Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Cyswllt: Kay Davies
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|||||||||
Materion Personol Cofnodion: i.
Dymunwyd
y gorau i Kay Davies, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, ar ei
hymddeoliad. ii.
Llongyfarchwyd
y Cynghorydd Alun Williams am gael ei benodi’n Faer Aberystwyth. iii.
Dymunwyd
y gorau i Rhys Norrington Davies sydd yn Baku ar hyn o bryd gyda thîm pêl-droed
Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Euro 2020.
iv.
Llongyfarchwyd
Osian Jones, Ysgol Ciliau Parc, enillydd y gystadleuaeth dan 12 oed i greu
siant bêl-droed newydd i gefnogi tîm pêl-droed Cymru. v.
Llongyfarchwyd
Meinir Mathias am ennill ‘Gwobr y Bobl’ yr Academi Frenhinol Gymreig. vi.
Llongyfarchwyd
yr Uned Ofalwyr am drefnu Wythnos Ofalwyr lwyddiannus. vii.
Llongyfarchwyd
disgyblion Ceredigion ar y gwobrau a enillwyd yn yr Eisteddfod T hynod
lwyddiannus, a gynhaliwyd o Langrannog yn ddiweddar. Llongyfarchwyd yr Urdd hefyd am drefnu
wythnos lwyddiannus o gystadlu. viii.
Llongyfarchwyd
Ann Jones am gael ei hethol yn Gadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched. |
|||||||||
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd Elin
Prysor fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghofnod 34 isod a
gadawodd y cyfarfod pan drafodwyd y mater hwnnw. |
|||||||||
Diweddariad ar lafar gan Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr parthed COVID-19 Cofnodion: Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ddiweddariad ar lafar parthed
COVID-19. Nododd fod yr
amrywiolyn Delta yn achosi pryder yng Nghymru a ledled y DU a bod nifer yr
achosion yn cynyddu. Cofnodwyd saith
achos newydd yng Ngheredigion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n gyfystyr â
9.6 i bob can mil; fodd bynnag mae’r gyfran sy’n profi’n bositif yn parhau’n
gymharol isel, sef 1.2%. Mae’r gyfradd
ar gyfer Cymru gyfan yn cyfateb i 20.1 i bob can mil, gyda’r gyfradd sy’n
profi’n bositif yn 2%. Nodwyd, fodd
bynnag, bod angen i bob un ohonom fod yn ofalus a sicrhau ein bod yn cadw
pellter cymdeithasol, yn gwisgo mygydau ac yn golchi’n dwylo’n aml. Nodwyd nad
yw nifer yr achosion wedi cynyddu’n sylweddol yng Ngheredigion wedi gwyliau’r
hanner tymor, o’i gymharu ag ardaloedd eraill.
Mae’r rhaglen
frechu’n parhau’n effeithiol, ac yng Ngheredigion mae 67% wedi cael y brechlyn
cyntaf a 40.4% wedi cael yr ail frechlyn.
Bellach mae pawb dros 18 oed wedi derbyn gwahoddiad i gael eu brechlyn
ac o ran y sawl a oedd efallai wedi methu eu hapwyntiad gwreiddiol, mae cyfle o
hyd iddynt fynd i gael eu brechu. Ar hyn
o bryd, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn edrych ar y
dystiolaeth sy’n ymwneud â sut i gymhwyso’r brechlyn i bobl ifanc 16 a 17 oed,
yna byddant yn ystyried y rhai dros 12 oed.
Nododd yr
Arweinydd iddi gyfarfod â Phenaethiaid pob ysgol y diwrnod cynt ac iddi ddiolch
iddynt am eu holl waith yn ystod yr amryw gyfnodau clo, gan gydnabod hefyd y
pwysau ychwanegol o gynnal asesiadau yn lle arholiadau. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr wythnos, gyda
disgyblion yn cael y cyfle i apelio ynghylch eu graddau, fodd bynnag bydd y
graddau terfynol yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol ganol mis Awst. Nid oes unrhyw
achosion mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd.
