Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
y Cynghorydd Mark Strong a Mr Andrew Blakemore na fedrent ddod i’r cyfarfod am
eu bod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd
y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol yng nghyswllt eitem 6. |
|
Archwilio Cymru - Llythyr Ymholiadau Archwilio 2023-24 Cofnodion: CYTUNWYD
i nodi cynnwys Llythyr Ymholiadau Archwilio – Archwilio Cymru 2023-24. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24. CYTUNWYD i: i)
nodi
ac ystyried y cynnwys, a ii)
argymell
bod y Cyngor yn cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023-24. Roedd yr
Aelodau am ddiolch i’r swyddogion am ddiwygio a symleiddio templed y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol a oedd bellach yn llawer haws ei ddarllen. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael Ddatganiadau Cyfrifon
Cyngor Sir Ceredigion ac Awdurdod Harbwr Ceredigion 2023/2024 gan dynnu sylw at
faterion gweithdrefnol a chyflwyniadol. Hefyd, rhoddodd esboniad am yr
adroddiad camarweiniol yn y wasg leol ynglŷn â’r cynnydd yn nifer yr uwch
swyddogion a oedd yn derbyn cyflogau uwch. Dywedodd fod y datganiad hwn yn
anghywir ac mai llusgiad cyllidol a throthwyon treth oedd i gyfrif am hyn.
Roedd rhan fwyaf y gweithwyr a oedd wedi’u cynnwys yn y tabl cyflogau yn staff
ysgolion megis penaethiaid. Cafwyd sylwadau a chwestiynau gan y Pwyllgor am
rai materion yn y cyfrifon. Diolchodd
yr Aelodau i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael a’r Rheolwr
Corfforaethol – Cyllid Craidd a’u staff am eu gwaith caled o ran paratoi’r
Datganiad. CYTUNWYD
i argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Ceredigion a
Datganiadau Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2023/2024 fel y’u
cyflwynwyd gan nodi y byddai Aelod o’r Pwyllgor yn cyflwyno argymhelliad y
Pwyllgor gerbron y Cyngor y prynhawn hwnnw. |
|
Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd Mr Derwyn Owen o Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno’r
adroddiad. Tynnodd
Mr Owen sylw’r Aelodau at y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.
Cafodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael a’i swyddogion eu
llongyfarch am eu gwaith wrth gwblhau’r archwiliad. Esboniodd
Mr Owen fod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ar
gyfrifon 2023-24, unwaith y byddai’r Awdurdod Lleol wedi darparu
Llythyr Cynrychiolaeth iddyn nhw ar ôl cyfarfod y Cyngor Llawn yn ddiweddarach
y prynhawn hwnnw. Diolchodd
Aelodau’r Pwyllgor i bawb a oedd yn ymwneud â’r mater, i Swyddogion y Cyngor ac
i Archwilio Cymru am y cydweithrediad a ddangoswyd wrth archwilio’r cyfrifon,
gan groesawu adroddiad a oedd yn gadarnhaol iawn. CYTUNWYD: (i)
nodi cynnwys yr adroddiad; (ii)
i longyfarch y gwasanaeth am yr adroddiad rhagorol; a (iii) y byddai eitem yn
cael ei chynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor ynghylch derbyn adroddiad
cynnydd ynglŷn â materion yn ymwneud ag archwilio a phrisio Eiddo,
Peiriannau ac Offer. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |