yn Adran 6

d.        Ychwanegu’r paragraff canlynol at Adran 9.1:

Yn ystod argyfyngau, megis pandemig Covid-19, roedd gorfod gweithio gartref yn rhoi cyfle i rai gofalwyr gydbwyso eu gwaith a’u cyfrifoldebau gofalu. Roedd y profiad yn caniatáu gwell dealltwriaeth o'r hyblygrwydd sydd ar gael mewn unrhyw rôl benodol i'r gweithiwr a'r rheolwr llinell.’

ii.         Nodi’r adborth oddi wrth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

Er mwyn cydnabod a chefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol ochr yn ochr â’u cyflogaeth â thâl.

15.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch: Mabwysiadu Coed y Bryn, Aberaeron pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i. Awdurdodi codi Hysbysiad Adran 228, ac

ii. Os na ddaw gwrthwynebiadau, yn bwrw ymlaen â’r broses fabwysiadu.

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

I sicrhau y cynhelir llesiant y trigolion drwy gydol y gwaith parhaus o arolygu a chynnal heol yr ystâd.

16.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch: Cludo, didoli ac ailgylchu Deunydd Eildro Sych Cymysg pdf eicon PDF 523 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.              Cytuno i ddyfarnu’r contract i’r Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd, yn amodol ar gyfnod segur statudol o 10 niwrnod.

 

Rheswm dros y penderfyniad:-

Galluogi cludo, didoli ac ailgylchu deunydd eildro sych cymysg a gesglir o ddrws i ddrws.

17.

Ystyried adroddiad er gwybodaeth y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal ynghylch: Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd-CYSUR/CWMPAS, Chwarter 3 2020-21 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.              Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

18.

Ystyried adroddiad er gwybodaeth y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cynnal ynghylch: Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3, 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.              Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

19.

Ystyried adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghylch: Caffael Contract Cludo, didoli ac ailgylchu Deunydd Eildro Sych Cymysg

Nid yw’r papur yma ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitemau  yn breifat, ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o’r Ddeddf.

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD

i.              Peidio â gwahardd y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod oherwydd ni

thrafodwyd y ddogfen yn gyhoeddus.

ii.            Nodi’r wybodaeth o fewn yr adroddiad.

20.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet

Cofnodion:

Dim.