Mae’r rhan fwyaf o’r staff a’r trigolion yno wedi’u brechu a cheir
podiau ymweld yn y gerddi. Gobeithir y
bydd ymweliadau y tu mewn i’r adeilad yn gallu dechrau cyn bo hir, ond bydd hyn
yn cael ei fonitro’n ofalus, gan roi ystyriaeth i unrhyw gynnydd mewn
achosion. Mae’r Parthau
Diogel wedi’u haddasu ers iddynt gael eu cyflwyno y llynedd a threialwyd y
newidiadau yn ystod y gwyliau hanner tymor diweddar. Ar y cyfan, buont yn
llwyddiannus mewn cyfnod o wyliau hanner tymor prysur. Bydd y Parthau Diogel yn cael eu hailgyflwyno
ar gyfer cyfnod gwyliau haf yr ysgolion.
Mae darparwyr
lletygarwch a llety yn parhau’n brysur.
Mae grantiau busnes ar gael gan wasanaeth ‘Busnes Cymru’ yn ogystal â
thrwy Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r
llyfrgelloedd wedi ailagor i’r cyhoedd drwy apwyntiad ac mae hi’n dal yn bosibl
trefnu gwasanaeth clicio a chasglu. Mae’r cyfleusterau awyr agored sydd ar safleoedd ysgolion wedi ailagor ac maent ar gael yn awr at ddefnydd mudiadau cymunedol. Mae Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan ar agor erbyn hyn, fodd bynnag mae angen gwaith cynnal a chadw pellach ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau bod
cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 yn rhai cywir. Materion yn codi: (i) Nid oedd
materion yn codi o’r cofnodion. |
|||||||||
Unrhyw ddeisebau a dderbynwyd Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau. |
|||||||||
Unrhyw benderfyniadau (os oes rhai) a alwyd i mewn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Cofnodion: Dim. |
|||||||||
Unrhyw adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd ddim ar yr agenda. Cofnodion: Cyfeirier at
benderfyniadau 31 a 38 isod. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a’r Ysgolion ar gyfer 2021-2024. Y rheswm dros y penderfyniad:- Er mwyn
bwrw ymlaen â’r broses o gael Corff Llywodraethol pob ysgol i lofnodi’r
cytundeb fel ei fod yn weithredol o 1 Medi 2021 ymlaen. |
|||||||||
Cofnodion: Nodwyd adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu. PENDERFYNIAD i.
Cymeradwyo
dileu’r Polisi Adolygu Ysgolion ii.
Cymeradwyo’r
Llawlyfr Trefniadaeth Ysgolion. Y rheswm dros y
penderfyniad:- Er mwyn cydymffurfio â
Chanllaw Statudol Llywodraeth Cymru – ‘Cod Trefniadaeth Ysgolion’ 011/2018. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo
fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032, a 2.
Chytuno
i weithredu cyfnod ymgynghori yn ystod hydref 2021 am yr wyth wythnos sy’n
ofynnol 3.
Nodi
adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Y rheswm dros y penderfyniad:- Yn unol
â ‘Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019’ |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cadarnhau’r polisi derbyn
disgyblion 2022/23. Y rheswm dros y penderfyniad:- Er mwyn cael polisi ar
waith ar gyfer 2022/23. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo Adroddiad
Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion
(2020-21) i’w gyhoeddi
ar wefan y Cyngor. Y rheswm dros y penderfyniad:- Dyletswydd statudol yn unol â Mesur y Gymraeg
2011. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD i. Cymeradwyo’r
ffioedd a argymhellir ar gyfer lleoliadau yng Nghartrefi Gofal Preswyl Sector
Annibynnol Ceredigion ar gyfer 2021/22 ar y lefelau wythnosol canlynol, mewn
grym o 05.04.2021
ii. Cymeradwyo’r
argymhelliad bod y Ffioedd am Ofal Preswyl yng Nghartrefi Awdurdod Lleol
Ceredigion yn cael eu diweddaru a’u cymeradwyo ar gyfer 2021/22 ar y lefelau
wythnosol canlynol, mewn grym o 12/04/2021:
iii. Cytuno bod y man cychwyn ar gyfer comisiynu
lleoliadau Pobl Hŷn y Tu Allan i’r Sir yn uchafswm y cyfraddau Pobl
Hŷn yn y Sir y cytunwyd arnynt, oni bai nad oes argaeledd yn y sir (ac
eithrio lleoliadau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle bydd y Cyngor yn parhau
i fod cystal â chyfraddau’r priod awdurdod lletyol). Fodd bynnag, bydd pob achos bob amser yn cael
ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun fesul achos. Y rhesymau dros y penderfyniad:- Cytuno ar ffioedd a’u pennu
ar gyfer 2021/22. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD i.
Nodi
caffael yr Uned Wasgarog gyntaf yn ardal Aberystwyth yn unol â phenderfyniad y
Cabinet ar 23/02/21 ii.
Dirymu penderfyniad C150 ii)
23/02/21 (caffael yr Ail Uned Wasgarog yn Aberystwyth). iii.
Cymeradwyo caffael yr ail Uned
Wasgarog, mewn egwyddor iv.
Rhoi pŵer dirprwyedig i aelod y Cabinet ac i Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal wneud newidiadau, yn ôl yr angen, i
weithredu’r materion a godir yn yr adroddiad hwn. Y rheswm dros y penderfyniad:- Cynorthwyo’r Awdurdod i sicrhau
eiddo priodol er mwyn cael
mwy o ddarpariaeth o ran llety addas a diogel
i’w defnyddio gan rai sy’n ffoi
rhag trais domestig. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo datblygu’r
cynllun rhanbarthol i ddarparu llety
diogel, yn benodol ar gyfer
defnydd cyllid y Gronfa Gofal Integredig
(ICF) i brynu a sefydlu canolfan llety diogel canolog
yn rhanbarthol, ar gyfer plant ag
anghenion cymhleth. Y rheswm dros y penderfyniad:- Er mwyn rhoi’r mandad
gwleidyddol i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol gytuno â datblygiad y ganolfan rhanbarthol. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r mabwysiadu arfaethedig ar Gwrt Dulas, Llanbedr Pont Steffan
drwy broses Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980 a’i chynnal ar gost gyhoeddus wedi
hynny. Y rheswm dros y
penderfyniad:- Er
mwyn i’r ffordd allu cael ei chynnal ar gost gyhoeddus. |
|||||||||
Cofnodion: 1. Cymeradwyo’r
Cynllun Gweithredu Sero-Net a’r Camau Gweithredu a nodir ynddo; 2. Nodi y byddai
ymgynghori ar unrhyw gynigion i wneud y Parthau Diogel yn barhaol ac y byddent
yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet er penderfyniad; 3. Gwahodd
cynrychiolydd o Grŵp y Rhyddfrydwyr Democrataidd i fynychu’r Grŵp
Rheoli Carbon. Y rheswm dros y
penderfyniad:- Cefnogi
ymrwymiad y Cyngor i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. |
|||||||||
Cofnodion: PENDERFYNIAD
i. Cytuno â’r egwyddor bod Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno ceisiadau am
arian o Gronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adfywio Cymunedol, fel y’u hamlinellir
yn gryno yn y papur.
ii. Cymeradwyo rôl Cyngor Sir Ceredigion fel awdurdod arweiniol ar gyfer y
ceisiadau, ac yn dilyn hynny ei fod yn llunio cytundebau cyfreithiol gyda
phartneriaid cyflenwi, pe bai’r ceisiadau am arian yn llwyddiannus. Y rheswm dros y penderfyniadau:- Er mwyn ei gwneud
yn bosibl ymgeisio am fuddsoddiadau strategol allweddol mewn twf economaidd.
|
|||||||||
Atodiad er gwybodaeth parthed adroddiad Caffael 2 x Uned Wasgarog (Diweddariad) Cofnodion: PENDERFYNIAD Peidio gwahardd y cyhoedd
a’r wasg o’r cyfarfod. Y rheswm dros y penderfyniad:- Ni thrafodwyd
y ddogfen yn gyhoeddus |
|||||||||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Cabinet Cofnodion: Dim un mater. |